大象传媒

Explore the 大象传媒
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

大象传媒 Homepage
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Carnifal
Adolygiad Dafydd Meirion o Carnifal gan Robat Gruffudd. Y Lolfa, 拢7.95.


Dychan 'dyfodol deniadol'
Mae gen i ffansi bod yn wleidydd yn y Gymru newydd - llwyth o ferched hardd a sesiwn yn rhywle bob nos.

O leiaf, dyna'r argraff geir yn Carnifal, nofel ddiweddaraf Robat Gruffudd a nofel, yn 么l y broliant, a ddaeth yn agos i'r brig yng Ngwobr Daniel Owen yn Eisteddfod Casnewydd.

Nofel ddychanol, eto'n 么l y broliant a'r darn papur ddaeth gyda'r llyfr o'r wasg.

Cymru gyda senedd
Cyfnod rhyw flynyddoedd ymlaen i'r dyfodol yw hi, gyda Chymru 芒'i senedd ei hun.

Clawr y llyfrDyn y ddinas yw Middleton, does ganddo fawr i'w ddweud wrth y Fro Gymraeg. Wyddom ni ddim o ble'n union y daw o ond mae'n siarad ag acen gogleddwr - er bod yr awdur ei hun yn Hwntw.

Argyfwng yn Latfia
Mae yna argyfwng yn Latfia - mae Rwsia yn bygwth ailfeddiannu'r wlad - ac mae'r gwledydd bychain wedi cael gwahoddiad i gynhadledd yn y brifddinas, Riga.

Cyfle arall, felly, i Middleton grwydro'r byd yn enw Cymru fach - a chyfle hefyd i ail gyfarfod Maya.

Merched eraill
Ond un yn unig yw Maya o ferched deniadol, nwydwyllt. Mae ganddo ni Llio, Gabriele, Bridgi, Margot, Estrela ... ac nid Riga yw'r unig ddinas mae'n ymweld 芒 hi.

Cawn hefyd Barcelona, Berlin, Fenis, Krakov, Pr芒g ...

Ydy'n wir mae'r awdur unai wedi teithio'n helaeth neu wedi darllen yn eang.

Ond beth all Cymru fach ei gwneud yn erbyn yr anghenfil Rwsiaidd? Beth yw safle Cymru yn yr Ewrop newydd o wledydd bychain? Oes gan Gymru ryddid?
Dyna rai o'r cwestiynau a godir.

Ceir atebion yn aml - unai gan Middleton neu gan rai o'r cymeriadau eraill.

"Roedd y Catalwniaid yn gwybod yn union ba bwerau oedden nhw eu heisiau a dyna pam y llwyddon nhw i'w cael. Efallai nad rhyddid oedd o, ond roedd o beth oeddan nhw eisiau," meddai Middleton.

"Anffawd a melltith ydi'r hen syniad o gymdeithas fel peth statig sy'n bod dim ond mewn un lle, a hwnnw y lle rydach chi wedi digwydd cael eich magu - sef yr hyn mae Webb [un o'r Tor茂aid yn y Senedd Gymreig ac un sy'n fwy brwd dros y Fro Gymraeg na Middleton] a'r deinosoriaid eraill adain-dde yn ei gredu," meddai unwaith eto.

Cawn hefyd wybod sut i adnabod Rwsiad:
"... a phan welais un o'r dynion boliog yna'n bwyta banana a smygu 'run pryd, gwyddwn mod i'n iawn."

Pwy yw pwy?
Ond pwy yw'r cymeriadau yn y nofel?
Pa gymeriadau mae o'n ddychanu?

Yn 么l yr awdur, "Does dim un cyfreithiwr wedi darllen y nofel hyd yma - a dwi'n siwr y bydd unrhyw dargedau'n darllen y nofel yn yr ysbryd iawn."

Mae yna un amlwg iawn yna - un o ferched Plaid Cymru, ond mae yna un Royston Griffiths hefyd sy'n ddraenen yn ystlys y sefydliad!

Pethau mawr
Mae yna bethau mawr yn cael eu dweud am rai sefydliadau.
"Ar y nos Lun llwyddodd un o brif swyddogion Sianel Cymru i hel bil o bedwar ffigwr yn Harry's Bar ... ond wnaeth e ddim byta dim!"

A s么n am ddiod. Mae Cymry'r dyfodol yn dal yn hoff o godi bys bach - yn wahanol iawn i gymeriadau Wythnos yng Nghymru Fydd - wythnos sy'n prysur agosau.

Ond er mai nofel wedi ei gosod yn y dyfodol yw hon, does dim rhagfynegi.

Cerddoriaeth ein cyfnod ni sy'n cael ei chwarae (ar wahan i jazz, sy'n gerddoriaeth ddiamser, beth bynnag), ffasiwn ein dyddiau ni mae'r merched yn ei wisgo a'r un diodydd 芒 ni maen nhw'n yfed.

Ond mae'n debyg bod yna ddyfodol i'n papur dyddiol arfaethedig. Mae gohebydd Y Byd yn y gynhadledd newyddion tuag at y diwedd.

Yn anffodus, mae rygbi yn dal i dynnu sylw'r genedl ac er bod y Cymry yn cynrychioli eu gwlad mewn cynhadledd ryngwladol, tynged y t卯m rygbi yng nghwpan y byd sy'n mynd 芒'u sylw.

Dyw rhai pethau byth yn newid.

Ond, yn wir, mae hi'n nofel afaelgar, hawdd ei darllen.

Anodd credu
Er hynny, gwan yw'r diwedd ac mae rhai pethau'n gofyn am sawl pinsied o halen.

Fyddai arweinydd Plaid Cymru - ac i bob pwrpas prif weinidog Senedd Cymru - yn cael crwydro dinas ddieithr ar ben ei hun?
Fyddai gwasanaethau cudd Rwsia - ynteu gangsters yn unig ydyn nhw - yn gwybod popeth am arweinydd gwlad fechan?

Dydy'r modd mae Middleton yn dod o grafangau'r Rwsiaid ddim yn argyhoeddi rhywun rhyw lawer a does yna fawr o glec ar y diwedd.

Er hynny, mwynheais ei darllen, os nad derbyn yr ergydion gaiff eu tanio drwy'r gyfrol.

Yn wir, mae bywyd gwleidyddion Caerdydd yn swnio'n ddeniadol iawn.
Pryd mae'r etholiad nesaf, d'wch?



cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy