|
Rhyfel Ni Adolygiad Grahame Davies o Rhyfel Ni gan Ioan Roberts, Gwasg Carreg Gwalch, 拢7. Tud. 209.
Weithiau mae breuddwydion yn gallu bod yn drech na realaeth. Ni cheir enghraifft well o hynny na'r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia. Dewisodd arweinwyr y fintai gyntaf a hwyliodd yno yn 1865 anwybyddu'r cyngor mai diffeithwch anobeithiol oedd y Tir Neb yma a gynigiwyd iddynt fel cartref diogel i Gymreictod.
Er hynny, ac er newyn, llifogydd a difaterwch llywodraeth yr Ariannin, fe lwyddodd y Cymry i greu ffyniant allan o'r diffeithwch ac i gynnal eu diwylliant hyd heddiw wyth mil o filltiroedd o Gymru.
Tynnu nyth cacwn Bu dipyn o freuddwydio hefyd ynglyn 芒'r elfen Gymreig yn rhyfel y Falklands yn 1982, a gychwynnodd wedi i lywodraeth filwrol yr Ariannin, mewn ymgais i dynnu sylw oddi wrth ei gormes o'i phobl ei hunan, gipio'r ynysoedd anghysbell o feddiant Prydain.
Yn groes i'r disgwyliadau, fe dynnodd nyth cacwn i'w phen gan mai Margaret Thatcher oedd prif weinidog Prydain, ac fe neidiodd hithau yn awchus ar y cyfle i roi cweir i elyn tramor a thrwy hynny i hyrwyddo'r Prydeindod ymerodraethol oedd yn gymaint rhan o'i hap锚l i'r bobl a'i hetholodd.
Does dim dwywaith mai eironi o'r mwyaf, felly, oedd i Brydain gael ei hun yn mynd i ryfel gyda'r unig wlad dramor lle ceir cymunedau Cymraeg. Halen ar y briw wedyn oedd dewis anfon y Gwarchodlu Cymreig, o bawb, i'r gad yn Ne'r Iwerydd.
I'r gydwybod radical Gymreig, a welodd yn glir y ffaith fod llywodraeth Margaret Thatcher wedi achub y cyfle i ddefnyddio'r rhyfel fel stynt etholiadol, naturiol oedd i wneud yn fawr o drueni'r sefyllfa fod milwyr Cymreig yn cael eu hunain ar ddwy ochr yr anghydfod.
Y ddwy ochr Cafwyd dipyn o straeon gwerin am bobl Gymraeg o'r ddwy ochr yn cyfarfod yn ystod y rhyfel cafodd rhai o'r straeon apelgar yma eu hailadrodd yn y wasg neu mewn caneuon neu ymdriniaethau celfyddydol eraill.
Ergyd y stori bob tro oedd bod gwaed yn dewach na dwr.
Dros ugain mlynedd wedi'r ymrafael, a gostiodd ryw 900 o fywydau ifanc rhwng y ddwy ochr, dyma'r newyddiadurwr Ioan Roberts yn mynd ati i gloriannu effaith y rhyfel ar Gymry'r Ariannin a Chymry'r henwlad fel ei gilydd, a hynny mewn llyfr sydd yn esiampl o eglurder a chytbwysedd.
Rhyfel dau ddyn moel Yr hyn a wn芒i yw cyfweld 芒 rhyw ugain o bobl y cyffyrddwyd eu bywydau gan y rhyfel yma dros yr ynysoedd pellennig hynny, rhyfel a ddisgrifiwyd yn fachog fel dau ddyn moel yn ymladd am grib.
Cawn gwrdd 芒 milwyr, llongwyr a sifiliaid o Gymru a effeithiwyd gan y brwydro. Cawn gwrdd hefyd 芒 milwyr ac 芒 theuluoedd o dras Cymreig yn yr Ariannin.
Drwy gyfrwng holi a chofnodi sensitif a chraff Ioan Roberts, fe geir darlun o fywydau a newidiwyd am byth gan y profiad: y milwr a gollodd goes; y fam o'r Andes a gollodd ei mab; y teulu o Lanberis a gollodd eu mab hwythau.
Mae'r awdur i'w ganmol yn fawr am ymwrthod 芒'r demtasiwn i ramanteiddio ac i ganfod bai wrth drafod y rhyfel ofer a thrasig hwn. Nid yw'n ymwthio ei hun i'r blaendir ond, yn hytrach, yn cadw yn y cefndir gan adael i'r bobl eu hunain ddweud eu stor茂au yn eu geiriau eu hunain, heb fawr o ogwydd golygyddol yn llywio'r cyflwyniad.
Ymchwil dygn Mae'r cyfuniad hwn o ymataliad proffesiynol o ran y mynegiant ac o ddycnwch o ran y gwaith ymchwil yn talu ar ei ganfed - mae'n fodd i'n cyflwyno ni i holl gymhlethdod y sefyllfa ac i chwalu sawl myth.
Er enghraifft, cofiaf wrando droeon ar y g芒n Gymraeg boblogaidd a theimladwy a seiliwyd ar y cyfarfyddiad tybiedig rhwng nyrs Gymraeg o Gymru a milwr ifanc o'r Ariannin yn ystod y brwydro. Mae'r geiriau gen i ar fy nghof: Pam wyt ti'n wylo yn lifrai dy wlad..?
Mae'n g芒n effeithiol yn y modd mae'n darlunio bod gwaed yn dewach na dwr ond mae'n rhaid imi ddweud imi fod ers blynyddoedd yn newyddiadurol sgeptig ynglŷn 芒 dilysrwydd y profiad y seiliwyd y stori arno.
Pe bai 'na filwr o'r Ariannin, a nyrs o Gymru, y ddau yn rhugl eu Cymraeg, wedi bod yn rhan o ddigwyddiad felly, does dim amheuaeth y byddai'r cyfryngau Cymraeg wedi dod o hyd iddyn nhw mewn amrantiad a'u holi nhw'n dwll droeon yn y blynyddoedd a ddilynodd.
Roedd absenoldeb y cyfweliadau hynny yn profi i mi mai rhyw goel gwerin diniwed oedd yr hanes rhyw ddameg gyfoes sy'n dweud gwirionedd am berthynas pobloedd heb fod yn ffeithiol wir o gwbl.
Rhwng dau elyn Wel, mae Ioan Roberts wedi llwyddo i ddangos fod y g芒n a minnau, ill dau, yn rhannol gywir. Yn ystod y rhyfel, mi fuodd 'na gyfarfod mewn eglwys ym Mhort Stanley rhwng milwr o'r Ariannin a nyrs o Brydain, y ddau o dras Gymreig.
Does dim amheuaeth o hynny bellach, gan fod y ddau, Milton Rees a Bronwen Douse (Williams gynt) wedi rhoi cyfweliadau yn tystio i'r peth.
Ond nid wylo o ofn yn yr eglwys yn ystod cyrch awyr oedd Milton Rees, fel yn y g芒n, ond yn hytrach yn mynychu gwasanaeth y Sul arferol. A - gwaetha'r modd i'r rhamant - yn Saesneg yr oedd y sgwrs rhwng y ddau, gan mai di-Gymraeg oedden nhw, er gwaethaf eu cefndir.
Serch hynny, mae'r cyfarfod yma rhwng dau elyn mewn man addoliad, dan wg y gynulleidfa Brydeinllyd, yn sicr yn un hynod ac yn gwneud stori gofiadwy ynddi'i hun.
Clywed Cymraeg? Beth am y stor茂au eraill o gyfarfyddiadau rhwng siaradwyr Cymraeg o'r ddwy ochr yn ystod y brwydro? Fel y dengys y llyfr hwn, prin yw'r dystiolaeth i hyn ddigwydd.
Er engrhaifft, fe dystiodd Don Bonner, chauffeur llywodraethwr yr ynysoedd, wrth y wasg Brydeinig iddo glywed milwyr Archentaidd yn siarad Cymraeg 芒'i gilydd wrth sefyll gard yn nhŷ y llywodraethwr. Roedd o'n gyfarwydd 芒 swn yr iaith, meddai.
Na, meddai Milton Rees. Sbaeneg oedd yr iaith a glywodd. Buodd ef ei hun yn nhŷ y llywodraethwr gydol y rhyfel ac ni chyfarfu ef 芒'r un siaradwr Cymraeg.
Neu fel y mae Ioan Roberts yn nodi'n garedig, "Mae'n ymddangos nad oedd clust 'Mr Don' yn ddigon main i wahaniaethu rhwng y Sbaeneg a'r Gymraeg."
Rhywfaint o Gymraeg O ochr y Cymry, prin iawn hefyd yw'r dystiolaeth. Fe gawn un hanes am filwr, Howard Jones o'r Felinheli, wrth iddo warchod carcharorion ar long, yn dod ar draws Archentwr oedd 芒 rhywfaint o Gymraeg ganddo.
"Mi oedd y coridor 'ma rhwng y cabins wedi cael i flocio yn y ddau ben, a fi a boi arall yn gardio pob pen efo machineguns. Mi oeddan ni'n siarad Cymraeg, ac mi ddath yr Argentine officer 'ma allan o'r caban a deud rwbath yn Gymraeg wrthon ni. Ar y pryd o'n i'n gorfod deud wrtho fo Dim ots gyna fi, dos yn d'么l i'r cabin."
Go brin y byddai'r cyfarfyddiad go-iawn yna yn gwneud testun c芒n werin!
Gwrthrychedd aeddfed Mae cymhlethdod y sefyllfa yn dod drwodd droeon. Mae gwrthrychedd aeddfed y llyfr yn rhywbeth i'w groesawu o'i gymharu 芒'r ymdriniaethau Cymraeg galarus a chwynfanus a geir ar y pwnc fel rheol.
Er enghraifft, mae'n gwbl amlwg nad oes gan y Gwladfawyr yma fawr o amheuaeth parthed hawl eu gwlad i'r "Malvinas". Mae'n amlwg hefyd nad oedd gan y Cymry yn y lluoedd arfog fawr o wrthwynebiad i'r rhyfel o'u rhan hwythau ychwaith.
Ac o ystyried canlyniadau'r anghydfod, fe wnaeth y llyfr imi gnoi cil ar rai cwestiynau digon dyrys. Er enghraifft, canlyniad colli'r rhyfel oedd i lywodraeth filwrol ormesol yr Ariannin gael ei dymchwel. Llywodraeth a laddodd 30,000 o'i dinasyddion ei hun.
Nid rhamant a geir yn y llyfr cydwybodol a thrylwyr hwn, felly, ond y ffeithiau, a'r teimladau go-iawn, mewn cyd-destun. Yn hynny o beth mae'n gofnod pwysig iawn o ddigwyddiadau hynod.
Holi mam Fel yr awdur, bm innau hefyd unwaith yn sefyll gerbron cofeb ryfel y Malvinas yn Buenos Aires gan chwilio'r 650 o enwau am unrhyw un oedd 芒 golwg Gymraeg arno, a methu.
Ond mae Ioan Roberts wedi tyrchu'n ddyfnach na minnau ac wedi canfod mai un o blant y Wladfa oedd Ricardo Andres Austin, a fu farw yn y frwydr yn ddim ond 18 oed.
Mae'r cyfweliad gyda'i fam yn ei phentre yn yr Andes yn brofiad dirdynnol. Felly hefyd y cyfweliad a gynhaliwyd yn Llanberis gyda rhieni John Raymond Roberts, a laddwyd ar un o longau Prydain. Daw urddas a graslonrwydd y rheini yn amlwg er gwaetha'u colledion.
Dyna wir dristwch y rhyfel hwn, fel pob ryfel. Er bod elfen Gymreig iddo, nid rhyw lwyfan i frwydr ddirprywol dros hunaniaeth Gymreig mohono, yn y b么n.
Er cymaint yr hoffwn i'r cysylltiadau Cymreig fod yn ganolog i'r profiad, y caswir yw mai peth digon ymylol a fuont i'r bobl a gyffyrddwyd gan y rhyfel, ffaith a ddaw'n amlwg hyd yn oed mewn llyfr sydd yn cofnodi yn benodol yr agwedd honno.
Mewn gwirionedd mae na drasiedi sy'n ddwysach nag yw'r syniad arwynebol o gefndryd Cymreig yn brwydro yn erbyn ei gilydd o'u hanfodd, sef mai brwydro'n ufudd ac o argyhoeddiad yr oedd y ddwy ochr er gwaetha'r cysylltiadau Cymreig.
Weithiau mae dwr yn dewach na gwaed. Weithiau mae realaeth yn drech na breuddwyd.
Cliciwch i ddweud beth ydych chi'n feddwl
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|