| |
|
|
|
|
|
|
|
Llyfr y Flwyddyn 2005 Y deg sydd yn y ras - cyhoeddi'r rhestr fer hir
Cyhoeddwyd rhestr fer hir Llyfr y Flwyddyn 2005 mewn seremoniau yn y de a'r gogledd Ddiwrnod y Llyfr, Mawrth 3, 2005.Mae'r rhestr o ddeg llyfr Cymraeg yn cynnwys llyfrau ffeithiol, barddoniaeth a ffuglen.
Bydd tri o'r rhain yn cael eu dewis ar gyfer rhestr fer derfynol ymhen rhai wythnosau; yna datgelir pa un fydd y llyfr buddugol mewn seremoni yng Nghaerdydd ar Fehefin 21. Bydd yr enillydd yn derbyn 拢10,000. Felly hefyd awdur y llyfr y flwyddyn yn Saesneg. Datgelwyd enwau'r deg llyfr mewn seremon茂au yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd ac yn Llyfrgell Wrecsam. Yn ystod yr wythnosau nesaf bydd yr awduron y deg llyfr yn teithio o amgylch Cymru yn darllen o'u gwaith a'i drafod. Dyma'r ail dro i hyn gael ei drefnu gyda'r bwriad o roi cymaint a phosibl o sylw i lyfrau Cymraeg. Y tri beirniad Cymraeg eleni ydy Hafina Clwyd, Meg Elis a Tony Bianchi a'r beirniaid Saesneg yw; Charlotte Williams, Tony Brown a Patrick Hannan. Dyma'r deg llyfr Cymraeg a ddewiswyd ganddynt. Gellir clicio i ddarllen adolygiadau: gan Simon Brooks. Gwasg Prifysgol CymruY Llaw Broffwydol gan Gareth Alban Davies. Gwasg Y Lolfa gan Grahame Davies. Gwasg Gomer gan Gwenno Ffrancon. Gwasg Prifysgol Cymru gan Annes Glynn. Gwasg Gwynedd gan Bethan Gwanas. Gwasg Y Lolfa gan Alun Jones. Gwasg Gomer gan Caryl Lewis. Gwasg Y Lolfa gan Elin Llwyd Morgan. Gwasg Y Lolfa gan Emyr Lewis. Gwasg Carreg Gwalch
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|