|
Ymlaen 芒'r G芒n Adolygiad gan Glyn Evans o, Ymlaen 芒'r G芒n. Stori Gwenda Owen. Gwasg Gomer. 拢7.99.
Stori am ferch ifanc 33 oed yn brwydro yn erbyn canser y fron ydi 'Stori Gwenda Owen' ac yhn cael ei dweud ganddi hi.
Heb amheuaeth yn y darn hwnnw o'r 'hunangofiant' hwn y bydd y diddordeb pennaf er, doedd Gwenda ddim yn anadnabyddus cyn hynny.
Yn gantores ac yn actio ym Mhobol y Cwm bu'n fuddugol yn rownd derfynol C芒n i Gymru yn 1995
Magu ar fferm Mae cychwyn y stori yn ddigon cyffredin am ferch ifanc yn cael ei magu ar fferm yng nghymdeithas Gymraeg a chymdogol Cwm Gwendraeth ac yn dod i ymddiddori mewn canu 芒'r gitar.
Roedd eisteddfodau, capel, cyngherddau a rhaglenni teledu fel Yr Awr Fawr lyn gerrig milltir yn ei bywyd.
"Dw i ddim yn cofio bywyd heb ganu. Mae'r dylanwadau 'n么l yn yr achau rhywle gan fod teulu Mam a Dad yn hoff iawn o ganu, ond mae'r teulu ar ochr Mam yn gerddorol iawn," meddai.
"Mam fydde'n ein dysgu ni i ganu. Rwy'n ei gweld hi nawr yn dod mewn i'r ty ar 么l gorffen godro, yn tynnu ei welingtyns i ffwrdd ac yn sefyll o flaen y Rayburn a drws y ffwrn led y pen ar agor er mwyn iddi dwymo ar 么l bod mas yn yr oerfel."
Erbyn yr wythdegau yr oedd Gwenda yn briod a phlant yn cael eu geni.
"A dyna oedd patrwm fy mywyd, magu'r plant a chanu ar y penwythnosau," meddai.
Recordiwyd a chyhoeddwyd tapiau ac yn 1995 rhedwyd r芒s C芒n i Gymru.
"Roedd y cyfan fel breuddwyd, cael camu i'r llwyfan i ganu'r g芒n oedd wedi ennill C芒n i Gymru 1995," meddai.
Ond yr oedd cymylau hefyd.
"Y tu 么l i brysurdeb bywyd a'r llwyddiant, roedd 'na dristwch ac roedd straen fy mhriodas yn dechrau dangos. Pen draw'r cyfan oedd ysgariad," meddai.
Darganfod lwmp Ond ar Ebrill 10, 1999, y daeth y daranfollt pan deimlodd lwmp yn ei bron a'r holl fraw sy'n gysylltiedig a darganfyddiad o'r fath.
"Doedd e ddim yn grwn fel pelen fach ond yn dwlpyn hir, fel si芒p rhyw lygoden fach."
Dyna gychwyn ar gyfnod y mwyaf ysgytwol y gallai rhywun ei ddychmygu a'r gofid yn cael ei ddwyshau wrth i'r meddyg cyntaf a'i gwelodd mewn ysbyty fynnu deirgwaith nad oedd dim i bryderu amdano gan mai casgliad o frasder diniwed oedd y lwmp.
Nid felly bu a chyda'r twlpyn wedi tyfu a chaeldu erbyn hyn bu'n rhaid ymhel a chwrs o gemotherapi ac fe wyr unrhyw un a fu'n gysylltiedig 芒 hwnnw cymaint treth ydi o ar gorff ac ysbryd claf.
Mae Gwenda Owen yn olrhain ei thriniaeth yn gymesur a theimladwy gan gyfleu yr ofn, y pryder a'r anghysur enbyd a ddeuai i'w rhan ond gyda ffydd yn y meddygon oedd yn gofalu amdani erbyn hyn gwrthododd ildio i'r salwch.
Os oes gwers i'w dysgu y wers honno yw i fod 芒 ffydd i frwydro nid yn gymaint yn erbyn yr afiechyd ei hun, gan fod hwnnw'n ddigon distaw a thyner ar ei gychwyn, ond yn erbyn meddyginiaeth sydd gyda'r ffyrnicaf y gellid meddwl amdani.
Pethau pwysig i'w dweud Mae gan Gwenda Owen bethau pwysig i'w dweud am sawl agwedd o'r argyfwng mwy na chyffredin hwn - y pwysigrwydd o gael meddygon sy'n gynhaliaeth a phwysigrwydd ymateb cydnabod a ffrindiau er enghraifft.
Dywed hefyd iddi hi ddod drwyr profiad yn berson gwahanol.
"Mae'r cancr wedi fy newid i; rwy'n edrych ar bethau'n wahanol iawn erbyn hyn ac yn gallu gwerthfawrogi bywyd a'r pethau bach mewn bywyd yn llawer gwell," meddai.
Na, does dim amheuaeth fod ymgodymu 芒 phrofiad o'r fath yn newid gwelediad a phersbectif rhywun.
Rhywbeth arall i ddygymod ag ef hefyd yw'r sylweddoliad nad rhywbeth sy'n mynd ar 么l cael gwllh芒d ydi canser. O'i gael mae yna am byth yn y meddwl.
"Fe glywch chi sawl un sydd wedi cael cancr yn ei ddweud, nad yw e byth yn eich gadael chi mewn gwirionedd! Mae e'n gadael ei farc; ac os daw rhyw boen sydyn neu rhyw dwcan rhywle yn eich corff, fel y byddwn ni i gyd yn ei gael o bryd i'w gilydd, fe glywch chi lais bach yng nghefn eich meddwl yn dweud, 'Falle'i fod e n么l'," meddai. "Falle bod cancr yn gadael y corff ond dyw e byth yn gadael y meddwl yn llwyr," ychwanega.
Wedi'r driniaeth mae hi'n s么n wedyn am y "Dechrau newydd" a'r ailafael mewn bywyd - gyda chymar newydd a chan ddefnyddio ei doniau fel perffornmwraig i gynorthwyo yn y frwydr yn erbyn gelyn tawel mor ddychrynllyd.
Mae'n stori ddwys ac yn un sy'n ysbrydoli gyda'i dewrder a'r modd y tynnodd teulu a chyfeillion at ei gilydd i gynnig cynhaliaeth. Cliciwch i anfon eich sylwadau chi.
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|