| |
|
|
|
|
|
|
|
Dafydd ap Gwilym gan Gwyn Thomas Cyhoeddi Stori Dafydd ap Gwilym gan Gwyn Thomas. Llluniau gan Margaret Jones. Y Lolfa. 拢6.950 86243 705 9
Mewn cyfarfod arbennig yn y Llyfrgell Genedlaethol, Aberystwyth, Chwefror 13, i ddathlu cyhoeddi llyfr newydd am fywyd Dafydd ap Gwilym, datgelwyd hefyd gynlluniau gan yr ysgolhaig, Tedi Millward, i godi canolfan ddehongli yng Ngheredigion er cof am fardd enwocaf Cymru.
Mae cronfa ariannol wedi ei sefydlu'n barod i godi arian tuag at y cynllun ac y mae Mr Millward eisoes wedi amlinellu cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y ganolfan arfaethedig a fydd yn dehongli bywyd a gwaith y bardd.
"Mae stor茂au Gwyn Thomas a lluniau Margaret Jones yn atgyfodi bardd pwysicaf ein cenedl i blant Cymru yn y gyfrol hon gyda phortread ffresh gan un o arbenigwyr pennaf y maes," meddai llefarydd o Wasg Y Lolfa sy'n cyhoeddi'r llyfr.
. Eisoes mae'r gyfrol wedi cael ei enwebu am wobr Tir na Nog.
Mae Gwyn Thomas yn dweud yn ei gyflwyniad fod llawer o ddychmygu ffyrnig' yn y llyfr. Un enghraifft o hyn sy'n codi gw锚n ydi'r ffraeo yn y bennod gyntaf rhwng rhieni'r bardd, Ardudful a Gwilym, am newid clytiau'r babi yn 么l y tad: 'Fe fydd pobol yn mynd i'r lleuad cyn y bydd dynion yn newid clytiau.' Ac yr oedd o'n iawn," meddai Mared Roberts o'r Lolfa.
"Maen nhw'n bortreadau modern, bywiog a ffresh iawn, ychwanegodd.
Mae Dafydd ap Gwilym, bardd enwocaf a phwysicaf Cymru, yn arwr i Gwyn Thomas ac i Margaret Jones yr arlunydd.
Ychwanegodd Mared fod gwahanol haenau i'r storigyda'i doniolwch eironig a chrafog yn un o'i helfennau amlycaf ac yn debyg o apelio at oedolion hefyd.
Yn gymeriad amlochrog a brith ar sawl cyfrif mae i Ddafydd ei ochr ddireudus ond hefyd, nid oedd heb ei bryderon a'i ansicrwydd.
Mae'r gyfrol yn dilyn ei fywyd o'i eni ym Mrogynin i'w farwolaeth yng nghyfnod y pla du.
"Drwy'r straeon mae ei ryfeddod at fyd natur a harddwch yn cael ei gyfleu, ond gwelir drwy ei lygaid fod bywyd yn frau a theimlwn golled a hiraeth efo fo. Mae cydbwysedd cynnil rhwng y llon a'r lleddf, meddai Mared.
Ymhlith y tstraeon ma stori Trafferth mewn tafarn a Merched Llanbadarn gyda disgrifiadau o'r bardd yn cael gwersi barddol ac yn dysgu am y gynghanedd.
Mae Margaret Jones yn un o arlunwyr mwyaf blaenllaw Cymru ac wedi cydweithio o'r blaen 芒 Gwyn Thomas sy'n awdurdod ar Ddafydd ap Gwilym ac wedi cyfieithu rhai o'i gerddi i'r Saesneg yn ogystal 芒 chyhoeddi gweithiau academaidd am y bardd a'i gyfnod.
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|