大象传媒

Explore the 大象传媒
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

大象传媒 Homepage
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Rhyfel a Gwrthryfel
Adolygiad gan Grahame Davies o Rhyfel a Gwrthryfel: Brwydr Moderniaeth a Beirdd Modern gan Alan Llwyd. Barddas. 拢15. 704 tt.
.
Dyma glamp o gyfrol - dim llai na 704 o dudalennau - a ddylai fod ar silff lyfrau pawb sy'n ymddiddori ym meirdd yr ugeinfed ganrif.

Mae Alan Llwyd wedi mynd ati i gloriannu gwahanol agweddau ar waith rhyw 14 o feirdd o gyfnod y ganrif gythryblus honno, gan geisio eu gosod yng nghyd-destun eu cyfnod.

Clawr y llyfrRhai Saesneg
Peth iachus iawn yw'r ffaith ei fod wedi dewis trafod gwaith rhai beirdd Saesneg yn yr un gyfrol 芒 llenorion Cymraeg. Rwy'n gredwr cryf yn yr egwyddor na ddylai beirniadaeth Gymraeg ei chyfyngu ei hun i ddeunydd a ysgrifennwyd yn yr iaith honno.

Felly, fe fwynheais yr ymdriniaeth fanwl ar rai o gerddi Thomas Hardy, Robert Frost, Edward Thomas, Sylvia Plath a Ted Hughes.

Agwedd iachus arall a hoffaf ynghylch beirniadaeth Alan Llwyd yw ei fod yn ddi-lol.
Nid oes ganddo amynedd gyda dehongliadau bwriadol astrus a thywyll sydd yn darllen mwy i fewn i gerddi nag a fwriadodd yr awdur, ac sydd weithiau yn eu dehongli yn gwbl groes i fwriad y llenor gwreiddiol, fel pe bai damcaniaethau Freud am yr anwybod yn rhoi tragwyddol heol i feirniad anwybyddu'r amlwg a chyrchu'r cuddiedig, waeth pa mor denau'r dystiolaeth dros y deunydd cuddiedig hwnnw.

Mae gweld y byd yn barhaol fel yna yn debyg i edrych arno drwy luniau pelydr X yn unig mae'n ddadlennol mewn ffordd, ond go brin ei fod yn ddarlun llawn. Alan LlwydFel y dywed Llwyd yn ei drafodaeth ar Hughes a Plath:

"Mae bardd cydwybodol yn treulio oes gyfan yn ceisio meistroli iaith a thechnegau er mwyn croniclo a chyfleu profiad, syniad neu ymdeimlad yn y modd cywiraf a mwyaf diamwys (ac eithrio cerddi sy'n fwriadol amwys).

"Mae'n sarhad ar ymroddiad o'r fath i honni y gall y gerdd olygu popeth i bawb. Os ydi iaith mor amwys ag yr honnir ei bod, mae'n syndod fod pobl yn deall ei gilydd o gwbl. Mae'n ddyletswydd arnom i geisio dod o hyd i ystyr gysefin cerdd."


Amen, dywedaf innau. Cadwer y pelydr X Freudaidd ar gyfer yr achlysuron o wir dywyllwch.

Ffieidd-dra a nythod cacwn
Mae Llwyd cystal 芒'i air wrth iddo ddehongli degau o gerddi rhai o awduron mwyaf dylanwadol y ganrif, a hynny'n eglur ac yn ddiamwys.

Un o'r agweddau a fwynheais fwyaf oedd y modd yr ymdrinia 芒 helyntion eisteddfodol hanner cynta'r ganrif, fel yr adegau pan dynnodd rhai fel Cynan a Prosser Rhys a Kitchener Davies nyth cacwn i'w pennau gyda chyfansoddiadau a heriodd safonau moesol ac ieithyddol yr oes.

Dyma ddadlennu o'r fath gorau wrth i Llwyd ddefnyddio'i wybodaeth ddihafal o gynnyrch eisteddfodol y ganrif i ddangos mor chwyrn fu'r dadleuon dros y cerddi a'r dram芒u dan sylw.

Cefais fy synnu gan fileindra'r ffraeon a chan geidwadaeth affwysol y sefydliad crefyddol Cymraeg, ac fe enynnwyd fy edmygedd at y beirdd hyn oedd yn fodlon herio'r fath ymatebion.

Dweud pwy ddaeth yn agos
Mae pleser rhyfedd i'w gael hefyd wrth i Alan Llwyd ddatgelu pwy oedd wedi dod yn agos ar gyfer cadeiriau a choronau dadleuol y cyfnodau dan sylw.

Nid oes arno ofn dweud ei farn am bwy ddylasai fod wedi ennill, bron fel y dyfarnwr-ailchwarae mewn g锚m rygbi, yn defnyddio'i safbwynt oddi fry, a mantais y peiriant fideo, i wneud penderfyniadau oedd yn rhy anodd i'r swyddogion yng ngwres y drin.

Llawn darganfyddiadau
Y tu allan i'r talwrn eisteddfodol, fe ddysgais lawer hefyd am berthynas gynhyrchiol y beirdd Edward Thomas a Robert Frost. Ni sylweddolais iddynt ddylanwadu cymaint ar ei gilydd.

Mae'r llyfr yn llawn darganfyddiadau o'r fath.
Mae'r ymdriniaeth 芒'r hanes o salwch meddwl yng nghefndir ac yng ngwaith Caradog Prichard, er enghraifft, yn gyfraniad sylweddol i ysgolheictod ac yn ysgrif afaelgar ar yr un pryd.

Ac yr wyf eisoes wedi rhannu ffrwyth ymchwil Alan Llwyd ar gefndir y gerdd, O Bridd gan Waldo Williams 芒 ffrind sydd yn ymddiddori mewn maes cyffelyb.

Ceir digon o feirniadaethau cryno a chofiadwy, fel pan yw'n disgrifio dwy awdl fentrus Gwenallt, Y Sant a Breuddwyd y Bardd fel rhai a oedd yn herfeiddiol o fodern a newydd eu cynnwys ond yn gonfensiynol ramantaidd eu harddull: fel dyn yn glanio ar y lleuad wedi'i wisgo mewn arfwisg o'r canol-oesoedd.

Pendant a thrylwyr
Yn bendant ei farn, yn drylwyr ei ymchwil ac yn anhygoel o wybodus yn ei gynefindra gyda chynnyrch y cyfnod, mae Alan Llwyd yn y gyfrol sylweddol hon yn gallu rhoi rhwydd hynt i'w reddf fel beirniad.

Fel gyda chynifer o bethau, mae gwendidau'r llyfr ynghlwm wrth ei gryfderau. Mewn cyfrol fer, ni fyddai diffyg mynegai yn gymaint o broblem ond mewn cyfrol o dros 700 tudalen, mae'n ddiffyg i resynu wrtho.

Heb arweiniad
Felly hefyd absenoldeb unrhyw ragymadrodd. Dywed is-deitl y llyfr mai, Brwydr Moderniaeth a Beirdd Modern, sydd dan sylw ond heb gymorth unrhyw ragymadroddi fe deflir y darllenydd yn syth i mewn i ymdriniaeth fanwl ac estynedig ar gerdd gan Thomas Hardy nad oes a wnelo rhyw lawer 芒 moderniaeth.

Heb arweiniad o'r fath, ambell dro fe adewir y darllenydd i ddyfalu beth yn union yw'r berthynas rhwng moderniaeth 芒'r beirdd dan sylw.

Nid oedd yn amlwg i mi ymhob achos.

Fe'm gadawyd yn ansicr pryd yr oeddwn yn s么n am fodernrwydd, sef cyflwr y byd modern, a phryd yr oeddwn yn s么n am foderniaeth, sef y technegau celfyddydol sy'n nodweddiadol o'r cyfnod.

Da o beth weithiau fuasai mwy o gyfeiriadau at feirniaid eraill a oedd wedi gweithio yn y maes.

Efallai mai diffyg deunydd beirniadol Cymraeg sydd i gyfrif am hyn, ond yn sicr, byddai'n braf fod wedi gweld yr awdur yn mynd i'r afael fwy 芒 syniadau - neu gamsyniadau - beirniaid eraill, fel y gwna yn ddeifiol yn yr ysgrifau ar Hardy, Plath a Hughes yn arbennig.

Gwahanol iawn
Casgliad o ysgrifau gwahanol iawn eu pwyslais yw'r llyfr mewn gwirionedd, yn hytrach nag ymdriniaeth academaidd 芒 moderniaeth fel y cyfryw.

Ni cheir fawr o gymharu na chroes-gyfeirio rhwng yr ysgrifau ac maent yn amrywiol iawn eu hyd hefyd.
Mae'r fyrraf. ar Ted Hughes a Sylvia Plath, yn 15 tudalen o hyd, tra bod yr hiraf, ar Bobi Jones, yn ddim llai na 256 tudalen dros draean o'r llyfr cyfan.

Ond wrth gloi, dylwn bwysleisio disgleirdeb cynnwys yr ysgrifau, trylwyredd eu hymchwil a threiddgarwch eu sylwadau.
Mae Rhyfel a Gwrthryfel yn 700 o dudalennau o gyfraniad swmpus at feirniadaeth gyfoes Gymraeg.



Cliciwch i ddweud beth ydych chi'n feddwl

Cysylltiadau Perthnasol

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy