大象传媒

Explore the 大象传媒
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

大象传媒 Homepage
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Y Dyn 'i Hun
Dechrau wrth 'i draed
Hywel Gwynfryn yn ateb cwestiwn Llais Ll锚n: Pam sgwennu hunangofiant?


Pam a sut?
Dyna'r ddau gwestiwn sy'n cael eu gofyn i mi'n aml y dyddiau hyn.

Pam wnes i sgwennu fy hunangofiant, a sut.

Mae'n si诺r mai'r ateb syml i'r pam ydi oherwydd fod rhywun wedi gofyn i mi, rhyw ddwy flynedd yn 么l.

Clawr y llyfrYn wir, roeddwn wedi cael gwahoddiad gan Wasg Gwynedd flynyddoedd cyn hynny - daeth Gerallt Lloyd Owen ataf ar faes rhyw Eisteddfod a gofyn a fyddai gennyf ddiddordeb mewn rhoi ychydig atgofion ar bapur.

Mae o'n swnio'n hawdd o'i ddeud o felna 'ychydig atgofion ar bapur'....

"Be' ti'n neud pnawn 'ma Hwal?"
"Oni'n meddwl baswn i'n sgwennu fy hunangofiant."
"Ew, lot o waith."
"Nacdi, tad. Ychydig atgofion ar bapur. Fyddai 'di gorffan erbyn amsar swpar."

Fe gymerodd flwyddyn a hanner o sgwennu, bob penwythnos!

Gwrthod gwahoddiad caredig Gerallt wnes i bryd hynny, gan ddweud nad oeddwn i eisiau sgwennu amdano, tra roeddwn i'n gallu ei wneud o!

Dathlu deugain
Yna, dair blynedd yn 么l, daeth gwahoddiad arall, o'r un cyfeiriad, a'r tro hwn, gan fy mod yn gwybod y byddwn, dair blynedd yn ddiweddarach, sef eleni, yn dathlu deugain mlynedd o ddarlledu, teimlwn fod hwnnw'n fachyn digon cryf i hongian y g么t hunagofiannol arno.

Rydwi wedi cael bywyd anhygoel o freintiedig yn broffesiynol. Wedi crwydro'r byd ac yn dal i wneud hynny; wedi cyfarfod pobol ddiddorol a chael profiadau bythgofiadwy - ac roeddwn i'n teimlo y byddai croniclo'r stori yn esgor ar lyfr digon diddorol.

Ateb cwestiynau poenus
Yn ychwanegol at hyn roeddwn yn gweld cyfle hefyd i geisio edrych ar fy mywyd cyhoeddus, a'm bywyd preifat yn wrthrychol, ac i geisio ateb rhai cwestiynau oedd wedi bod yn fy mhoeni ers yn ifanc.

Ac felly, yn hynny o beth, mae'r hunangofiant yn ddadlennol yn ogystal 芒 bod yn gyfrol o ddigwyddiadau diddorol yn fy mywyd.

Wrth fy nhraed
Dyna'r pam.

A'r sut? Wel, fel dudodd yr hen ffarmwr wrth y bachgen ifanc oedd am fynd at i hel cerrig, miloedd o gerrig, mewn cae, a fynta ddim yn gwybod ble i ddechra':
"Dechra wrth dy draed" oedd cyngor y ffarmwr.
A dyna beth wnes i.

Y dasg oedd casglu pumdeg pum mil o eiriau at eu gilydd i greu llyfr ac i mi roedd hynny fel dringo Everest - heb yr ocsigen llenyddol.

Ond dechra wrth fy nhraed oedd y cyngor a dyna wnes i. Fe ysgrifennwyd y geiriau cyntaf ar ddarn o bapur yng nghaffi awyr agored yr Ais, yng nghanol Caerdydd, efo paned o de mewn cwpan polysteirin, wrth fy ochor.

Rhif yn gyntaf
Yn wir, nid gair aeth i lawr ar y papur yn gyntaf, ond rhif - 1942 - dyddiad fy ngeni.

Roeddwn wedi cychwyn - wedi rhoi'r garreg gyntaf oedd wrth fy nhraed yn y bwced.

Ymhen tri mis, roeddwn i wedi sgwennu rhyw ddeng mil o eiriau - ac fe aeth y cyfan i'r bin sbwriel.

Yn hytrach na dweud fy stori yn fy ffordd fy hun, mor naturiol a phosib 'roeddwn i wedi llwyddo i ysgrifennu traethawd hir, ac anniddorol.

Llyfr sy'n siarad
Cofiais Charles Williams yn dweud wrthyf unwaith, a ninnau yn teithio yn ei gar i actio yn Neuadd y Penrhyn;
"Cofia Hwal bach, mai siarad y sgript wti fod i neud - nid i darllan hi."

Ail gychwynnais gan fynd ati i geisio sgwennu llyfr sy'n siarad efo chi.

Fy ngobaith yw y byddwch chi'n clywed y llais wrth ddarllen y stori.

Byddai wedi bod yn amhosib imi gwblhau'r dasg heb gariad teulu, cefnogaeth ac anogaeth ffrindiau a theulu, ac yn arbennig felly amyneddgarwch fy ngolygydd, Nan Ellis a'm tywysodd yn ddiogel drwy sawl cors.

Un rhybudd bach cyn cloi, os ydach chi'n prynu'r llyfr gan ddisgwyl darllen cyfrol swmpus ac awdurdodol am hanes darlledu yng Nghymru rhwng 1964 a 2004peidwch 芒 gwastraffu'ch arian.

Mae John Davies wedi gwneud hynny.

Beth bynnag, fe gewch chi ddwy byrgar enfawr efo caws a chips am yr un pres, efo sgytlaeth os da chi'n lwcus.

Ond os mai isho gwybod ychydig bach mwy am y dyn sydd yn y bocs yn y bore ac ar y bocs gyda'r nos ydach chi, wel, ella ma hwn 'di'r llyfr i chi.
Gobeithio wir.



cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy