T Llew Jones - cyfrinach storiwr Dywed un o'n hawduron mwyaf blaenllaw mai "darllen, darllen a darllen" yw'r brentisiaeth orau ar gyfer bod yn awdur llwyddiannus.
Yr oedd T Llew Jones yn siarad gyda phlant yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.
"Pan oeddwn i yn yr ysgol, roeddwn yn darllen, darllen, darllen ac yn mwynhau ysgrifennu, dyna lle roedd fy nghryfder i," meddai.
Roedd mam-gu hefyd yn mwynhau dweud stori ac rwy'n cofio gwrando arni hithau, a'r hen bobl oedd yn dod i'r t欧 ac yn adrodd stor茂au celwydd golau.
"Doedd dim adloniant pryd hynny, a phrin bod llawer o olau gyda ni. Byddai pawb yn eistedd o gwmpas y t芒n yn siarad ac yn adrodd storis.," ychwanegodd.