| |
|
|
|
|
|
|
|
Mi Gana'i G芒n. Adolygiad Ioan mai Evans o Mi Gana'i G芒n. Cerddi a Baledi Gruffudd Parry wedi eu casglu er cof amdano gan gyfeillion. Gwasg Carreg Gwalch. 拢5.
Cyfrol arbennig gan lenor tra arbennig. Cofiaf Gruffudd Parry, gyntaf, yn croesi'r Maes ym Mhwllheli ar nosau Gwener ac yn diflannu am adref yn y Moto Coch oedd yn rhedeg i Gaernarfon.
Mewn dim o amser, clywais ei fod wedi ymsefydlu yn athro yn Ysgol Uwchradd Botwnnog. Yn bur fuan wedyn daeth yn enw poblogaidd yn hanes perfformiadau plant yr ysgol.
Ysgwn i ai galw i gof y profiad a gafodd ef ei hun o adael yr ysgol ar bnawniau Gwener a sbardunodd c芒n fel hon? Plant ysgol yn mynd adref i fwrw'r Sul ar bnawn Gwener yn y gaeaf -
Bnawn Gwener Gaeaf a'r machlud ar sglein, Drwy'r ffenestr hyd y coridor hir - Clep gwadnau a sodlau ar y concrit gwyn Wrth i'r caethion roi'u traed yn y tir.
Mae lleisiau'r meistri yn eu dilyn am sbel, A'u harabedd yn brathu i'r byw, Rhwng clogwyni erchyll Baalseffon y Garn A chreigiau Piahiroyj y Rhiw.
Ia, 'bwrw'r Su/' ac nid penwythnos a'r Sul hwnnw yn gofyn am gymhariaeth Feiblaidd.
Ai y rhain oedd y plant oedd yno pan ddaeth yr eos Olwen Lewis, o F么n, yn athrawes gerdd yr ysgol? A phwy ond Gruffudd Parry, i gyfansoddi geiriau i ganeuon un a swynodd gynulleidfaoedd draw ac yma.?
Yna, fel y dywed yr Athro Gwyn Thomas yn ei gyflwyniad i'r gyfrol: "Fel awdur sgriptiau eneiniedig Co Bach yr hen raglen radio, Noson Lawen, y clywais i gyntaf am Gruffudd Parry . . ."
Dyma'r blynyddoedd pryd yr enillwyd clustiau'r miloedd i glywed am droeon Yr Hen Fodan a Wil Bach.
Cymaint o chwerthin iach fu ar ein haelwydydd yn nyddiau'r Co Bach.
Mae i'r gyfrol dair rhan, gan gychwyn gyda'r Cerddi ar destunau mor amrywiol a 'Mae hi'n dipyn o daith i Ewrop' a safle daearyddol cartref Gruffudd Parry ar benrhyn Llyn a'r canwr baledi Harri Richards yn gyfrwng ac yn ysbrydoliaeth i gyfansoddi baledi wrth y llath bron.
A'r faled fwyaf poblogaidd y dyddiau hyn yw'r un am Y Mewnlifiad.
Yma cewch blyciau o chwerthin dilywodraeth; Mi ddeudai chwi hanes hen lanc o Ben llyn Fu'n byw yn y Sarn yn ei fwthyn ei hun.
Cewch ddilyn hanes Dafydd wedi iddo droi yn David pan gyfarfu 芒 Joan
Aeth Dafydd yn David pan gollodd ei ben I'r feinwen het silc a sgert ddu a blows wen, A ddwedodd wrth briodi'n yr offis yn dre 'Come on little lad let's take it away.'
Arwyddion dychanol o'r amserau gan feistr dychan a hwyl ar fydr ac odl.
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|