|
Waldo Williams Llyfr canmlwyddiant ei eni A hithau eleni yn ganmlwyddiant geni un o feirdd mwyaf poblogaidd Cymru cyhoeddwyd llyfr go arbennig i gofio Waldo Williams.
Nos Lun, Medi 20,y cyhoeddwyd y gyfrol arbennig amdano wedi ei golygu gan Damian Walford Davies sy'n arbenigwr cydnabyddedig ar waith y bardd.
Disgrifir M么r Goleuni / Tir Tywyll fel cyfrol bwrdd coffi gan y cyhoeddwyr, Gomer, ac mae'n cynnwys detholiad o ddyfyniadau o farddoniaeth a rhyddiaith Waldo Williams ochr yn ochr 芒 lluniau lliw o amrywiol ardaloedd yn ei fro.
Arddangosfa o'r lluniau Bydd y lluniau, a dynnwyd gan Aled Rhys Hughes, sy'n ddarlithydd mewn ffotograffiaeth yng Ngholeg Pen-y-bont ar Ogwr , i'w gweld mewn arddangosfa yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth tan Rhagfyr 31, 2004.
Damian Walford Davies ddewisodd y dyfyniadau i'w gosod gyda'r lluniau.
"Dramateiddia delweddau grymus Aled Rhys Hughes gymhlethdod gweledigaeth Waldo," meddai.
"Llwydda'r delweddau i ddiriaethu cysyniadau creiddiol Waldo - goleuni, tywyllwch, ffenestr, cwmwl, bwlch, gwreiddyn, pren - mewn modd sydd hefyd yn cyfleu eu p诺er trosiadol," ychwanegodd.
Hoff fardd Nid yn unig yr oedd Waldo Williams, a fu farw yn 1971, yn un o feirdd mwyaf blaenllaw y Gymraeg ond mae'n parhau hefyd yn fardd hynod o boblogaidd sy'n cael ei enwi byth a hefyd fel eu hoff fardd gan rai sy'n ateb holiaduron.
Disgrifwyd ef fel person hynod o deimladwy yn meddu ar ddiniweidrwydd ac onestrwydd plentyn.
Ond yr oedd yn ddyn penderfynol hefyd a wnaeth sawl safiad moesol.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd yr oedd yn heddychwr ac yn y pumdegau gwrthododd dalu treth incwm er mwyn dangos ei wrthwynebiad i gofrestriad milwrol gorfodol - conscriotion.
Fe'i carcharwyd fwy nag unwaith a dygwyd dodrefn oddi arno gan feiliaid.
Gadawodd ei swydd yn athro pan ddechreuwyd tynnu treth incwm yn syth o'i gyflog gan ddod yn ddarlithydd allanol yn Aberystwyth lle'r oedd yn gyfrifol am dalu ei dreth ei hun.
Poeni am ddifrawder Dywedir ei fod yn pryderu hyd at boen bron am ddifrawder dyn tuag at ei gyd-ddyn.
Yr oedd ei genedlaetholdeb hefyd wedi ei sylfaenu ar egwyddorion crefyddol cryf fel Crynwr.
Sail ei weledigaeth wleidyddol oedd un o ryddid a thegwch i unigolion heb ymyrraeth llywodraethau.
Yn ei Gymru ef byddai grym llywodraeth ganol yn mynd i awdurdodau lleol a byddai gweithwyr 芒 rhan yn rhedeg diwydiant.
Drwyddi draw mae pwyslais ei farddoniaeth ar gariad brawdol.
Yn ei fywyd personol cafodd brofedigaeth fawr pan fu farw ei wraig, Linda, yn 1943, wedi cwta flwyddyn o fywyd priodasol a gadawodd yntau Gymru yn 1944 i fod yn athro yn swydd Wiltshire.
Yn 么l y Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru; "Ysgrifennodd ei farddoniaeth fwyaf ingol yn ystod y blynyddoedd a ddilynodd ffrwydro'r bomiau atomig dros Hiroshima a Nagasaki."
Atgofion personol am Waldo: Mae eleni yn ganmlwyddiant geni pedwar llenor Cymraeg o bwys: Euros Bowen, John Gwilym Jones, Caradog Prichard a Waldo Williams. Mae hefyd yn ganmlwyddiant Gwyn Williams a fu'n gyfrifol am gyfieithu cymaint o farddoniaeth Gymraeg i'r Saesneg.
Cysylltiadau Perthnasol
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|