|
Cofio Islwyn Ffowc Elis Glyn Evans yn s么n am gyfraniad y nofelydd, Islwyn Ffowc Elis, a fu farw Ionawr 22, 2004.
Pa bryd y gwelwyd ddiwethaf ddarllenwyr ifainc yn baglu ar draws ei gilydd i fod y cyntaf i gael gafael ar nofel ddiweddaraf awdur Cymraeg?
Yr oedd hynny yndigwydd yn achos Islwyn Ffowc Elis.
Munud mawr Yn dilyn cyhoeddi Cysgod y Cryman ychydig cyn y Nadolig yn 1953 yr oedd cyhoeddi ei nofelau a'i ddilynodd yn ddigwyddiad o bwys ymhlith darllenwyr o bob oed gan gynnwys pobl ifainc a rhai oedd yn dal yn yr ysgol.
Coffa da, cystadlu am y copi cyntaf o Tabyrddau'r Babongo a cholli yn 1961!
Cyn hynny yr oedd nofelau fel Ffenestri Tua'r Gwyll, Blas y Cynfyd ac Wythnos yng Nghymru Fydd wedi bod drwy ddwylo rhywun yn barod.
Ac er mor ddibris oedd yr awdur ei hun o Wythnos yng Nghymru Fydd a alwodd yn "bropaganda noeth" rhoddodd fwynhad i filoedd o ddarllenwyr cyffredin gyda'r olygfa o'r hen wraig yn ystafell gefn tafarn datws yn Y Bala, yn siaradwraig olaf y Gymraeg, yn baglu drwy Arglwydd yw fy Mugail yn un o olygfeydd eiconig llenyddiaeth Gymraeg.
Cyfnod allweddol Oedd, yr oedd cyfnod byr Islwyn Ffowc Elis fel nofelydd yn un allweddol yn hanes y nofel Gymraeg gyda Chysgod y Cryman yn dod fel bollt i gyffroi merddwr llenyddol.
Ond nid darllenwyr yn unig 芒 wirionodd arni hi a'i lyfrau eraill ond egin sgrifenwyr hefyd. Heb amheuaeth Islwyn Ffowc Elis a roddodd i'r cyfrwng hwn fywyd a chyfeiriad newydd yn y Gymraeg.
Dyna ei bwysigrwydd pennaf gan nad aeth Islwyn Ffowc Elis ei hun ymlaen i ymestyn ei ddawn a chyflawni fel y disgwyliai ei edmygwyr - ac fel y dymunai ef ei hun fod wedi gwneud.
Y Nofel Fawr Dilynwyd cynhyrfiadau y nofelau cynnar gan ddarogan am y "nofel fawr" - nid ei eiriau o, wrth gwrs, ond mi ddywedodd fwy nag unwaith ei fod yn gweithio ar nofel am Gruffydd ap Llywelyn, Tywysog Gwynedd.
Er y mawr ddisgwyl, fodd bynnag, ddaeth yna ddim o hynny ac ers blynyddoedd bellach yr oedd pawb wedi derbyn na fyddai'n gweld golau dydd.
Yr oedd y ffynnon ryfeddol wedi sychu a daeth y dyfalu ynglyn 芒 pham y digwyddodd hynny yn destun cymaint, os nad mwy, o drafod na'r gweithiau gwiw a gyhoeddwyd.
Dyrchafu a darostwng Nid oes amheuaeth na theimlodd ef ei hun, yn gam neu'n gymwys, i'r beirniaid, yn dilyn y derbyniad cyntaf gwresog a gafodd, droi yn ei erbyn ac i hynny dorri ei galon.
Mewn llythyr ataf yn 1972 condemniodd yr hyn a welai yn arfer Cymreig o ddyrchafu rhywun yn seren dim ond i'w darostwng wedyn.
Yn amlwg, teimlai i hynny ddigwydd iddo fo a pheryg na fu iddo adfer ei hunanhyder fel sgrifennwr a pheryg i'r golled i'n llenyddiaeth fod yn fawr oherwydd hynny.
"Fe fu gorganmol gwyllt a gwirion am gyfnod, fel a geir bob amser yng Nghymru, pan dybiwn bod 'seren' newydd wedi ymddangos.
"Mae'r adwaith wedyn yn anochel. Rhaid i'r 'seren' fynd 'dan gwmwl'. Mae llwyddiant o unrhyw fath hefyd yn fath o bechod - cysgod yr hen Biwritaniaeth, mae'n debyg," meddai.
Ychwanegodd: "Yng Nghymru, rhaid i awdur y mae un neu ddau o'i lyfrau wedi gwerthu o gwmpas deng mil o gopiau ddisgwyl bod yn darged i awduron yr un mor ymdrechgar ond llai ffodus, a beirniaid sy'n credu 'bod yn bryd tynnu tipyn o wynt o falwn hwn' (heb wybod, druain, cyn lleied o wynt sydd ynddi, mewn gwirionedd'," meddai.
Ar y radio Nid fel nofelydd yn unig y gwnaeth ei farc yn nyddiau cynnar radio yr oedd yn aelod o griw y Noson Lawen yn un o'r Triawd y Coleg gwreiddiol ac yn gyfansoddwr nifer o ganeuon ysgafn y dydd.
Mewn cyfnod diweddarach yr oedd yn awdur dram芒u radio a oedd yn cael eu dilyn yn gyson o wythnos i wythnos ar nosweithiau Sul yn ogystal 芒 dram芒u unigol hefyd.
Yn wir, erbyn yr oedd yn cyhoeddi ei gyfrolau olaf fel Y Gromlech yn yr Haidd ac Eira Mawr, ddiwedd y saithdegau, mae'n arwyddocaol mai fel dram芒u radio yr oeddan nhw wedi gweld golau dydd gyntaf.
Yr unig gyfrol o ryddiaith a gyhoeddwyd ganddo wedyn oedd Marwydos yn 1974, sef y casgliad cyntaf o'i straeon byrion yn dilyn awgrym gennyfi yn Y Cymro.
T芒n ar ei groen yn ystod e gyfnod fel sgrifennwr oedd "cred gyfeiliornus na all dim 'poblogaidd' fod yn dda" ac er mai fel enillydd Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Llandudno gyda'i ysgrifau gwefreiddiol, Cyn Oeri'r Gwaed, yn 1951, y daeth ef i arbenigrwydd gyntaf ei ei ddweud a'i wneud oedd y gall llenyddiaeth boblogaidd fod yn safonol a chrefftus.
Llusgo'r nofel Yn y cyfeiriad ato yn Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru gan Meic Stephens dywedir bod cytundeb "digamsyniol" mai dyma'r awdur a lwyddodd "i lusgo'r nofel Gymraeg i'r ugeinfed ganrif" ac "agor y maes i lenorion eraill."
Wrth sgrifennu amdano yn y Western Mail tarodd Hafina Clwyd, hithau, yr hoelen ar ei phen pan ddywedodd fod yna ddwy ran yn hanes llenyddiaeth Gymraeg "sef CCC (Cyn Cysgod y Cryman) ac WCC (Wedi Cysgod y Cryman).
Wedi dyddiau coleg, cychwyn ei yrfa, wrth gwrs, oedd yn weinidog ond cyfnod o ddadrithiad a fu hwnnw a'i gorfododd i roi'r gorau iddi gan ganolbwyntio ar lenydda a chynnal llenorion. Bu hefyd yn olygydd Llais Llyfrau.
Ond nid oedd ei fywyd yn hysb o weithgarwch gwleidyddol hefyd a gwnaeth lawer i hyrwyddo cenedlaetholdeb a Phlaid Cymru gan gynnwys bod yn ymgeisydd seneddol anfoddog ac aflwyddiannus drosti.
Gydol ei fywyd bu'n wantan o ran iechyd a pharhaodd felly tan y diwedd. Dywedodd ei gyfeillion ei fod wedi torri yn arw yn dilyn str么c ac yr oedd yn aml yn isel ei ysbryd. Ond mesur o lwyddiant y nofelydd gwylaidd ac ansicr ohono'i hun yw i Cysgod y Cryman gael ei hethol gan ddarllenwyr Cymraeg yn Llyfr Cymraeg y Mileniwm ar droad y ganrif. Trueni nad oedd y tymheredd yng Nghymru yn gymwys i feithrin planhigyn mor eiddil a chael blodau mwy ysblennydd fyth i flodeuo arno.
Yr astudiaeth ddiweddaraf i'w chyhoeddi am Islwyn Ffowc Elis yw un T. Robin Chapman, Rhywfaint o Anfarwoldeb a gyhoeddwyd fis awst 2003 - gweler linc isod.
Wrth baratoi ar gyfer y gwaith, a gyhoeddir gan Wasg Gomer, yr oedd wedi cael caniatad y nofelydd i ysgrifennu amdano fel pe byddai wedi marw - rhag ystumio barn mewn unrhyw ffordd.
Cysylltiadau Perthnasol
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|