Cawl cerddi'r Urdd Mae dwy gerdd ar gyfer cystadlaethau llefaru Eisteddfod yr Urdd Caerdydd yn destun ffrae.
Mae Ysgol Uwchradd Fitzalan yng Nghaerdydd wedi penderfynu na fydd yn cymryd rhan yn unrhyw un o gystadlaethau Eisteddfod yr Urdd eleni gan honni fod cynnwys un darn llefaru yn "ansensitif ac yn ymylu ar fod yn hiliol".
Yn gynharach roedd prifathrawes wedi cwyno fod cerdd arall yn cynnwys geiriau "anaddas" ar gyfer plant o dan 12 oed.