| |
|
|
|
|
|
|
|
Wall Street Journal yn gwylltio Cymry America Y Gymraeg yn erbyn y wal yn yr America
Mae sylwadau un o golofnwyr y Wall Street Journal am y cyfieithiad Cymraeg o Harry Potter wedi gwylltio'n gacwn ysgrifennydd cymdeithas Gymraeg yn Arizona.
Wrth s么n am gyfieithiadau i Ladin ac i Hen Roeg o Harry Potter and the Philosopher's Stone dywedodd Brian M Carney, golygydd dalen olygyddol y Wall Street Journal: "Yn wir, dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf cyfieithwyd yn dawel nifer o lyfrau Harry Potter (yn enwedig y cyntaf) i ugeiniau o ieithoedd; rhai ohonyn nhw yn rhai amlwg, eraill ohonynt, fel y fersiwn Gymraeg, yn wirioneddol od."
Un sydd wedi ymateb i'r sylw hwn ydi Mary Gilchrist, ysgrifenyddes Cymdeithas Gymraeg Arizona y mae ei theulu yn hanu o Lanerchymedd, Sir F么n.
Mewn llythyr at y WSJ mae hi'n dweud iddi gael ei "syfrdanu" gan sylwadau Mr Carney.
"Beth sy'n bod mewn stori boblogaidd yn cael ei darllen mewn iaith fyw gan bobl ifainc sydd 芒'r Gymraeg yn iaith ganddyn nhw," meddai Mary Gilchrist sy'n dysgu Cymraeg.
"Efallai y byddai gennych ddiddordeb cael gwybod fod yr iaith yn fyw ac yn iach yn Arizona. .Mae yma ddosbarthiadau yn Phoenix, fy nghartref, a Tuscon. Yr ydw i yn un sydd wrth ei bodd cael y stori yn y Gymraeg.
Holi y mae Mr carney yn ei erthygl pa ddiben oedd yna mewn cyfieithu Potter i Ladin a Hen Roeg a dydi dweud fod hyn yn creu diddordeb newydd yn yr hen ieithoedd clasurol hyn ddim yn ddadl sydd i'w gweld yn ei argyhoeddi o.
Yn wir yr unig reswm sy'n gwneud unrhyw synnwyr iddo fo ydi sylw un o'r cyfieithwyr, "Fe wnes i o am yr arian."
"Mae hwnna'n ateb sy'n gwneud synnwyr yn unrhyw iaith," meddai Mr Carney.
Gan gynnwys y Gymraeg mae'n debyg!
Cysylltiadau Perthnasol
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|