|
|
Barddoniaeth
i blant
Hefyd - y rhestr diweddaraf o lyfrau newydd
sydd ar werth
Dydd Iau, Hydref 19, 2000
|
I fynd yn syth at y rhestr o lyfrau newydd
cliciwch yma:
Mae’n weddus mai bardd swyddogol plant Cymru sydd y tu ôl i ddau
lyfr newydd yn denu plant at farddoniaeth.
Eu denu, nid yn unig i ddarllen batrddoniaeth ond eu hannog i gyfansoddi
eu cerddi eu hunain hefyd.
Ar ben hynny y mae canllawiau i helpu plant ddeall barddoniaeth
a gwahaniaethu rhwng yr amryfal wahanol fathau o gerddi sydd ar
gael - yn amrywio o Haicws Siapaneaidd i Limrigau , Tribannau Morgannwg
a’r mesurau cynganeddol.
Dau lyfr cyntaf mewn cyfres yw Armadilo ar fy Mhen a Sach Gysgu
yn Llawn o Greision gan y Prifardd Myrddin ap Dafydd
Rhwng y ddwy gyfrol y mae cerddi gan oddeutu hanner cant o feirdd
Cymraeg a’r rheini yn amrywio o ddwli digri-wirion i’r dwys a difrifol.
Mae’r amrywiaeth o feirdd yn deilwng iawn ac nid anghofir fod caneuon
poblogaidd rhywun fel Dafydd Iwan yn gymaint o farddoniaeth a gwaith
beirdd mwy traddodiadol fel Ceiriog, I. D. Hoosos, T. Llew Jones
ac yn y blaen.
Y mae nifer o’r beirdd fel Lis Jones yn sgrifennu’n benodol ar gyfer
plant.
Er mai ‘gwerslyfrau’ wedi eu rhannu yn ddeuddeg gwers neu "uned"
yr un yw y rhain, dydyn nhw ddim yn ymddangos fel llyfrau ysgol.
Mae’r diwyg yn fywiog, cyffrous a llawen gyda fflyd o gartwnau ardderchog
gan Sian Morris.
I unrhyw un - bydded blentyn neu oedolyn - y mae y cyfrolau hyn
yn ddetholiadau heb eu hail o farddoniaeth ac ni ddeuai rhywun byth
i ben wedi dechrau dyfynnu ohonyn nhw.
Buddiol hefyd yw y nodiadau bywgraffyddol cryno am bob un o’r beirdd.
Yn ei sylwadau cyn cychwyn dywed Myrddin ap Dafydd: "Wrth ymdrin
â barddoniaeth, rydym yn ymwneud â’r pleser o drin geiriau mewn
sawl ffordd ddiddorol a dyfeisgar. Mae’n bwysig pwysleisio’r pleser
sy’n perthyn i’r grefft a’r mwynhad yn y darllen fel ei gilydd.
Unedau i’w mwynhau yw cynnwys y llyfr hwn . . ."
Mae fy nghenhedlaeth i yn cofio cyfnod pan nad oedd hynny’n wir
a barddoniaeth a poetry yn troi’n hunllef addysgol i blant yn nwylo
rhai athrawon - er i mi’n bersonol fod yn ffodus yn fy athrawon
Cymraeg a Saesneg i.
Pris y ddau lyfr yw £7 yr un. Cyhoeddir gan Wasg Carreg Gwalch.
Dyma restr yr wythnos
hon o
lyfrau newydd:
LLYFRAU CYMRAEG A DWYIEITHOG CATRIN JONES YN UNIG: Meleri Wyn James
1859029078 Gwasg Gomer £6.95 Nofel gyfoes ar ffurf dyddiadur merch
yn ei hugeiniau.
CYFRES NOFELAU I'R ARDDEGAU: BOZ A SLEIMI: Mari Williams 185902825X
Gwasg Gomer £3.95 Nofel wreiddiol ar thema bwlio, i rai yn eu harddegau.
CYFRES STRAEON PLANT BACH: EIRA WEN: Addas. Myrddin ap Dafydd 0863816487
Gwasg Carreg Gwalch £2.50 Llyfr bwrdd yn cyflwyno stori werin draddodiadol.
CYFRES STRAEON PLANT BACH: TRI MOCHYN BACH, Y: Addas. Myrddin ap
Dafydd 0863816460 Gwasg Carreg Gwalch £2.50 Llyfr bwrdd yn cyflwyno
stori werin draddodiadol.
FFEILOFFAITH 2001: 0862435390 Y Lolfa £4.95 Fersiwn ffeiloffaith
o ddyddiadur poced y Lolfa. Tudalennau rhydd a sbeiral.
LLYFRAU SAESNEG O DDIDDORDEB I GYMRU
CELTIC RITUALS - AN AUTHENTIC GUIDE TO ANCIENT CELTIC SPIRITUALITY:
Alexei Kondratiev 1902012186 New Celtic Publishing £5.00 Astudiaeth
o ddefodau'r chwe chenedl Geltaidd.
CYNULLIAD CENEDLAETHOL CYMRU / NATIONAL ASSEMBLY FOR WALES, THE
- THE ESSENTIAL GUIDE 2000: 1902724232 UWIC £7.50 Cyfeirlyfr yn
cynnwys gwybodaeth am y Cynulliad a'i aelodau.
DETECTIVE'S STORY, A: David Marsh-Smith 1903314054 David Marsh-Smith
£4.95 Hanes profiadau plismon Prydeinig yn India ar ddechrau’r ugeinfed
ganrif.
DYLAN THOMAS - COLLECTED POEMS 1934-1953: Dylan Thomas Goln. Walford
Davies, Ralph Maud 0753810662 The Phoenix Press £5.99 Casgliad o
gerddi un o feirdd gorau'r ugeinfed ganrif.
HIDDEN INNS OF WALES, THE: Gol. Barbara Vesey 1902007530 Travel
Publishing Ltd. £5.99 10 o benodau yn rhoi sylw i holl ardaloedd
Cymru.
MULTIVERSE: Don Rodgers 1854112821 Seren £6.95 Casgliad newydd o
gerddi.
OWEN AND THE MOUNTAIN: Malachy Doyle Darl. Giles Greenfield 074754770X
Bloomsbury Publishing Ltd £9.99 Stori i blant am y berthynas rhwng
bachgen a'i daid.
RELIGION, CULTURE AND SOCIETY: NOVEL, SPIRITUALITY AND MODERN CULTURE,
THE: Gol. Paul S. Fiddes 0708315992 Gwasg Prifysgol Cymru £14.99
Ysgrifau gan wyth o nofelwyr.
WELSH BOOK OF THE DEAD, THE: Douglas Houston 1854112783 Seren £6.95
Casgliad o gerddi.
Mae'r rhestr hon gan y Cyngor Llyfrau yn cael ei diweddaru bob dydd
Iau. I gael holl fanylion y llyfrau, ac i archebu trwy siop lyfrau
o'ch dewis chi, cliciwch ar
|
|
|