|
Draw Dros y Don Adolygiad Eiry Miles o Draw Dros y Don, gan Idris Reynolds. Cyhoeddiadau Barddas. 拢6.
Magwyd Idris Reynolds ar aelwyd lengar a diwylliedig ym Mhost-Mawr, Ceredigion.
Roedd ei fam a'i ewythr yn awduron cyfrolau o farddoniaeth. Serch hynny, ni ddechreuodd ef gynganeddu tan oedd yn ddeugain oed.
O'i gymharu 芒'n prifeirdd eraill a fu'n caboli eu crefft am flynyddoedd, mae'n newydd-ddyfodiad i fyd y canu caeth, a'i lwyddiant ysgubol yn rhyfeddol.
Meistr yr englyn Enillodd y gadair gyda'r awdl Y Daith yn fuan wedi meistroli'r gynghanedd yn 1989 ac fe'i henillodd eto yn 1992.
Bellach, ac yntau'n aelod adnabyddus o d卯m Crannog yn Nhalwrn y Beirdd, ystyrir Idris Reynolds yn feistr ar yr englyn.
Draw Dros y Don yw ei ail gyfrol o farddoniaeth; cyhoeddwyd y gyntaf, Ar Lan y M么r, yn 1994.
Them芒u traddodiadol yw prif ddeunydd Draw Dros y Don gyda sawl cyfarchiad i gymeriadau ei fro, megis yn Pentymor, sy'n s么n am y gwas fferm, Jack Harvey.
Trawiadol hefyd yw ei gywydd i Ieuan Gelli, ffermwr ger hen gartref ei fam.
Y mae honno, fel sawl cerdd arall yn y casgliad, yn dathlu hen ffordd o fyw ac yn hiraethu am yr oes a fu: Er cilio o'r amser gerwin, Mae yno, yn ffermio ffin Hynaf oll hen ffordd o fyw; O hyd, cymydog ydyw.
Yn tristau Yn aml, bydd yn trist谩u wrth weld technoleg yn disodli hen foesau ac arferion.
Dengys cynildeb yr englyn Ff么n Fudol feistrolaeth y bardd ar y mesur wrth iddo, mewn ychydig eiriau, fynegi ei ddirmyg tuag at y teclynnau sydd bellach yn swyno plant yn fwy na rhyfeddodau byd natur.
Technoleg sydd dan ei lach yn Emyn i'r Mileniwm Newydd hefyd, sy'n beirniadu pobl am adael i'r cyfrifiadur gymryd lle crefydd yn eu bywydau: Addolwn ar feddalwedd Wrth syrffio tua'r ne'; Ymgrymwn i'r Gwirionedd Mewn eglwys ar y we.
Mae'r rhan olaf angerddol yn ein hannog i droi yn 么l at Dduw, ac yn fynegiant clir o bwysigrwydd ei ffydd i'r bardd.
Sonnir am ei enwad - yr Undodiaid - yn y gerdd Fflam lle mynega ei siom a'i ddicter am na wahoddwyd yr Undodiaid i wasanaeth sefydlu'r Cynulliad.
Golwg ddu Ar wah芒n i ambell gerdd megis Dwy Genhedlaeth, sy'n dangos bod modd codi pont rhwng yr hen oes a'r oes fodern, golwg ddu sydd gan y bardd ar y presennol.
Mewn sawl cerdd, gw锚l dranc y Gymraeg a chwyna am y grym Seisnig, ffilistaidd sy'n disodli'r cymunedau Cymraeg.
Cyflwynir ei neges mewn ffordd hynod ddigri yn y gerdd gaeth Saesneg, In Praise of my Neighbour, sy'n cynnwys y cwpled celfydd: 'They had a crop of dropouts, / Holy bods and layabouts'.
Yn yr iaith fain hyd yn oed, mae ei afael ar y mesur caeth yn hynod gadarn.
Newidiadau mawr Nid bro ei febyd yw ei unig ysbrydoliaeth. Sonnir am lofruddiaeth JFK yn y gerdd Newydd, ac aiff i'r afael 芒 nifer o'r newidiadau mawr a ddaeth i'n rhan yn y degawd ers cyhoeddi ei gyfrol ddiwethaf.
Mae'r englyn Mwyafrif yn trafod pleidlais 'ie' 1997, a cheir dwy gerdd am droad y mileniwm.
Cerdd arbennig o ingol yw Bosnia, a leolwyd yn ysbyty Sarajevo, 1994. Ynddi, ceir y cwpled cofiadwy: 'Rhannu rhyw hen warineb Yw rhannu ward yn nhir neb'.
Cyrhaeddwn y presennol yn Gelyn, sy'n trafod Ir谩c a Bin Laden mewn beirniadaeth lem ar ryfelgarwch dyn trwy'r oesoedd.
Telynegion twymgalon Ond nid cerddi trymion yw'r cyfan. Cawn delynegion twymgalon i lenorion fel Mererid Hopwood a Dylan Iorwerth.
Cawn hefyd joch go dda o hiwmor, ac mae diddordeb mawr y bardd mewn chwaraeon yn thema gyson.
Yn ei gerdd i Ceri Wyn, sy'n fardd ac yn chwaraewr rygbi, plethir byd y b锚l a byd y bardd yn gelfydd: Wyt Gravell, ond wyt gryfach, yn y g芒n Wyt Scott Gibbs ein llinach, Yn ben bardd fel Benny bach, Yn Guinell dawn gynilach.
Superwoman Ychydig a glywn am fywyd personol y bardd. Mae'r cerddi Hi a Fe yn eithriadau.
Teyrnged i'w wraig yw Hi - tipyn o superwoman yn 么l pob golwg!
Ymddengys mai syniadau go draddodiadol sydd gan y bardd tuag at ei r么l yn y cartref. Hi '...yw'r llaw sy'n clirio'r llwch' , a hi '... a'r bois ger y bar, / Wedi'r yfed yw'r dreifar'.
Serch hynny, mynegir cryn anwyldeb tuag at y 'dduwies or-ddiwyd'.
Y bardd ei hun yw testun Fe - cerdd hunan-feirniadol iawn lle mae'n mynegi ei gywilydd dros ochr annymunol o'i bersonoliaeth a ddaw i'r amlwg yn y dafarn - ef yw 'Effiwr hy y cwrw ffraeth'.
Cerdd ddiffuant a chignoeth yw hon - un o oreuon y gyfrol.
Er mor ddifyr oedd Draw Dros y Don, buaswn wedi hoffi cael golwg ddyfnach ar y bardd ei hun.
I mi, buasai'n gasgliad mwy gafaelgar petai ynddo lai o gerddi goddrychol am broblemau cymdeithas a rhagor o gerddi personol fel Fe.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|