| |
|
|
|
|
|
|
|
Straeon o'r Strade Dewis t卯m y timau
Byddai'n g锚m rygbi i'w sawru - Scott Quinnell a'i dad, Derek, yn chwarae ochr yn ochr 芒'i gilydd i Lanelli gyda mawrion fel Ieuan Evans, Delme Thomas a Phil Bennett yn y t卯m hefyd.
Yn anffodus i gefnogwyr y clwb gyda'r enwocaf yng Nghymru t卯m breuddwydion awdur llyfr am y Strade yw'r un yn cynnwys y chwaraewyr disglair hyn o'r gorffennol.
Mae Straeon o'r Strade a gyhoeddwyd mewn noson arbennig Tachwedd 10, 2004, yn cofnodi hanes hir a llwyddiannus clwb a ddisgrifir fel Manchester United y byd rygbi!
Yr awdur yw'r cyn-ddyfarnwr rygbi a'r gohebydd teledu, Alun Wyn Bevan, sydd wedi dewis ei d卯m delfrydol o blith chwaraewyr Llanelli dros y blynyddoedd.
15 - Terry DAVIES 14 - Ieuan EVANS 13 - Albert JENKINS 12 - Ray GRAVELL 11 - JJ WILLIAMS 10 - Phil BENNETT 9 - Dwayne PEEL 1 - Barry LLEWELLYN 2 - Norman GALE 3 - Tom EVANS 4 - Delme THOMAS 5 - RH WILLIAMS 6 - Derek QUINNELL 8 - Scott QUINNELL 7 - Ivor JONES
"Fy newis i yw 'r rhain ac nid wyf yn disgwyl i bawb gytuno 芒 mi ac os oes gan bobl ffefrynnau eu hunain rwy'n hapus iddynt gysylltu 芒 mi ac efallai y gallwn greu t卯m delfrydol arall ar gyfer y dyfodol."
Cyhoeddir y llyfr ar adeg pan yw'r diwedd yn agos谩u i Barc y Strade, cartref ysbrydol y t卯m, a'r clwb yn edrych ymlaen at gyfnod newydd yn ei hanes a stadiwm newydd yn ardal Trostre ar gyrion y dref.
Bu Parc y Strade yn gymaint tynfa i ddilynwyr ffyddlon y clwb nes dod yn 'Theatr Freuddwydion' i'r dref ac ymhlith y digwyddiadau mawr sy'n cael eu cofio yn y llyfr mae'r fuddugoliaeth wefreiddiol honno dros y Crysau Duon yn 1972 a anfarwolwyd gan Max Boyce gyda'r geiriau, "Roeddwn i yno!"
Edrych y llyfr yn 么l ar dros ganrif a mwy o rygbi Llanelli drwy fanylu nid yn unig ar yr uchafbwyntiau ond y siomedigaethau hefyd.
Cawn hanes hefyd, rai o'r chwaraewyr rygbi gorau erioed, nid dim ond yn hanes Llanelli a Chymru, ond yn hanes rygbi'r byd.
"Roeddwn am gofnodi cymaint ag oedd yn bosib o hanes y clwb yng ngeiriau y bobl eu hunain. Rwy'n gobeithio bod y cameos yn y llyfr yn cynorthwyo pobl i ddeall y clwb a'r gymdeithas sy'n ei gefnogi yn well."
Yn y llun: Alun Wyn Bevan, awdur y llyfr, gyda'r cyn chwaraewyr,Terry Davies a Phil Bennett.
Straeon o'r Strade gan Alun Wyn Bevan. Gwasg Gomer. 拢9.99 Defnyddiwch y ffurflen isod i ddewis eich t卯m delfrydol chi
Cysylltiadau Perthnasol
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|