|
Esgyrn Bach Hwyl, rhyfeddod a rhwystredigaeth
Adolygiad Glyn Evans o esgyrn bach gan Tony Bianchi. Y Lolfa. 拢7.95.
Nid ym mhob nofel y cewch chi adolygiad o'r nofel honno yn rhan ohoni - yn ddarn o'r stori.
Y mae yna adolygiad - neu o leiaf werthusiad o esgyrn bach ar dudalen "413" o'r nofel.
Ond dyna fo, nid nofel arferol mo hon gyda'i lluniau, diagramau, siartiau llif, tablau ac yn y blaen.
A sylw sy'n cael ei wneud ynddi, amdani, yw "fod unrhyw ystyr allasai fod ynddi . . . yn cael eu lluchio y tu hwnt i gyrraedd y darllenydd mwyaf diwyd."
Gwelodd y rhai hynny ohonom a fu'n pori ym meirniadaeth cystadleuaeth Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol 2004 arwyddion o hynny'n barod gyda Harri Parri, Hafina Clwyd a John Rowlands yn cyfaddef i wahanol raddau o ddryswch.
Ond y tri yn cydnabod y bydden nhw wedi rhoi'r wobr iddi oni bai fod gwaith arall yn rhagori.
Yn dilyn eu sylwadau hwy yr oedd yn rhaid cyhoeddi'r gwaith pe na byddai ond inni gael gweld beth oedd wedi cyfareddu, goglais a drysu'r beirniaid. Yr ydym yn ddyledus i'r Lolfa am wneud hynny.
Yn wahanol Heb os, mae esgyrn bach yn nofel wahanol ac fe fydd ei darllen yn brofiad annisgwyl i'r rhai hynny sydd wedi bodloni ar nofeligau Cymraeg llai anturus.
Mae'n bwysig dweud, fodd bynnag, nad yw 'gwahanol' o anghenraid gyfystyr a 'da' ond efallai y down ni at hynny yn nes ymlaen.
Un peth sy'n sicr, fe fydd yna ddegau yn colli eu hamynedd yn llwyr gyda'r hyn a welant hwy fel dim amgen na lol wirion.
Pennu grantiau Nofel ddychan yw hi gyda'r dychan hwnnw wedi ei anelu yn bennaf at y gyfundrefn bennu grantiau llenyddiaeth yng Nghymru.
Mae hynny'n arwyddocaol gan mai Tony Bianchi fu'n rhedeg y gyfundrefn honno nes iddo ymddeol dro'n 么l.
Ei g诺yn sylfaenol yw fod y gyfundrefn wedi ei llunio yn y fath fodd fel bod yna fwy o bwyslais ar weinyddiad nag ar safonau celfyddydol.
Steffan, gwas sifil yn y "Weinyddiaeth er Hyrwyddo Buddiannau Strategol y Celfyddydau" ydi prif gymeriad y nofel ac yn un sydd wedi ei lwyr ddadrithio gan ei swydd a'r drefn gor-fiwrocrataidd gyda'i thrigain cam namyn un o werthuso y mae'n rhan ohoni. Trefn sydd wedi ei droi yn greadur cwbl obsesiynol yn ei fyw a'i fod.
Mae'r nofel yn dilyn ei hynt yn 'gwerthuso' Cais 86
Ffordd o feddwl "Os yw'r nofel yn dychan rhywbeth mae'n dychan ffordd o feddwl lle mae mesur gwaith wedi mynd yn bwysicach na'r gwaith ei hunan - hynny yw, llenwi ffurflenni, paratoi ystadegau ac yn y blaen fel bod dim amser ar 么l gyda chi i wneud y gwaith sy'n cyfrif," meddai Tony Bianchi wrth gael ei holi am ei nofel gan Gwilym Owen ar ei raglen radio dro'n 么l.
"Hwnna," ychwanegodd, "sydd wedi mynd yn obsesiwn ac mae wedi mynd yn obsesiwn ym mhob man. Mae'n felltith sydd yn rhedeg drwy'n cymdeithas i gyd."
Wrth gael ei holi aeth cyn belled 芒 chytuno 芒 Gwilym Owen fod peryg i'r drefn sydd ohoni ladd llenydda yn hytrach na'i hybu.
"Yn bendant," dywedodd. "Erbyn y diwedd ychydig o amser oedd gen i, i roi geiriau o symbyliad ac ysgogiad achos roeddwn i'n rhy brysur yn ceisio egluro systemau wrthyn nhw.
"Mae hyn i gyd i'w wneud 芒 dwy iaith sydd ddim yn gydnaws 芒'i gilydd; hynny yw, iaith gweinyddu a iaith creu lle mae'n rhaid i'r gweinyddwr dreulio oriau yn egluro wrth awdur, yn egluro wrth fardd er enghraifft, sut mae cyfiawnhau ei waith, sut mae cyfiawnhau cerdd yn nhermau hyrwyddo rhyw bolisi hygyrchedd neu bolisi cydraddoldeb. "Mae rhywbeth mawr o'i le."
Er mwyn ceisio dangos pa mor warthus y sefyllfa dywedodd fod rhai awduron yn methu llenwi ffurflenni ac eraill "yn chwerthin am fy mhen . . . am ddefnyddio iaith annealladwy" y gweinyddwr.
Yn ei gorddi Dyna, felly, y cefndir. Dyna oedd y corddi'r awdur pan aeth ati i sgrifennu esgyrn bach.
Gallai gwybod hynny ein harwain i dybio ein bod yn wynebu truth sydd mewn peryg o fod yn affwysol ac hyd yn oed yn feichus ac anniddorol.
Yn wir, mae Steffan, y gwerthuswr, yn y nofel yn cyffwrdd 芒 phroblem yr oedd Tony Bianchi ei hun yn si诺r o fod wedi gorfod ei hwynebu gan fod y cwestiwn, "A yw dynwarediad clyfar yn llai diflas na'r gwreiddiol diflas?" gan Steffan, yn un sy'n rhaid ei ofyn am esgyrn bach hefyd.
Un peth sydd yn sicr, y mae dynwarediad Tony Bianchi yn un hynod o glyfar ac os yw'r byd go iawn yn ymdebygu o gwbl i'r gyfundrefn sy'n cael ei darlunio ar gychwyn y nofel y mae gennym le i boeni - a lle i ryfeddu i Tony Bianchi fodloni bod yn rhan ohoni am chwarter canrif ei yrfa!
Abs岷價d a ffantasiol Mae yma gyfuniad penigamp o'r abs岷價d a'r ffantasiol gyda Steffan yn gorryn wedi ei ddal yn ei we gweinyddol ei hun gan ein hatgoffa o Winston Smith hyd yn oed.
Fel ag y mae rhywun yn mynd rhagddo i ddarllen, rhyfeddu ac edmygu onglau dychymyg Tony Bianchi y mae rhywun yn dechrau amau hefyd a oes digon yma i gynnal nofel o dros 200 o ddalennau.
Ond yna, mwyaf sydyn, mae'r nofel yn cymryd tro annisgwyl ac yn cymryd ffurf nofel ddirgelwch a datrys wrth i Steffan helcid o'i bencadlys yng Nghaerdydd i Leipzig gyda'r mynegiant yn awr yn troi o'r trydydd person i'r person cyntaf.
Y mae hon yn rhan o'r nofel a fwynheais yn fawr ac yn un hawdd ymgolli ynddi gyda'i sylwgarwch hyfryd parthed taith a theithwyr.
Ychwanegir at yr elfen o ddirgelwch yn ymdrechion Llio, gwraig Steffan, i brynu t欧 gyda rhyw wawl lled sinistr i'r digwyddiadau.
Yn Leipzig y datgelir arwyddoc芒d annisgwyl y teitl, esgyrn bach a'r awdur, erbyn gweld, wedi bod yn tynnu coes y darllenydd ag ef.
Y rhan olaf un, wedi'r dychweliad o Leipzig, yw'r lleiaf effeithiol. Yn feichus a llai llithrig na'r gweddill mae'n rhywfaint o frycheuyn ar y nofel fel cyfanwaith.
Cael hwyl Yn wir nid dychan cyfundrefn yn unig y mae'r awdur yn y nofel ond y mae hefyd, rwy'n si诺r, yn cael hwyl am ben y darllenydd hefyd a daw hynny yn amlycach fyth pan sylweddolwn beth yn union yw'r cais y mae Steffan yn ymgodymu ag ef a'r datgeliad hwnnw yn dro hyfryd o annisgwyl a sweral yng nghynffon y nofel.
Felly, yn 么l at y cwestiwn yna: "A yw dynwarediad clyfar yn llai diflas na'r gwreiddiol diflas?"
Yn achos esgyrn bach y mae.
Gwir fod y nofel yn rhywfaint o her gan yr awdur i ddarllenydd ond o'm safbwynt i bu ei darllen yn gymysgedd o hwyl, rhyfeddod a rhwystredigaeth.
Nid bob wythnos y gallwch chi ddweud hynny am nofel Gymraeg.
Bydd yn ddiddorol nawr gweld i ble yr aiff Tony Bianchi nesaf - mae rhywun yn cymryd yn ganiataol y bydd ganddo yr amser a'r crebwyll i lenwi ei ffurflenni grant.
Adolygiad ar Gwales
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|