大象传媒

Explore the 大象传媒
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

大象传媒 Homepage
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Ffatri Serch gan Gareth Miles
Adolygiad Luned Gwyn o Ffatri Serch gan Gareth Miles. Gwasg Carreg Gwalch. 拢6.50.


Ar yr olwg gyntaf, nofel yn y traddodiad Mills & Boon yw'r Ffatri Serch ond wedi darllen ychydig dudalennau mae'n amlwg nad nofel ramant gyffredin mo hon!

Clawr y llyfrDaw hiwmor ffraeth nodweddiadol Gareth Miles i'r amlwg yn enwau cymeriadau fel Myfanwy di Chianti a Gerallt O'Toole.

Mewn ffordd, felly, parodi o nofelau rhamant ystrydebol yw Ffatri serch.

Gorfod dewis
Heb ddifetha'r stori i ddarllenwyr gellir dweud fod y nofel yn canolbwyntio ar fywyd carwriaethol merch landeg a galluog o'r enw Sulwen Huws sy'n gorfod dewis rhwng Gwyndaf ab Sion, Cymro sy'n ymddangos yn selog i Sulwen ac sy'n ceisio achub Ffatri Wlan Cwmbrwynog, sydd wedi bod yn nwylo teulu Sulwen ers blynyddoedd maith, rhag mynd i'r wal, a'r Cymro-Americanwr Llewelyn C. Price IV, sy'n olygus a chyfoethog ac yn mynnu denu llygad Sulwen byth a hefyd.

Mae'n amlwg nad yw'r ddau garwr yn berffaith o bell ffordd gan fod mannau gwan yn eu cymeriadau'n cael eu datgelu'n gelfydd drwy gydol y nofel ond mae'r dewis a wna Sulwen yn ymddangos yn gymharol gall o dan yr amgylchiadau, er mae'n debyg y buasai rhai darllenwyr yn anghytuno!

Diweddglo hapus i gwpwl ifanc felly yn union fel nofel ramant ysgafn ond mae'r tro yng nghynffon hon yn agor y posibilrwydd am Ffatri Serch II yn y dyfodol.

Hiwmor cellweirus
Mae hiwmor cellweirus yr awdur i'w weld yn glir wrth iddo arddangos ei allu i chwarae 芒 geiriau yn ogystal 芒 diddanu'r darllenwr heb wneud iddo deimlo mai nofel gomedi ydyw.

Gwna hyn y nofel hefyd yn hynod ddarllenadwy ac yn anodd i'w rhoi i lawr. Buasai'n ddigon hawdd darllen hon ar un plwc heb i hynny fod yn llafur caled gan fod yr awdur yn llwyddo i wneud i'r stori lifo'n rhwydd mewn iaith naturiol.

Caiff y mwynhad a geir wrth ddarllen y nofel hon ei ategu gan yr enwau clyfar am gymeriadau neu gorfforaethau sy'n bodoli yng Nghymru heddiw megis yr arlunydd enwog Syr Koffin Williams, y cwmni archfarchnadoedd, Basdas, wisgi Ben Doun a phapur Cymry'r America, Y Brych!

Mae'n debyg iawn bod yr awdur wedi cael cryn hwyl wrth feddwl am yr enwau hyn sy'n ychwanegu llawer o hiwmor ysgafn yn fy marn i.

Syniadau gwreiddiol
Crybwyllir nifer o syniadau gwreiddiol a diddorol yn y nofel ac fe fuaswn yn cynghori aelodau o'r Bwrdd Croeso a'r Cynulliad i'w ddarllen er mwyn cael ysbrydoliaeth am ddyfodol y sector twristiaeth yng Nghymru!

Buasai'n syniad iddynt fabwysiadu'r cynlluniau 惭锚-惭锚-辞-搁补尘补', twristiaeth rhyw gyda defaid a ystyriwyd fel ffordd o achub trigolion Cwmbrwynog rhag diweithdra - cynllun beiddgar a dweud y lleiaf!

Er mai ffurf gymharol ystrydebol sydd i'r nofel - y gwr golygus cyfoethog (fel mewn stori dylwyth teg) yn ceisio denu merch dlos a gonest gyda'i bwer a'i gariad - mae dawn Gareth Miles i ychwanegu pytiau o hiwmor sy'n diddanu'r darllenwr yn ei gwneud yn well na'r cyffredin.

Yn sicr, nid sgerbwd o stori a geir yn y Ffatri Serch, y mae'n debycach i berson blonegog a hwyliog wedi dathlu'r 'Dolig!

Nid yw'r nofel hon am gael effaith ysgytwol ar lenyddiaeth Cymru o bell ffordd gan nad yw hi'n nofel fawr ddifrifol sy'n trafod syniadau athronyddol. Nid beirniadaeth mo hynny gan nad dyna fwriad yr awdur ond mae'n bwysig peidio 芒 gor-ddyrchafu'r nofel gan y byddai camarwain darllenwyr.

Eto i gyd, o fewn y cyfyngiadau hyn mae Ffatri Serch yn arddangos gwreiddioldeb, awdur sy'n hollol gyfforddus yn ei grefft a chymeriadau hynod gredadwy.

Mae'n hyfryd gweld nofel ramant nad yw'n rhy sentimental yn yr iaith Gymraeg ond sy'n gallu trafod teimladau a throi at hiwmor er mwyn ychwanegu ysgafnder at y stori.

Heb geisio swnio'n ystrydebol, mae'n rhaid dweud y buasai'r nofel hon wedi gwneud anrheg Nadolig wych i unrhyw un sy'n mwynhau darllen Cymraeg gyhyrog o fewn stori ddiddorol a chyffrous neu'n un i wario tocyn llyfr arni'n awr.



Cliciwch i ddweud beth ydych chi'n feddwl


Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy