Llygad Gwalch i ymwelwyr Am y tro cyntaf erioed mae llyfrau am saith o ardaloedd gogledd Cymru ar gael yn eu hiaith eu hunain i ymwelwyr o wledydd Ewrop.
Mae pob un o'r llyfrau tywys, sydd wedi eu hargraffu a'u cyhoeddi gan wasg newydd Llygad Gwalch, yn 32 tudalen gyda 200 o luniau lliw, mapiau a chyflwyniad i hanes lleol.