大象传媒

Explore the 大象传媒
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

大象传媒 Homepage
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Cymru Geoff Charles
Rhywbeth miniocach na hiraeth
Adolygiad Grahame Davies o Cymru Geoff Charles: Hanner canrif o fywyd Cymru mewn llun a gair gan Ioan Roberts (Y Lolfa), 拢14.95, 180tt.

Clawr y llyfrAc yntau wedi cofnodi digwyddiadau mawr a m芒n Cymru am dros hanner canrif, daeth y ffotograffydd Geoff Charles ei hun yn sefydliad cenedlaethol erbyn iddo farw yn 2002 yn 93 oed.

Mae'r gyfrol hon, a gyhoeddwyd gan Y Lolfa gyda deunydd a ddarparwyd gan y Llyfrgell Genedlaethol, yn deyrnged gwbl deilwng i 诺r a wnaeth gymaint i gofnodi mewn lluniau du a gwyn rai o ddelweddau pwysica'r ugeinfed ganrif yn y wlad hon.

O bentref diwydiannol Brymbo ger Wrecsam y daeth Geoff Charles, ac o aelwyd lle'r oedd y Gymraeg yn brin. Ond maes o law, fe ddaeth, yn bennaf drwy ei waith ar bapur newydd Y Cymro, i werthfawrogi'r diwylliant Cymraeg yn fawr, ac fe wnaeth gyfraniad o bwys hanesyddol wrth adlewyrchu'r diwylliant hwnnw ar ffurf delweddau.

Meistr ar ei grefft
Fel y dengys y gyfrol drylwyr hon, bu cyfuniad o resymau pam y mae ei gyfraniad yn un mor sylweddol.

Yn gyntaf, yr oedd yn feistr ar ei grefft, wedi dysgu proffesiwn newyddiadura mewn cwrs ffurfiol ar adeg pan oedd hyfforddiant o'r fath yn beth prin. Roedd hefyd yn drylwyr ac yn broffesiynol yn ei barch at grefft y camera.

Yn ail, roedd wedi ymarfer ei grefft nid yn unig ym myd cymharol gysgodol y wasg Gymraeg ond ym myd cystadleuol a didrugaredd y wasg Saesneg.

Dyma'r doniau a'r profiad a ddefnyddiodd wedyn yn y Gymru Gymraeg.

Yn drydydd, roedd ganddo rinwedd nad oedd, si诺r o fod, yn ymddangos yn un enfawr ar y pryd, ond un y gallwn weld bellach oedd yn gwbl allweddol - hynny yw, yr oedd yn catalogio'i luniau yn fanwl ac yn cadw ei negatifau yn ofalus.

Y trylwyredd yma a'i galluogodd, wedi ei ymddeoliad, i gyflwyno casgliad o dros ugain mil o ddelweddau i'r Llyfrgell Genedlaethol, gan gynorthwyo'r staff wedyn i'w catalogio.

Mater o lwc
Ac yn olaf, roedd ganddo'r ddawn annirnadwy hwnnw - sef lwc. Anlwc rhywun arall yw lwc y newyddiadurwr, wrth gwrs, ond y nodwedd anesboniadwy hon a olygodd mai Geoff Charles, er enghraifft, a gafodd fynediad cyn yr un ffotograffydd arall i lofa Gresffordd yn syth wedi'r danchwa yno ym 1934, ac mai ef oedd ar stepen y drws pan aeth tr锚n oddi ar y cledrau ym Mhenmaen-mawr ym 1950, gan ladd chwech o bobl.

Roedd yn y fan a'r lle hefyd pan aeth i drac Le Mans yn Ffrainc bum mlynedd yn ddiweddarach, gan ddilyn ei ddil茅it mewn rasio ceir. Ef oedd y ffotograffydd agosaf at y fan pan aeth car rasio o'r trac i'r dorf gan ladd 80 o bobl mewn damwain erchyll.

Ceir dau o luniau trawiadol y digwyddiad hwnnw yn y gyfrol.

Llun Carneddog
Math o lwc hefyd oedd wrth wraidd y modd y cafodd Charles lun enwocaf ei yrfa, ac o bosib, un o luniau Cymreig enwoca'r ganrif, sef hwnnw o'r bardd gwlad Carneddog a'i wraig Catrin, y ddau yn eu hwythdegau, yn edrych allan dros yr olygfa o'i cartref mynyddig, a hwythau am adael am y tro olaf, ryw bnawn Sul yn 1945.

Mae'r awdur Ioan Roberts yn dangos mai John Roberts Williams, golygydd Y Cymro ar y pryd, a berswadiodd Charles i wneud y daith i fyny i'r Carneddi i gymryd lluniau'r hen gwpl wrth iddynt ffarwelio 芒'r fan.

Er yn gyndyn i wneud mwy o waith y Sul hwnnw, fe aeth Charles i'r fferm, ac yno fe gofnododd y ddelwedd a geir ar glawr y gyfrol hon, delwedd sy'n dweud cyfrolau am farwolaeth yr hen ffordd o fyw gwledig Gymreig.

Dyna lwc i Geoff Charles fod John Roberts Williams wedi dwyn persw芒d arno.

Diddorol, ac yn ychwanegu haen arall o boen at lun sydd eisoes yn ddirdynnol, oedd deall mai oherwydd hunanladdiad eu mab Hywel yr oedd yr hen b芒r yn gorfod gadael Cymru am Hinckley yn Lloegr.

Mwy nag ychydig o boen
A dweud y gwir, mae mwy nag ychydig o boen yn y gyfrol hon, i'r darllenydd hwn o leiaf. Hyd yn oed gyda'r lluniau siriolaf - hwnnw o efeilliaid bach yn godro'r gwartheg, er enghraifft - fe deimlais wayw o feddwl fod y math yna o ddedwyddwch, yn gysylltiedig 芒 ffordd arbennig o fyw, bellach yn beth mor brin.

Godro Mae'r llyfr hwn yn llawn nostalgia yng ngwir ystyr y gair hwnnw, sef poen yn gysylltiedig 芒 dychwelyd adre, neu 芒'r anallu i ddychwelyd adre.

Defnyddiaf y gair hwnnw gan ei fod, yn ei hanfod, yn finiocach na 'hiraeth', ac mae rhywbeth llymach na hiraeth yma.

Cofio Tryweryn
Dyna a deimlir, mae'n sicr, wrth ystyried y gyfres nodedig o luniau sy'n cofnodi dinistr Capel Celyn. Go brin bod angen geiriau i ychwanegu at boen y digwyddiad hwnnw.

Ceir casgliad o 29 o luniau yn cofnodi helynt Tryweryn a brwydr iaith y cyfnod. Dyna gyfran sylweddol o'r llyfr cyfan ac er mor rymus y lluniau yma, yn y cyd-destun hwn y cyfyd yr unig g诺yn sydd gennyf am y llyfr hwn, sef y caniateir ar adegau i fydolwg cenedlaetholgar ystumio gwrthrychedd y testun.

Gwynfor Evans yn LerpwlO ddarllen y bennod gyntaf, er enghraifft, ofnais am ychydig y byddid yn dehongli Geoff Charles yn unig yn nhermau ei berthynas 芒 chenedlaetholdeb ac 芒'r iaith Gymraeg, ffocws, os maddeuir y gair, a fuasai'n gyfyngiad ar yrfa a fu dipyn yn ehangach na hynny.

Er, teg yw dweud, i weddill y gyfrol roi sylw teilwng i holl ehangder a chyd-destun gyrfa ei wrthrych.

Gwelir ambell awgrym arall o fydolwg a wreiddir yn ddwfn yn y Gymru Gymraeg pan ddywedir am y chwedegau: "Stori fwyaf y cyfnod oedd boddi Tryweryn."

Wel, ie, nid oes modd gorbwysleisio pwysigrwydd Tryweryn i genedlaetholdeb Cymreig ac i ymgyrchu dros yr iaith. Ond os dywedwch y geiriau "Capel Celyn" neu "Tryweryn" wrth y rhan fwyaf o bobl di-Gymraeg Cymru, ac wrth bron unrhyw un y tu hwnt i Gymru, yna ni fyddai ganddynt y syniad lleiaf am beth yr ydych yn s么n.

Petaech chi, fel arall, yn crybwyll enw pentref arall o Gymru a ddaeth i sylw'r newyddion yn y chwedegau, sef Aberfan, yna fe fyddai siawns go lew y byddent yn deall ar unwaith.

Llawer enwocach
Yr un blaenoriaethau Cymraeg-ganolog sydd, rwy'n tybio, yn gyfrifol am yr honiad mai'r "ffotograff enwocaf a dynnwyd yng Nghymru erioed" yw hwnnw o Garneddog.

A phob parch, i ddychwelyd at bentref Aberfan eto, onid canmil enwocach yw'r ddelwedd a dynnwyd gan y Merthyr Express o'r heddwas Victor Jones yn cario'r fechan Susan Maybanks allan o adfeilion yr ysgol lle lladdwyd 116 o'i chyd-ddisgyblion?
Dangoswyd y llun hwnnw o amgylch y byd i gyd.

Gellir dweud yr un peth am bron i unrhyw lun a dynnwyd o Dylan Thomas yng Nghymru, wrth gwrs. Er cystal y llun o'r bardd o'r Carneddi, go brin ei fod yn enwocach na nifer o luniau Cymreig o'r bardd byd-enwog o Abertawe.

Perlau o luniau
Ond ni hoffwn ganolbwyntio ar f芒n wendid fel hwnnw. At ei gilydd mae hon yn gyfrol odidog. Ceir llawer o berlau o luniau yma.

Kate Roberts yn wynepdristDyna'r llun o'r Dr Kate Roberts ynghanol y dorf wrth i'w chyn gartref, Cae'r Gors, gael ei gyflwyno i'r genedl.

Mae hi'n syllu at y camera yn wynepdrist.

Yr hyn y mae'r darllenydd yn sylwi ar 么l ychydig eiliadau yw bod ei golygon fel pe baent wedi effeithio'r dorf o blant, sydd yn edrych yr un mor ddigalon 芒 Brenhines ein Ll锚n.

Dyna'r llun o drychineb glofa Gresffordd, lle darlunnir y criw achub yn dychwelyd.

Pam yn y byd y maen nhw'n wenau i gyd, a dau gant a hanner o'u cyd lowyr wedi'u claddu dan eu traed? Rhyddhad o fod wedi dod i'r lan yn fyw eu hunain, efallai, o gofio y lladdwyd tri achubwr yn y drychineb honno.

Glowyr GresfforddDyna'r lluniau o drenau, wedyn, lle gellir bron iawn arogli'r st锚m, a'r lluniau o blant, lle mae rhywun bron iawn yn teimlo cosfa dillad brethyn. Delweddau o fyd wedi darfod.

Mae'r Llyfrgell Genedlaethol i'w diolch am eu gweledigaeth yn diogelu ac arddangos y casgliad gwych hwn ac mae Ioan Roberts wedi gwneud gwaith da wrth iddo greu cyfrol sy'n frith o hanesion difyr o'r modd y daethpwyd o hyd i nifer o luniau trawiadol, ac wrth iddo ddewis cyfoeth o atgynyrchiadau safonol o luniau cryf iawn.

Mae Cymru Geoff Charles nid yn unig yn gofnod hanesyddol pwysig ond yn wledd i'r llygaid ac yn gyfrol hardd y mae modd ymgolli ynddi gydag edmygedd, gyda phleser, ac, yn anochel - gan mor ddwys yw llawer o'r lluniau - gyda rhywfaint o boen hefyd.

Cysylltiadau Perthnasol


cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy