|
Safonau iaith yn gostwng Anarch-iaith yn rhemp meddai awdur a chyhoeddwr!
Mae Cymraeg rhai o'r gweithiau llenyddol sy'n ennill prif wobrau yr Eisteddfod Genedlaethol yn salach na'r hyn 芒 geir gan blant ysgol.
Wrth gael ei holi ar y rhaglen radio, Wythnos Gwilym Owen, dywedodd Emlyn Evans, a fu'n bennaeth un o weisg pwysicaf Cymru, fod prif wobrau llenyddol y genedl yn cael eu rhoi bellach "am safon o Gymraeg na fernid yn deilwng o dystysgrif arholiad lefel O."
Yn gyn athro, yn olygydd y cylchgrawn Barn yn y chwedegau ac yn gyn bennaeth Gwasg Gee, cwynai Mr Evans fod y dirywiad yn safon y Gymraeg ysgrifenedig fod peryg i'r iaith fynd yn un nad yw'n werth ei diogelu.
Ymddangosodd ei sylwadau miniog gyntaf ar ddalen flaen newyddiadur wythnosol yr Eglwys Bresbyteraidd, Y Goleuad, ac ni thynnodd ddim o'i eiriau yn 么l wrth gael ei holi gan Gwilym Owen.
Difrifol iawn "Rwy'n credu ein bod ni erbyn hyn mewn sefyllfa ddifrifol iawn yng Nghymru yngl欧n 芒'r iaith - mi rydan ni mewn gwirionedd mewn stad o anarchiaeth," meddai gan ychwanegu y gallai "anarchiaith" fod yn air gwell.
"Mae'n ymddangos fod pawb sy'n sgwennu Cymraeg bellach yn gwneud eu rheolau eu hunain - mae canonau gramadeg a chystrawen i bob golwg yn cael eu bwrw dros y bwrdd ac mae hyn wedi treiddio nid yn unig i adran lenyddiaeth yr Eisteddfod Genedlaethol ond hefyd i fyd addysg," meddai wrth Gwilym Owen .
Anwybyddu brychau Chwipiodd athrawon ac hyd yn oed ddarlithwyr am anwybyddu brychau gramadeg a sillafu wrth farcio papurau arholiad.
"Mae'r modernwyr yn dweud mai syniadau sy'n bwysig nid y cyflwyniad - nonsens pur ydi hynny i mi," meddai.
Ond dwy o brif gystadlaethau llenyddol yr Eisteddfod Genedlaethol a ddaeth fwyaf dan ei lach - y Fedal Ryddiaith a Gwobr Goffa Daniel Owen.
Yr oedd wedi dweud yn barod yn Y Goleuad i gyfrolau buddugol y cystadlaethau hynny eleni a thros y blynyddoedd diwethaf beri "diflastod a phryder" iddo.
Bywyd yn rhy fyr "Ysgrifennwyd y naill gyfrol a'r llall yn y 'Cymraeg Byw' modern bondigrybwyll - hynny yw, iaith ddi-raen, ddiurddas ac anweddus ambell waith," meddai.
Am nofel Robin Llywelyn, Un Diwrnod yn yr Eisteddfod, dywedodd fod bywyd "yn rhy fyr o lawer" i ddarllen y fath waith.
Ychwanegodd: "Rhaid nodi bod hyn yn wir am nifer o gynhyrchion eraill yr Eisteddfod eleni, gan gynnwys . . . amryw byd o'r beirniadaethau a ymddengys yng nghyfrol y Cyfansoddiadau.
"Dyma fod yn hollol blaen: ni freuddwydiais i erioed yn fy mywyd y gwelwn i fyth gyhoeddi pethau o safon mor isel ag a geir eleni - gan feirniaid a chystadleuwyr fel ei gilydd - a tharo'r gwaelod creigiog isaf yn y feirniadaeth anhygoel ar y Faled Ddigri," meddai.
'Cwbl ddinistriol' Mynnodd nad ef yw'r unig un sy'n credu fod effaith yr hyn a eilw yn "Gymraeg Byw" yn "gwbl ddinistriol" ar ein hiaith lenyddol.
"Y tristwch mawr, ac eironig mewn gwirionedd, yw bod pennaf sefydliad diwylliannol y genedl . . . yn awr yn rhan . . . yn y broses o'i difetha fel iaith goeth a chymen ac a ddisgrifiwyd gan rywun rywdro fel 'y firain, gywrain, gain Gymraeg," meddai.
Gan ddweud i'r dirywiad ddigwydd dros gyfnod o flynyddoedd galwodd ar Gyngor yr Eisteddfod i ystyried y mater ar frys er mwyn "gweld beth fydd pen draw peth fel hyn".
"Ac yn fy marn i - y pen draw ydi ein bod ni'n glastwreiddio'r iaith yn ofnadwy ac na fydd gennym ni ddim Cymraeg gwerth ei chadw'n fyw yn y man," meddai.
Ymateb Golygydd Y Cyfansoddiadau Gwahoddwyd golygydd cyfrol y cyfansoddiadau a'r beirniadaethau, John Elwyn Hughes, i ymateb ar Raglen Gwilym Owen i sylwadau Emlyn Evans.
Yn un o bennaf gramadegwyr y Gymraeg, dywedodd y cytunai gant y cant ag athroniaeth Emlyn Evans yngl欧n 芒'r angen i ddiogelu'r iaith rhag ei glastwreiddio.
"Ond dydw i ddim yn credu fod 'amryw byd' o'r beirniadaethau yn syrthio i'r categori yna. Mae'r cyffredinoli yma yn sobor o annheg a dydw i ddim yn meddwl y byddai pobl fel Elwyn Edwards, Tudur Dylan, Idris Reynolds, Dylan Foster Evans, Alan Llwyd, yr Athro Sioned Davies ac felly yn y blaen yn hoffi cael eu pardduo 芒'r brws cyffredinol yna.
"Rwy'n credu ei fod yn hynod o annheg yn gwneud y math yna o ymosodiad cyffredinol."
Awdurdod iaith Ond cymaint ei bryder yntau hefyd am yr hyn sy'n digwydd i safon yr iaith Gymraeg y galwodd, fel y gwnaeth o'r blaen, am sefydlu "rhyw fath o awdurdod" i'w diogelu.
Ychwanegodd nad yr Eisteddod, fel yr awgrymodd Mr Evans, yw'r corff priodol i wneud hynny ond corff a gr毛wyd gyda'r pwrpas o arolygu cyflwr y Gymraeg ym mhob maes gan gynnwys meysydd cyfieithu, y wasg, cyhoeddi ac yn y blaen.
Rhywbeth sy'n newid "Rwy'n parchu'r hyn mae Emlyn yn ei ddweud a bod hyn yn haeddu sylw buan," meddai. "Dydw i ddim yn credu fod gan y Steddfod y math yna o awdurdod i edrych ar safonau iaith. Mae'r Bwrdd Gwybodau Celtaidd yn cynorthwyo yn y maes ond rwy'n credu fod angen edrych ar y peth mewn manylder," meddai.
Pwysleisiodd mai rhywbeth "byw" sy'n newid ac yn datblygu yw iaith.
"Mae iaith yn byw ac wrth fyw mae'n newid. Allwn ni ddim dal at yr hen ffurfiau . . .Pwy ar wyneb daear glywch chi yn dweud amdanynt hwy a dysgant hwy . . .a dylid edrych ar fabwysiadu rhai termau i'r iaith lenyddol.
"Dydw i ddim yn s么n am lastwreiddio, dydw i ddim yn s么n am ostwng safonau na defnyddio bratiaith," pwysleisiodd.
|
GR, Aberystwyth Cyffredinoli dinistriol yw sylwadau Evans ar safon iaith y beirniadaethau. Dylid poeni mwy am safon eu cynnwys a'u crebwyll.
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|