|
Cofio Eirug Chwerthin wrth gofio
Tachwedd 2004 Roedd Clwb Rygbi Caernarfon yn llawn i dalu teyrnged i Eirug Wyn ac i gyhoeddi llyfr o atgofion gan rai oedd yn ei adnabod.
Lefi Gruffudd o'r Lolfa, cyhoeddwyr y gyfrol Cofio Eirug, agorodd y noson a dywedodd fod y llyfr yn tystio i boblogrwydd Eirug gan fod cymaint o bobl eisiau - ac wedi - cyfrannu iddi.
Ac yn 么l Emyr Llewelyn Gruffudd, golygydd y gyfrol a chyn bartner busnes i Eirug ac a'i dilynodd, roedd y gwaith wedi codi teimladau chwithig, chwithig, fod angen cyfrol o'r fath.
Roedd drwy'r amser, meddai, wrth olygu'r llyfr yn meddwl beth fyddai Eirug wedi'i ddweud am y peth a'r peth.
Nid astudiaeth Nid cofiant nac astudiaeth y gyfrol, meddai, ond syniad oedd wedi codi yn y dyddiau wedi colli Eirug, cyfnod o golli dagrau - drwy grio a chwerthin.
Dywedodd i'r gwaith casglu deunydd fod yn hawdd gan fod pawb eisiau cyfrannu.
Y bwriad oedd cael llyfr o rhyw 140 o dudalennau ond cafodd gryn drafferth i'w gadw i 200.
Yna daeth Manon Llwyd i'r llwyfan, merch a fu'n gweithio gydag Eirug yn ei siop yng Nghaernarfon a merch a enillodd gystadleuaeth C芒n i Gymru un flwyddyn gyda ch芒n yr ysgrifennodd Eirug eiriau iddi.
Canodd ddwy g芒n, Pwy sydd am rewi'r dagrau? (ei deyrnged i Bob yr Herald, gofalwr y swyddfa bapur newydd oedd y drws nesaf i'w siop) a Martin (geiriau a sgwennodd Eirug am Martin Luther King wedi iddo ymweld 芒 Memphis).
'Ei thad' Yna soniodd Dwynwen, ei ferch hynaf, am ei thad. Son am yr hwyl a gai gydag o a'r golled gawson nhw fel teulu.
Roedd yn ei gofio, meddai, 芒 gw锚n fawr ar ei wyneb. A dyna sut oedd hi eisiau i bawb arall gofio amdano. Dyna fyddai yntau am i bawb i wneud, meddai.
Darllenodd John Ogwen bytiau o'r gwahanol gyfraniadau yn y llyfr. Dechreuodd gyda chyfraniad gan Rhiannon, merch arall Eirug, yn s么n fel roedd ei thad wedi rhoi ei thocyn i fynd i Faes yr Eisteddfod ac yn hytrach na phrynu un arall aeth ati i'w pherswadio mai hi oedd wedi ei anghofio yn y garafan ac yntau'n smalio ei dwrdio.
Cafodd fynd i fewn am ddim wrth gwrs.
Efo Thatcher Soniodd fel y bu i'r teulu fynd i Lundain ac ymweld 芒 Madam Tussauds ac yntau'n camu dros y rhaff rhwng y lle cerdded a delw o Margaret Thatcher a chyn i'r ceidwad ei lusgo oddi yno cafodd dynnu ei lun gyda'i fys i fyny ei thrwyn.
Soniodd fel y byddai ei thad yn dweud straeon wrthi a'i fod wedi dweud unwaith bod modryb iddi wedi cael ei lladd drwy i fagbibau ddisgyn o adeilad uchel a'i tharo'n ei phen!
Smyglo watsus Aeth John Ogwen ymlaen i ddarllen rhan o atgofion Dafydd Owen yn s么n am Eirug a chriw o'r Groeslon yn smyglo mil o watsus Gwyddelig i Iwerddon wrth fynd i g锚m rygbi ryngwladol.
Soniodd fel y bu yntau ac Eirug yn actio ar lwyfan gyda'i gilydd a chofiodd yn arbennig am y ddrama Salwn Sal.
Ar ddiwedd y ddrama roedd y ddwy ferch oedd yn rhannu'r llwyfan 芒 nhw i roi clec i wydraid o wisgi yr un. Te oer oedd yn y gwydrau yn yr ymarferion ond roedd Eirug, ar y noson, wedi ei newid am wisgi go iawn.
Darllenwyd atgofion Terwyn Thomas a fu'n tynnu arwyddion gydag Eirug ac a rannodd ddoc llys a chell ag o.
Soniodd am yr hwyl a gafwyd gyda chamgyfieithu cyfieithydd y llys gydag 'illuminated sign' yn 'arwydd gyda goleudy arno'.
Cofion canwr I gloi'r noson perfformiodd Tecwyn Ifan. Roedd Tecs yn y coleg yng Nghaerfyrddin efo Eirug ac Eirug yn rheolwr Ac Eraill, y gr诺p ddaeth 芒 Tecs i amlygrwydd.
Rhwng y caneuon soniodd am Eirug a soniodd am y cwt oedd y tu 么l i Siop y Pentan, Caerfyrddin, ble cadwai Eirug ei baent a'i gelfi ar gyfer paentio a thynnu arwyddion.
Yno hefyd roedd Tecs wedi cyfansoddi rhai o'i ganeuon.
S么n am Eirug, wrth gwrs, yr oedd pawb wedi i'r canu orffen ac er bod y straeon amdano i'w clywed uwch s诺n y gwydrau, roedd rhyw ddistawrwydd yn y clwb. Roedd un llais ar goll. Dafydd Meirion
Cofio Eirug. Golygydd, Emyr Llewelyn Gruffudd. Lolfa. 拢6.95.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|