|
Cerddi Caerdydd Ymwelwyr yn troi'n ddinasyddion
Adolygiad gan Grahame Davies o Cerddi Caerdydd, gol. Catrin Beard, (Gwasg Gomer, 2004, tud. 123. 拢6.95).
Go brin bod yr un ardal arall yng nghyfres Cerddi Fan Hyn gan Wasg Gomer wedi newid cymaint yn y blynyddoedd diweddar ag ardal Caerdydd.
Bu newidiadau mawr yn y cefn gwlad, wrth gwrs, yn sgil y cyfnewid poblogaeth, a newidiadau yn y cymoedd yn sgil tranc y diwydiannau trymion.
Ond prosesau yw'r newidiadau hynny, waeth pa mor bellgyrhaeddol, tra bod y newid a ddaeth i ran y brifddinas gyda'r bleidlais ddatganoli yn 1997 yn fwy o ddigwyddiad, un sy'n gefndeuddwr sy'n rhannu cynnyrch barddoniaeth Gymraeg yr ardal hon yn dwt yn 'gynt' ac yn 'wedyn'.
Cyn ac 么l ddatganoli Mae'r gyfrol hon yn delio gyda'r ddau gyfnod, a cheir cerddi cyn- ac 么l-ddatganoli ynddi, er i'r golygydd benderfynu trefnu'r cerddi yn 么l pwnc yn hytrach na chyfnod.
Mae Catrin Beard i'w chanmol am ddod o hyd i ddeunydd yn amrywio o rigymau gwerin traddodiadol yn dyddio o'r cyfnod pan oedd Caerdydd yn rhan o'r hen Forgannwg, hyd at gerddi gan fwy nag un person sydd bellach yn gweithio i Gynulliad Cymru yn y Bae. Dyna rychwantu'r canrifoedd yn wir.
Ac ni chyfyngir y dewis i'r canon barddonol ychwaith. Ceir yno gyfraniadau nodedig gan gerddorion fel Geraint Jarman a Meic Stevens, er enghraifft. Yn wir, i mi, mae cerddi Jarman ymhlith uchafbwyntiau'r gyfrol.
Ymhlith yr uchafbwyntiau eraill ceir cerdd wych gan Alan Llwyd yn s么n am ymweliad ag eglwys Sant Ioan Fedyddiwr. Hynodir y gerdd gan ddifrifoldeb ei hamcan a chan y ffaith fod yr ymateb sydd ynddi mor ddwys a phersonol.
Bardd gwlad Mae'n wahanol yn hynny o beth i lawer o'r cerddi eraill a gesglir yma, sydd yn ymdebygu'n fwy i gynnyrch bardd gwlad, yn lleisio ymatebion carfan o gymdeithas fel y cyfryw, ac sydd, o'r herwydd, yn llai uchelgeisiol.
Byddai fy ngherddi i fy hun a gynhwysir yma yn dod i'r ail gategori hwn.
Perl o gerdd Un o'r trysorau eraill yw perl o gerdd mewn tafodiaith gan y diweddar John Rowlands, yn cofnodi cyfarfyddiad rhwng dau o Gwm Tawe yng nghaffi'r Hayes: ble chi'n bilongin 'te? Aberyshwelife? jew chi'n gwpot am y str卯t? beth o'dd e str卯t? o'n i'n byw 'na pwy gapel 'te? wel jiw a fi
Ceir hefyd englyn penigamp i Sain Ffagan: Bu'n fwthyn, rywle, unwaith; - do, cariwyd Y cerrig yn berffaith; Adeilad ydyw eilwaith Ond wedi mynd y mae'i iaith.
Priodolir y gerdd honno, a enillodd gystadleuaeth Barddas ym 1997, i Hendre'r Dail, un o ddyrnaid o gerddi anhysbys a ymddengys yn y gyfrol.
Datrys dirgelwch Fel mater o ddiddordeb, gallaf ddatrys cwestiwn awduriaeth o leiaf ddwy o'r cerddi a briodolir i Anhysbys, sef Cerdd Fawr Caerdydd 2 a Cerdd Fawr Caerdydd 3, gan mai'r awdur presennol a'i comisiynwyd i'w llunio ar gyfer menter y Gerdd Fawr ychydig flynyddoedd yn 么l.
O roi y ddwy gerdd yna i fy nghownt, caf mai minnau a Geraint Jarman sydd gydradd gyntaf o ran nifer ein cerddi a gynhwysir yn y gyfrol. Dyna fi, felly, ar yr un lefel ag un o fy arwyr - o leiaf o ran nifer cyfraniadau, os nad o ran safon!
Cyfosod celfydd Mae'r golygydd wedi bod yn gelfydd yn cyfosod cerddi sydd yn ymwneud 芒'r un profiadau, neu'r un lleoliadau.
Rhydd hynny gyfle i gymharu ymatebion beirdd gwahanol i'r un ysgogiadau.
Serch hynny, cefais fy hun yn dyheu am gael nodyn ar y tudalennau i ddangos blwyddyn, neu o leiaf gyfnod y cerddi mewn cwestiwn.
Mae'n wir y nodir llawer o ddyddiadau'r cerddi yn y mynegai yn y cefn ond mi fuasai'n braf medru lleoli cerdd yn ei chyfnod heb orfod croes-gyfeirio, gan fod byd o wahaniaeth rhwng cerddi Caerdydd cyn datganoli, a cherddi'r cyfnod wedi hynny.
Ynddo'i hun, mae'n rhwystredig i beidio gwybod a ddaw cerdd o'r 70au neu o 2004.
Gwan ac ystydebol Wrth gasglu rhyw gant o gerddi ar un thema fel hyn, mae'n anochel y bydd amrywiaeth yn y safon, a cheir nifer o gerddi llai sylweddol yma, yn wan ac ystrydebol eu mynegiant, ac yn arwynebol eu gweledigaeth.
Tybed a yw diniweidrwydd yn rhinwedd sydd wedi ei gorbrisio? Teimlaf weithiau y gall esgor ar ymateb sydd heb ddeall hanfod y sefyllfa dan sylw ac sy'n bodoli ar edrych ar allanolion.
Teimlaf fod nifer o'r cerddi yma wedi eu handwyo gan yr agwedd hon, wrth i ryw fydolwg diniwed, gwladaidd, lygad-rythu ar y ddinas fawr ddrwg.
Ceir enghreifftiau o'r math yma o ymateb drwy gydol y cyfnodau a gesglir yn y llyfr, gan gynnwys hyd yn oed gyfraniadau rhai o feirdd ifanc y presennol. Mae'r profiad dinesig yn amlwg yn creu rhyw sioc ddiwylliannol o hyd.
Mynd dan y croen Llawer mwy llwyddiannus yw'r cerddi hynny sydd yn gweld y ddinas o'r tu fewn, a lle eir o dan groen y lle.
Ceir llawer o enghreifftiau o'r rhain gan feirdd fel Emyr Lewis, Mererid Hopwood, Gwyneth Lewis, Elinor Wyn Reynolds ac Iwan Llwyd, ynghyd 芒 Jarman a Stevens, a grybwyllwyd eisoes.
Un o nodweddion y cerddi gorau yma yw nad allanolion y ddinas sydd yn mynd 芒'r sylw, ond bod y ddinas yn gefndir ar gyfer ymdriniaethau 芒 materion eraill, megis serch, marwoldeb, perthyn, ac yn y blaen. Golwg trigolyn yn hytrach nag ymwelydd.
Mae'r gyfrol hon yn arweiniad gwych i farddoniaeth Gymraeg y brifddinas, a gwelir ynddi y broses araf, ond angenrheidiol, o ymwelwyr yn troi'n ddinasyddion.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|