| |
|
|
|
|
|
|
|
O goron i botel Mae un o lenorion blaenllaw Cymru wedi bod yn trafod ei daith hunllefus "o goron steddfod i gaethiwed alcohol."
i glywed y sgwrs
Bu'r bardd a'r dramodydd, Aled Jones Williams, yn s么n am ei frwydr ddirdynnol yn erbyn alcohol wrth John Roberts ar y rhaglen, Bwrw Golwg ar 大象传媒 Radio Cymru, Mehefin 6, 2004.
Yr oedd hwn yn gyflwr a wynebodd o'r blaen, 16 mlynedd ynghynt.
Disgrifiodd sut y bu iddo droi at y botel i chwilio am gysur yn dilyn y beirniadu a fu o'r gerdd a enillodd iddo Goron Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi.
Cerdd ddadleuol Enillodd y Goron gyda cherdd ddadleuol a oedd ym marn y tri beirniaid "filltiroedd ar y blaen" i unrhyw beth arall yn y gystadleuaeth.
Ond wedi i'r gerdd gael ei chyhoeddi daeth yn destun beirniadaeth lem o rai cyfeiriadau.
'Crap' oedd y disgrifiad ohoni gan un bardd amlwg a ddaeth yn brifardd ei hun ers hynny.
Dywedodd Aled Jones Williams iddo ei chael yn anodd dygymod 芒'r beirniadu yn dilyn y gorfoledd cyntaf o ennill.
"Yr oedd yn brofiad arbennig ar y pryd ac yn rhywbeth oeddwn i isio'i wneud erioed . . . ennill rhywbeth mawr yn y Steddfod," meddai wrth John Roberts.
"Ond wedi dweud hynny, roedd ochr arall o fod yn difaru fy mod i wedi trio . . . yr ochr sy'n gwneud i bobl fel fi fy hun deimlo nad ydan ni'n da i ddim mewn gwirionedd."
Y deg a'r cant Ychwanegwyd at yr ansicrwydd personol hwnnw gan y beirniadu.
"Os oes yna gant o bobl yn dweud fod hwn yn dda iawn a bod deg o bobol yn dweud nad ydi hwn ddim gwerth - am y deg yna yr af i nid am y cant ac felly mi es i yn or sensitif . . . a stiwio yn y peth," meddai gan ychwanegu na allai dderbyn fod gwahanol farnau yn bosib.
Wedi brwydro o'r blaen yn erbyn alcoholiaeth un mlynedd ar bymtheg ynghynt dywedodd y ficer o Borthmadog ei fod "yn 么l ar y botel" erbyn y mis Rhagfyr ar 么l yr Eisteddfod.
Siaradodd yn agored ac onest am ei gyflwr.
"Er enghraifft pan oeddwn i'n gorfod gwneud rhywbeth yn gyhoeddus; am ddim rheswm o gwbl roedd fel taswn i'n colli hyder," meddai gan gyfaddef iddo ddechrau cymryd vallium i'w gryfhau ei hun a hynny yn y diwedd yn ei arwain at "godi diod" a "llyncu diod".
"Mae o'n rhywbeth sy'n gyffredin i rai sy'n alcoholiaid - fod pobl yn ei chael yn anodd i ymdopi 芒 llwyddiant - nad oes ganddo chi hawl (i lwyddiant)," meddai.
"Mae o'n brofiad real iawn - ofn ydi o nad yda chi ddim gwerth."
Yn ystod y cyfnod hwn byddai'n cuddio'i ddibyniaeth - a'r poteli - gan hyd yn oed dwyllo ei hun nad oedd ganddo broblem. Mynd yn 蹿濒锚谤 Dyma'r cyfnod y dechreuodd ei fywyd chwalu. Neu fynd yn 蹿濒锚谤 a defnyddio ei air ef.
"Roeddwn i'n edrych yn 蹿濒锚谤 . . . ac mae eich meddyliau chi yn mynd yn 蹿濒锚谤 a'ch emosiynau chi ym mhob man. Mae pob dim yn 蹿濒锚谤. Mae'r dyn yn flerwch mewn gwirionedd ac hefyd yn dadfeilio," meddai.
O'i adael iddo'i hun dywedodd y byddai "wedi cario mlaen i gabalatsio" ond i'w wraig a chyfeillion ei wthio i geisio help gan gofio iddo fod yn alcoholig a chael triniaeth un mlynedd ar bymtheg ynghynt. Yn groes i'w ddymuniad ef datgelodd ei wraig ei fod yn dioddef eto.
"Hi oedd yn iawn oherwydd y peth olaf ydych chi'n wneud efo alcoholig neu rywun sy'n dibynnu ar unrhyw gyffur ydi gwneud bywyd yn hawdd iddyn nhw," meddai.
A fu bywyd ddim yn hawdd gyda mwy nag un cyfnod o 'wella' a llithro yn 么l gan gynnwys dau gyfnod dirdynnol mewn cymuned i alcoholiaid yn yr Alban.
Disgrifiodd ei hun mewn gwewyr eisiau diod:
"Mynd ar lan m么r Morfa Bychan efo'r wraig a'r plant a'r cwbwl oedd ar fy meddwl i oedd; Fedri di ddim mynd ddim pellach, rhaid iti gael rhywfaint o ddiod, rhaid iti gael rhywbeth."
Dywedodd mai rhybudd gan ei wraig y byddai hi yn mynd ac "y byddai'r plant yn mynd" oedd y trobwynt a ddaeth ag ef at ei goed.
Cysylltiadau Perthnasol
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|