|
Deg llyfr Llyfr y Flwyddyn Mae enwau'r deg llyfr sydd ar flaen y ras yng nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn wedi eu datgelu gan Yr Academi, trefnwyr y gystadleuaeth.
Ar ben hynny mae'r Academi wedi cyhoeddi ods y bwcis ar y gwahanol lyfrau.
A'r ffefryn yn y ras ar hyn o bryd ydi llyfr Jerry Hunter am brofiadau Cymry yn Rhyfel Cartref yr Unol Daleithiau.
Dim ond ods o 5/2 a roddir I hwnnw!
Y deg awdur Cymraeg, eu llyfrau a'u hods ydi: 5/2 Jerry Hunter Llwch Cenhedloedd
3/1 Geraint Lewis Daw Eto Haul
3/1 Iwan Llwyd Be 'Di Blwyddyn Rhwng Ffrindia?
5/1 Cefin Roberts Brwydr Y Bradwr
6/1 Jason Walford Davies Gororau 'r Iaith
6/1 Owen Martell Dyn Yr Eiliad
7/1 Ioan Roberts Rhyfel Ni
7/1 T Robin Chapman Rhywfaint o Anfarwoldeb
8/1 Elgan Philip Davies Cleddyf Llym Daufiniog
8/1 Sonia Edwards Merch Noeth
Datgelwyd enwau'r llyfrau hyn, a deg llyfr Saesneg, mewn cyfarfod yn adeiladau'r Cynulliad yng Nghaerdydd ac mewn digwyddiad arall yn llyfrgell Caernarfon fel diweddglo i Ddiwrnod y Llyfr, Mawrth 6, 2004.
"Y ffefryn, yn 么l y bwcis Jack Brown, sy 'n arwain y cnud o awduron talentog, yw Jerry Hunter ar 5/2. Ond mae yna ddau gi bach yn dynn wrth ei sodlau ar 3/1, Geraint Lewis a 'r Prifardd Iwan Llwyd," meddai datganiad gan yr Academi.
.Ychwanegir: "Agos iawn yw hi yng nghanol cae gyda 'r Prif Lenor Cefin Roberts, sy 'n 5/1, dan bwysau ei fedal lenyddiaeth i ennill ail wobr i 'w gampwaith alegor茂aidd, Brwydr y Bradwr. Ond a fydd Owen Martell am ei nofel Dyn yr Eiliad - yn tynnu drwyddo yn yr eiliad olaf, i ennill y wobr am yr eilwaith? Neu ai Gororau 'r Iaith Jason Walford Davies fydd y gorau yn y diwedd? Mae 'r ddau yn 6/1.
"Ond cystadleuwyr cryf yw 'r pedwar arall sydd ar y rhestr yn ogystal. A fydd cofiant T Robin Chapman i nofelydd y ganrif, Islwyn Ffowc Ellis, yn cipio 'r wobr? Neu cyfrol ddirdynnol Ioan Roberts, am hanes teuluoedd y Wladfa yn wyneb dioeddefaint, fydd yn mynd 芒 hi. Mae 'r ddau 'n gyfartal ar 7/1.
"Wrth gefn, mae nofel dditectif gan Elgan Philip Davies yn cydio llaw Merch Noeth Sonia Edwards ar 8/1."
Y deg awdur Saesneg ydi; Dannie Abse, Anthony Dalton, Niall Griffiths, Emyr Humphreys, John Sam Jones, Gwyneth Lewis, Debbie Moon, Bernice Rubens, Alan Wall, Rowan Williams.
Yn dilyn cyhoeddi'r enwau bydd yr awduron yn teithio o amgylch Cymru yn cynnal darlleniadau, sesiynau holi-ac-ateb a thrafodaethau gyda chyfle i fynegi barn ar y teitlau.
Yna, yng Ngwyl y Gelli, fis Mai, bydd y tri beirniad yn datgelu eu rhestr fer o dri llyfr Cymkraeg, a saesneg.
Bydd y seremoni wobrwyo ar Fehefin 17 mewn gwledd yng Ngwesty 'r Hilton, Caerdydd gydag, yng ngeiriau'r Academi "amlenni euraidd, sieciau mawrion a digon o siamp锚n."
Dyma'r hyn sydd gan yr Academi i'w ddweud am y deg llyfr:
Dyn yr Eiliad gan Owen Martell (Gwasg Gomer) Dyma ail nofel Owen Martell. Enillodd ei nofel gyntaf, Cadw Dy Ffydd Brawd, wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2001.
Mae Davies, Anna a Daniel wedi bod mor agos ag y gall tri person fod. Ond nawr mae Davies wedi marw mewn damwain car ar yr A470 rhwng Caerdydd a Merthyr ac mae 'r ddau sydd ar 么l yn gorfod ymchwilio 'r achos: bywyd Davies, eu bywydau 'u hunain, a 'r gorffennol cyfun a roddodd fodolaeth iddyn nhw.
Pwy, a beth, oedd Davies mewn gwirionedd? Oedden nhw 'n ei nabod o gwbl? A pham ei fod yn cuddio oddi wrthyn nhw o hyd? Yn sydyn mae yna fygythiadau ym mhobman, ac mae 'r tri ohonyn nhw, gyda 'i gilydd ac ar wah芒n, dan amheuaeth. Ond wrth i 'r ymchwiliad fynd yn ei flaen a gyda phresenoldeb Davies yn aros fel cysgod amwys dros eu bywydau, pwy sy 'n ymchwilio pwy?
Be Di Blwyddyn Rhwng Ffrindia? gan Iwan Llwyd (Gwasg Taf) Dyma bumed cyfrol y Prifardd Iwan Llwyd. Y mae wedi casglu ynghyd gerddi a gyfansoddodd yn y 1990au, a 'u gosod mewn un cyfrol.
Mae yna ysfa ynom ni i rannu 'n hoes yn 么l dyddiau a misoedd, blynyddoedd a degawdau, a gweld patrymau o fewn y cyfnodau hynny. Mae yna batrymau a newidiadau mwy naturiol a greddfol yn digwydd yn nhrefn y tymhorau hefyd. Ac wrth i hinsawdd y byd newid, mae 'r patrymau hynny hwythau yn newid.
I raddau helaeth, er mor amlwg yw 'r ffin yn ei waith, mae Iwan Llwyd yn fardd sans fronti猫re a 'i filltir sgw芒r yn fyd-grwn. Y Prifardd Llion Elis Jones
Merch Noeth gan Sonia Edwards (Gwasg Gwynedd) Nofelydd o F么n yw Sonia Edwards a Merch Noeth oedd ei hail nofel i gael ei chyhoeddi yn ystod 2003. Mae Sonia 'n enw cyfarwydd i gystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn, ac wedi cyrraedd y Rhestr Fer nifer o weithiau.
Mae merch Mared Wyn yn ddwy ar bymtheg hormonaidd, anodd ei thrin, mae 'i thad hi 'n gorfod cael clun newydd ac mae 'i chyn-r yn cael ffling hefo blondan o 'r enw Rita sy 'n mwynhau dawnsio llinell. Yng nghanol hyn i gyd mae Mared yn trio sgrifennu 'i nofel ddiweddara ac yn troi at hen atgofion am ysbrydolaeth. Ond wrth iddi droi tudalennau 'i gorffennol mae ei hatgofion yn edliw pethau iddi amdani hi ei hun, ac am y dyn a baentiodd lun ohoni 'n noeth ers talwm
Brwydr y Bradwr gan Cefin Roberts (Gwasg Gwynedd) Dyma gyfrol fuddugol y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Gendlaethol Maldwyn a 'r Gororau 2003, a nofel gyntaf Cefin Roberts. Ef yw Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru.
Mae fferm Rhydlasau 'n dal i ffynnu er gwaetha 'r cysgod du dros amaethyddiaeth ac, er fod craith y clwy yn dal i deimlo 'n dendar hyd y fro, gall Mr Prydderch, perchennog Rhydlasau, ddal ei ben yn uchel o hyd. Mae 'r caeau 'n las a 'r tir yn faethlon. Mae 'r ieir yn clochdar eu parabl di-ddim, di-baid. Mae 'r defaid a 'r yn yn brefu eu sgyrsiau hamddenol ar hyd y caeau a 'r ceffylau 'n gweryru eu gorchestion diweddara.
Ond mae bywyd hamddenol yr anifeiliaid ar fin newid am byth pan enir Morgan i 'r byd ar noson oer o Fai yn y beudy. Morgan, y mochyn bach eiddil. Morgan, cannwyll llygaid ei fam. Morgan y bradwr. Morgan Freuddwydiwr. Morgan y gwan.
Llwch Cenhedloedd gan Jerry Hunter (Gwasg Carreg Gwalch) Darlithydd ym Mhrifysgol Bangor yw 'r Dr Jerry Hunter. Cyn hyn, bu 'n ddarlithydd ar y cwrs Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Havard, UDA.
Mae 'r gyfrol hon yn adrodd hanes y Cymry a Rhyfel Cartref America gan ddefnyddio geiriau Cymraeg gwreiddoiol unigolyn a gymerodd ran yn y daeargryn hanesyddol hwnnw. Ceir dau beth yma: cyflwyniad cryno i hanes y rhyfel ac astudiaeth graff a threiddgar ar agweddau Cymreig a Chymraeg ar yr hanes hwnnw.
Mae 'r cyfoeth llenyddol hwn yn dangos fod yr iaith Gymraeg wedi bod yn fodd i Gymry America fynd i 'r afael 芒 'r profiadau unigryw ac erchyll a berthynai i drobywnt mwyaf hanes yr Unol Dalaethau.
Gororau 'r Iaith gan Jason Walford Davies (Gwasg Prifysgol Cymru) Darlithydd yn adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru, Bangor, yw 'r Dr Jason Walford Davies. Ef hefyd yw Cydgyfarwyddwr Canolfan Ymchwil R.S. Thomas.
Cydnabyddir R.S Thomas (1913 2000) yn un o feirdd Saesneg mwyaf yr ugeinfed ganrif. Dyma fardd aeth ati i ddysgu 'r Gymraeg yn ei dri degau er mwyn adennill y diwylliant yr amddifadwyd ef ohono pan oedd yn blentyn. Yn y gyfrol arloesol hon ymdrinir ag agwedd gwbl allweddol ar ymdrech R.S Thomas i ailafael yn ei etifeddiaeth ddiwylliannol, sef ei ddefnydd helaeth a chyson o gyfeiriadau at lenyddiaeth Gymraeg.
Daw Eto Haul gan Geraint Lewis (Gwasg Carreg Gwalch) Awdur llawn-amser yw Geraint Lewis, sy 'n ysgrifennu 'n aml i raglenni teledu poblogaidd fel Pobl y Cwm a Iechyd Da. Y mae hefyd wedi ysgrifennu dram芒u i 'r llwyfan.
Nofel gyfoes ddoniol am flwyddyn ym mywyd Bryn James ym mhrifddinas ei wlad yw Daw Eto Haul. Cymro Cymraeg sy 'n tynnu at y deugain oed yw Bryn ac mae wedi cyrraedd rhyw fath o drobwynt lle mae 'n dechrau cwestiynnu ei fywyd hyd yma: Ai camgymeriad oedd penderfynu symud i Gaerdydd yn ei ugeiniau cynnar? Ai cyd-ddigwyddiad yw 'r ffaith nad yw wedi bachu partner am oes eto?
Cleddyf Llym Daufiniog gan Elgan Philip Davies (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion) Llyfrgellydd Addysg yn Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth yw Elgan Philip Davies. Dyma ei ddilyniant newydd cyffrous i Rhwng y Cn a 'r Brain, Rhyw Chwarae Plant a Fel y Dur.
Mae 'n bythefnos ers i Lisa Thomas gael ei darganfod wedi ei churo i farwolaeth, a dyw Heddlu Dyfed-Powys ddim tamaid yn nes at ddal ei llofrudd, er bod un ohonyn nhw 'n gwybod yn iawn pwy ydyw.
Mae 'r Arolygydd Ken Roberts yn 么l yn y tresi ar 么l cael ei wahardd o 'i waith tra bod ymchwiliad yn cael ei gynnal i 'w ymddygiad, ac yn ysu i ddangos nad oes dim wedi newid. Diwrnod arall ac fe ddeuir o hyd i gorff wedi ei drywanu gan gleddyf llym daufiniog.
Rhywfaint o Anfarwoldeb gan T. Robin Chapman (Gwasg Gomer)
Daw Robin Chapman o Gaerlr yn wreiddol ond y mae wedi byw yng Nghymru ers blynyddoedd bellach. Dyma ei ail lyfr ar Islwyn Ffowc Elis, roedd y cyntaf yn rhan o 'r gyfres Saesneg Writers of Wales.
Awdur Llyfr y Ganrif, arloeswr ac eicon y nofel Gymraeg. Cyn-weinidog, ymgeisydd aflwyddiannus ar ran Plaid Cymru, cocyn hitio beirniaid llenyddol. Pa fersiwn sy 'n cyfleu Islwyn Ffowc Elis orau, awdur Cysgod y Cryman ac Yn 么l i Leifior?
Am y tro cyntaf yn y Gymraeg mae 'r bywgraffiad newydd hwn yn s么n am y llenor annwyl ond enigmatig o Ddyffryn Ceiriog yn ceisio rhoi ateb. Bydd pawb sy 'n ymddiddori mewn diwylliant a gwleidyddiaeth Cymru ar eu hennill o ddarllen y gyfrol feistraidd ac anhepgor hon.
Rhyfel Ni gan Ioan Roberts (Gwasg Carreg Gwalch) Yn newyddiadurwr bu Ioan Roberts yn gweithio ar Y Cymro ac ar radio a theledu. Dyma ei ail gyfrol, yn dilyn Achos y Bomiau Bach, a gyhoeddwyd gan Wasg Carreg Gwalch.
I rai yng Nghymru ac ym Mhatagonia, roedd rhyfel De 'r Iwerydd yn rhyw fath o ryfel cartref. Mae 'r gyfrol hon yn adrodd profiadau milwyr Cymreig y ddwy ochr, gan gynnwys milwyr Cymreig o Ariannin a nyrs o Gymru yn cyfarfod mewn eglwys yn Mhort Stanley; hunllef aelod o 'r gwarchodlu Cymreig a achubwyd o Sir Galahad; galar dau deulu a gollodd fab.
Beth yw teimladau 'r Gwladfawyr 21 mlynedd wedi 'r rhyfel? A beth am y bywyd Cymraeg ym Mhatagonia heddiw?
Dyfernir gwobrwyon Llyfr y Flwyddyn, yn flynyddol i'r gweithiau gorau yn yr iaith Gymraeg a'r Saesneg ym meysydd ysgrifennu creadigol a beirniadaeth lenyddol.
Yn cael eu trefnu'n wreiddiol dan Gyngor y Celfyddydau y maen nhw'n awry n cael eu gweinyddu gan yr Academi.
Mae gwobr o 拢5,000 yr un I'r ddwy gyfrol Gymraeg a saesneg fuddugol a 拢1,000 yr un i 'r cyfrolau eraill ar y rhestr fer.
Taith yr awduron Mawrth 25, Caffi Macsen, Caernarfon, 7.00: Meg Elis yn holi Ioan Roberts, Jason Walford Davies a Sonia Edwards.
Mawrth 30, Ty Tawe, Abertawe, 7.30: Rocet Arwel Jones yn holi Owen Martell, Geraint Lewis a Cefin Roberts.
Ebrill 16, Canolfan Merched y Wawr, Aberystwyth. 7.30: Rocet Arwel Jones yn holi Robin Chapman, Elgan Philip Davies ac Owen Martell.
Ebrill 24, Yr Eglwys Norwyaidd, Caerdydd, 3.00: Catrin Beard yn holi John Sam Jones ac Owen Martell.
Mai 4, Bwyty'r Savoy Yr Wyddgrug, 7.30: Aled Lewis Evans yn holi Iwan Llwyd a Jason Walford Davies.
Mai 12, Con Club Ystrad Mynach, 7.30: Dafydd Islwyn yn holi Owen Martell, Geraint Lewis ac Iwan Llwyd
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|