| ![Llais Ll锚n](/staticarchive/b41c8d5d66e444596d46ec589357f9f674e7d659.gif) |
![adolygiadau a straeon](/staticarchive/66cdaad7d29f9d30d315220737b34495824b4848.gif) |
![adolygiadau a straeon](/staticarchive/74f3ca617527bf11cc1bfe20276ae36a0e9962fb.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
Sbinia gan Bedwyr Rees Adolygiad gan Glyn Evans o Sbinia gan Bedwyr Rees. Cyfres Pen Dafad. Y Lolfa. 拢2.95.
Cyfres sy'n amcanu at fod yn feiddgar ar gyfer plant ysgol - os yw'n iawn dal i ddefnyddio'r fath ddisgrifiad o bobl ifainc - ydi Pen Dafad.
Mae'r Lolfa yn disgrifio'r gyfres fel, "un o'r cyfresi darllen mwya poblogaidd ymhlith yr arddegau" gydag awduron fel Gwyneth Glyn a Bethan Gwanas wedi cyfrannu ati yn ogystal 芒 Bedwyr Rees, awdur y gyfrol ddiweddaraf hon.
Mae'r Lolfa yn dyfynnu un darllenydd yn s么n am y llyfr diweddaraf hwn fel hyn: "Llyfr delfrydol i fechgyn, mae'n llawn castiau gwallgo, o neidio dros blant ar ramps motobeics i wneud 'bomiau piso'. Dwi ddim yn siwr os bydd yr athrawon yn bles."
Does dim amheuaeth nad yw Sbinia yr union beth y byddai rhai oedolion yn dybio y byddai pobl ifainc eisiau'i ddarllen.
Y gwerthiant sy'n mynd i brofi a yw hynny'n iawn.
Yn sicr, mae yma feiddgarwch hwyliog nid yn unig o ran hynny o stori sydd yma a'i digwyddiadau ond yn y sgrifennu hefyd gyda chymariaethau a throsiadau sy'n ymfalchio mewn bod yn amrwd.
Gall cenhedlaeth hynach ddychmygu'r 'plant ysgol' diarhebol yna yn piffian chwerthin. Ond, y dyddiau hyn pan yw iaith yr oriau dof, hyd yn oed, ar deledu mor amrwd mae rhywun yn amau a yw beiddgarwch fel hwn yn feiddgar mwyach.
Ta beth, o'i brawddegau cyntaf mae Sbinia yn sbinio'n garlamus ac yn denu gyda'u hawgrym o dyndra i ddod: "Mi allach chi ddweud mai Gari oedd pia strydoedd y pentra. Fo oedd arweinydd y criw, y boi caleta yn yr ardal, a fo oedd yn dweud be oedd be. "Tan i Jones ddod i fyny o dde Cymru."
Gogleddol ydi iaith y sgwennu a'r cymeriadau ar wahan i'r dywededig Jones sy'n herio Gari gydol y nofel fer, 67 dalen.
Mae' arddull Bedwyr Rees, sy'n amlwg yn mwynhau sgwennu, yn arddull sy'n gweddu i'r dim i stori sy'n cychwyn gyda Gari yn gwneud dwr - mae'r llyfr yn fwy Beiblaidd ac yn defnyddio piso - drwy dwll llythyrau Mrs Hughes Hanes o'r ysgol.
Mi gewch chi hefyd gymhariaethau difyr: Ei goesa'n mynd fath 芒 milgi ar steroids. Sb卯d-b么t oedd yn edrych fel tasa fo wedi ei adeiladu gan rywun yn gwisgo menig bocsio.Ac wrth gwrs mae coesa'r ferch ddel yn y stori yn mynd fyny yr holl ffordd i fyny at ei phen 么l - mewn un gair!
Ydi, mae rhywun yn dychmygu'r cesus yn cael hwyl gyda'r gyfrol hon. Gobeithio y bydd hynny'n wir - er y gall rhywun ddychmygu ambell i riant mewn penbleth yn ceisio penderfynu pa un yw'r gwaethaf: gweld eu plant yn darllen dim Cymraeg o gwbl ynteu eu gweld yn darllen nofel Gymraeg fel hon.
Ys dywed y cwestiwn arholiad: Trafodwch. Mae ambell un wedi dechrau'n barod.
Cliciwch i ddweud beth ydych chi'n feddwl
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
| ![llyfrau newydd](/staticarchive/5bba0577704a9dbedcf678c36d1ebc308d9020d5.gif) | | ![adnabod awdur](/staticarchive/82a08e191b1cce0d6479770ef13f18465459a19b.gif) | | ![gwerthu'n dda](/staticarchive/1c83813ec6e9f5fe942bc15532710e416a5c0bb2.gif) | | ![son amdanynt](/staticarchive/4bef5678b435a262c7dc03f1cff0c5c4c26363fd.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
| ![pwy di pwy?](/staticarchive/68f33ef225a8c1e5f20bd2e136111419e3a29fa1.gif) | | ![dyfyniadau](/staticarchive/3d038b21345e861430bbd3844065eeda6ae844f7.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
|
|
|