| ![Llais Ll锚n](/staticarchive/b41c8d5d66e444596d46ec589357f9f674e7d659.gif) |
![adolygiadau a straeon](/staticarchive/66cdaad7d29f9d30d315220737b34495824b4848.gif) |
![adolygiadau a straeon](/staticarchive/74f3ca617527bf11cc1bfe20276ae36a0e9962fb.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
Plant ar Lein yn dewis Llyfrau Gwerth eu Darllen Mae yna gyfle i blant Cymru ddewis eu llyfr gorau fel rhan o gynllun adolygu llyfrau ar-lein gan Gyngor Llyfrau Cymru.
Bydd y plant yn cael rhoi eu barn ar 24 o lyfrau a ddewiswyd fel rhai "Gwerth eu Darllen" ac yna dyfarnu sg么r o rhwng un a phum seren iddynt.
Cynyddu'r diddordeb mewn llyfrau a darllen yw'r bwriad ac mae'r Cyngor yn cynnig gwobr o werth 拢50 o lyfrau yr un i'r ugain ysgol gyntaf i anfon adolygiadau gan ddeg disgybl neu fwy i'r wefan.
Ac ar Ddiwrnod y Llyfr 2004 - dydd Iau Mawrth 4 - cyhoeddir teitlau'r ddau lyfr un Cymraeg ac un Saesneg a gafodd y nifer fwyaf o s锚r.
"Rydyn ni eisiau annog rhagor o blant i ddarllen llyfrau ac ysgrifennu adolygiadau arnyn nhw. Trwy roi'r adolygiadau ar y we, rydyn ni'n eu hannog i wneud y ddau beth yma ac y mae hefyd yn fodd o wella eu sgiliau TGCh," meddai trefnydd Ymgyrch Gwerth eu Darllen, Lila Piette o Gyngor Llyfrau Cymru.
"A thrwy wobrwyo'r llyfrau 芒 s锚r, byddant hefyd yn cyfrannu at gyfanswm terfynol eu hoff lyfrau yn y casgliad, meddai.
Y llyfrau i bleidleisio iddynt ar hyn o bryd yw: Blits - Dyddiadur Edie Benson, Llundain 1940 1941 gan Vince Cross, addasiad Eigra Lewis Roberts
O'r Lludw gan Michael Morpurgo, addasiad Gwen Redvers Jones
Dim Actio'n y Gegin gan Si芒n Lewis
Bympyti-Bymp gan Ruth Morgan
Help! Mae 'Na Hipo yn y Cwstard gan Sonia Edwards
Ta-ta Tryweryn! gan Gwenno Hughes
Y Ddynes a Enillai Bethau gan Allan Ahlberg, addasydd Dylan Williams
Gornest Reslo'r Menywod Cinio gan Nicholas Daniels
Psst! gan Gwyn Morgan
Hyfforddi Hirben gan Michael Coleman addasiad Dylan Williams
Tipyn o Gamp 1 gan Delyth George
Isi a'r Cloc gan Gwyn Morgan
Dwi'n Byw Mewn Sw Gyda'r Cangarw - Barddoniaeth Loerig am Anifeiliaid gan Myrddin ap Dafydd
Mae manylion y llyfrau a manylion pleidleisio arwefan ac yna clicio ar Gwerth eu Darllen ac mae rhagor o wybodaeth o gysylltu 芒 Chyngor Llyfrau Cymru ar 01970 624151
Nod Diwrnod y Llyfr yw annog mwy o bobl o bob oed i ddarllen rhagor o lyfrau trwy brofi nad llyfrbryfed yw'r unig rai sy'n darllen!
Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn gwahodd ysgolion, llyfrgelloedd a sefydliadau amrywiol i gynnal digwyddiad arbennig ar Ddiwrnod y Llyfr. Yn 2003, cymerodd miloedd o blant ac oedolion ran mewn gweithgareddau o bob math ledled Cymru.
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
| ![llyfrau newydd](/staticarchive/5bba0577704a9dbedcf678c36d1ebc308d9020d5.gif) | | ![adnabod awdur](/staticarchive/82a08e191b1cce0d6479770ef13f18465459a19b.gif) | | ![gwerthu'n dda](/staticarchive/1c83813ec6e9f5fe942bc15532710e416a5c0bb2.gif) | | ![son amdanynt](/staticarchive/4bef5678b435a262c7dc03f1cff0c5c4c26363fd.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
| ![pwy di pwy?](/staticarchive/68f33ef225a8c1e5f20bd2e136111419e3a29fa1.gif) | | ![dyfyniadau](/staticarchive/3d038b21345e861430bbd3844065eeda6ae844f7.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
|
|
|