Dilyn Ieuan
Ystrydeb fyddai dweud bod y ras i arwain Plaid Cymru yn fwy o farathon nac o sbrint. A dweud y gwir dydw i ddim yn sicr bod hyd yn oed 'marathon' yn gwneud tegwch a'r ornest!
Mae'n ymddangos bod dewis arweinydd y Blaid yn broses bron mor hir â chymhleth ac ethol arlywydd yn yr Unol Daleithiau er efallai un llai lliwgar a chostus! Mae'n gynnar iawn i ddarogan pwy fydd yn cario'r dydd. Dydw i ddim am fentro proffwydo pwy yw'r Rick Perry na'r Herman Caine yn y ras hon!
Un peth y mae'r ymgyrchoedd i gyd yn cytuno yn ei gylch yw bod 'na lawer o aelodau'r blaid sydd heb gyrraedd penderfyniad terfynol ynghylch sut i fwrw eu pleidleisiau yn enwedig eu pleidleisiau ail-ddewis.
Ar ôl dweud hynny oll mae'n amlwg mai'r ymgeisydd sydd wedi gwneud marc yn y sgarmesau cynnar yw Leanne Wood. Roedd sicrhau cefnogaeth y mab darogan , Adam Price, yn dipyn o strôc ac mae cefnogaeth y cyn brif weithredwraig Gwenllïan Lansdown-Davies yn bell o fod yn ddi-werth. Dylai unrhyw un oedd yn credu mai sefyll i 'wneud pwynt' oedd aelod canol de Cymru fod wedi llwyr ddadrithio erbyn hyn.
Mae ambell i bleidlais rhyngrwyd hyd yn oed yn awgrymu mai Leanne yw'r ceffyl blaen o beth wmbreth ac yn ôl un hen ben yn rhengoedd ymgyrch Elin Jones cael a chael yw hi rhwng y ddwy ferch yn y ras gyda'r bechgyn ymhell ar ei hol hi.
Hyd yn oed os ydy'r 'hen ben' yn gywir gyda llwyth o gyfarfodydd ac wythnosau o ymgyrchu i fynd mae'n rhy gynnar o bell ffordd i ddweud hyd sicrwydd bod patrwm yr ornest wedi ei osod ac mae natur y bleidlais amgen yn golygu'n aml mai 'ail ddewis pawb' sy'n llwyddo ar ddiwedd y dydd. Cyrraedd y rownd olaf yw'r dasg sy'n wynebu Dafydd Elis a Simon Thomas. Dyw honno ddim yn dasg hawdd ond o'i chyflawni gallai buddugoliaeth fod yn bosib
Y cyfan ddywedaf i yw bod y ras yn un llawer mwy difyr a diddorol nac oeddwn i wedi rhagweld.
SylwadauAnfon sylw
Dwi ddim mor hen a'r 'hen ben' fuodd yn siarad a VR. Ond o wrando ar fy nghyfeillion ac ambell i gyd-weithiwr mae'n amlwg fod gan Dafydd El ei gefnogwyr (tawel, ar hyn o bryd). Tybed mai'r dream ticket fydd Dafydd i arwain a Leanne i ddirprwyo. Dwi'n eitha licio'r syniad fy hunnan.
Dwi'n byw i'r de o Afon Dyfi gyda llaw
Petai'r pleidleisio'n digwydd ar y we byddai Leanne wedi ennill yn barod. Mae hi mor bell ar y blaen yn y polau (cwbl anwyddonol, wrth reswm) ar Facebook mae'n anhygoel (y sgôr diweddaraf yn ôl un: LW: 185, EJ: 37, DET: 15, ST: 7). Cael y rhai sy'n hapus i glicio botwm ar y wefan honno i ymaelodi â'r blaid yw'r her, ond mae'n debyg bod Leanne yn profi cryn dipyn o lwyddiant yn hynny o beth hefyd.
Rwy'n credu bydd yr ail ddewisiadau'n dyngedfennol. Os oes gan Leanne broblem, denu ail bleidlais cefnogwyr y lleill fydd hynny. Y tri arall yw'r dewisiadau "sefydliadol".
Mae pawb ar y we yn dweud wrtha'i eu bod nhw'n cefnogi Leanne, ond pawb yn y cigfyd yn dweud eu bod nhw'n cefnogi Elin Jones. Ond dw i yn byw yng Ngheredigion...
Os ydych chi'n gywir am 'ail ddewis pawb' dw i'n amau mai Elin Jones eiff a hi! 1. Elin Jones 2. Leanne Wood. 3. DET 4. Simon Thomas.
Hmmm. Onid DET oedd Llywydd y Cynulliad pan ofynodd i Leanne i ymddiheuro am alw preswylwraig Palas Buckingham (a mannau eithaf ysblenydd eraill yn y Deynas Ranedig hon) yn Mrs Windsor - a bu i Leanne adael y Siambr am wrthod gwneud? Diddorol fyddai clywed trafodaethau yn y Blaid Genedlaethol pe bai'r 'dream ticket' [sic.] hon yn ennill... Neu hyd yn oed pe bai'r esgid ar y droed arall, a Leanne yn fos ar DET...
A thybed a ydy eraill wedi sylwi ar yr argymhelliad o newid enw'r Blaid yn Saesneg i "Welsh National Party"? Ai ceisio efylchiad o'r Scottish National Party a'i llwyddiant ysgubol hi a wneir yma, ynteu hen synig crebaclyd ydwyf i? Chwadal a'r Sais, "Imitation is the best form of flattery."
Ac yn dilyn Private Eye, "I think we should be told."
Pob hwyl,
Fe fues i i gyfarfod Leanne Wood ym Mlaenau Ffestiniog neithiwr, ac fe ges i fy ysbrydoli'n fawr.
Mae ei syniadau cymunedol ac economaidd yn deillio i raddau helaeth o waith DJ Davies, Noelle Davies, Leopold Kohr, Raymond Williams ac ati, ac mae'n driw i egwyddorion craidd y Blaid.
Byddwn i'n annog pawb i fynd i un o'i chyfarfodydd i gael cyfle i wrando ar yr hyn sydd ganddi i'w gynnig, a'i holi.
Gyda'r 3 plaid unoliaethol yn gytun ar sut i ddelio â'r economi, dan arweinyddiaeth Leanne, gallai Plaid Cymru gynnig y dewis amgen sydd ei angen ar bobl Cymru - mae yno botensial anferth i dorri drwodd ar hyn o bryd. Colli cyfle mewn cenhedlaeth fyddai peidio dewis Leanne yn arweinydd. Dewch mlaen, mae 'na rywbeth mawr ar droed!
Na, ti'n byw yng ngwlad cwcw'r cymylau . Petai DET yn arweinydd, buasai'n ddiwedd ar y Blaid , gan y byddai cannoedd o aelodau'n ymddiswyddo (Fi yn eu plith) , a miloedd yn anobeithio. Nid yw'n genedlaetholwr , ac mae'n frenhinwr a Phrydeiniwr . Credaf y buasai awgrym o Blaid newydd yn cael ei ffurfio petai'n cael ei godi'n arweinydd . Buasai Cymru ar gyfeiriad dirgroes i'r Alban .
Os mai cyfeirio ataf fi, wyt ti Josgin yn rhif 6, derbynia mai bod yn eironig oeddwn i - dyna paham roes i [sic.] mewn cromfachau sgwar.
Mae'n debyg dy fod yn gywir yn dy ddamcaniaethau eraill yn weddill dy bost. Gan nad ydwyf yn aelod o'r Blaid fy hun, gwerthfawrocaf sylwadau un oddi mewn iddi.
Sion S Rh Y G. Nid cyfeirio atat ti oedd Josgin ond at fy sylw i, mwy na thebyg. Os caf fod yn blismon iaith am funud Sion, nid yw gosod [sic.} ar ol gair yn dynodi irony. Mae [sic.] golygu rhywbeth fel 'yn union fel hyn' ac yn cael ei ddefnyddio gan amlaf pan mae rhywun yn dyfynnu camsillafiad neu ddyfyniad anghywir - ond byth i ddynodi irony. Felly os wyt ti am wawdio sylw rhywun arall paid rhoi [sic.] ar 'i ol neu mi fydd e' fel fi yn amau a oedd e' wedi syllafi[sic.] dream ticket yn gywir. Sori am fod yn boring.
Nol at y dream ticket, Mae yr Arg yn edrych fel arweinydd a llond wardrobe o ddillad siarp i gryfhau ei ddelwedd. Gan Leanne mae'r meddwl siarp (efallai.) Rhowch y ddau gyda'i gilydd.