|
Raslas Bach a Mawr Trechu'r ddiod yng ngardd y meddwl - brwydr actor yn erbyn alcoholiaeth
Adolygiad Glyn Evans o Raslas Bach a Mawr! Hunangofiant Wynford Ellis Owen. Gomer. 拢8.99.
Os bu gwir o gwbl yn yr ystrydeb am dristwch y tu 么l i w锚n y clown yna mae'n wir yn achos awdur y gyfrol hon.
Anodd cysoni y llyngyren dal honno, Syr Wynff ap Concord y Bos, a'r Wynford Ellis Owen sy'n awdur hunangofiant gydag un o ebychiadau enwocaf y Teliffantiwr yn deitl iddi.
Fel y byddai Wynff (ap Concord y Bos, rwan) yn dweud, "Raslas bach a mawr, yn wir."
Yn rhyfeddach fyth perthynai rhyw ddwyster i gofiant hanner arall y ddeuawd gomedi wych honno hefyd, Plwmsan y Twmffat Twp, pan gyhoeddodd Mici Plwm ei lyfr yntau dros flwyddyn yn 么l.
Dau glown, dau wyneb - dau ddwyster!
Brwydr arteithiol Hanes brwydr arteithiol yn erbyn alcoholiaeth yw hanes Wynford Ellis Owen ac o ddarllen ni all rhywun ond rhyfeddu y gallai bywyd personol un a fu'n gyfrwng cymaint o ddigrifwch, pleser a mwynhad ar sgr卯n ac ar lwyfan fod yn un mor arteithiol - a'r perfformiad cyhoeddus yn gymaint ysgariad a'r byw preifat.
Yn ei hunangofiant mae Wynford Ellis Owen yn gignoeth o onest.
O'r herwydd, go brin y bydd hon yn gyfrol y gall neb deimlo'n gwbl gyfforddus yn ei chwmni.
Does yna ddim byd yn gysurus mewn darllen am ddyn yn cyrraedd y gwaelodion er mor ddyrchafol y gall darllen am yr adferiad fod.
Gofyn pam Go brin mai fi fydd yr unig un i holi beth sy'n cymell rhywun i drafod mor agored 芒 hyn.
Mae'r awdur yn ateb y cwestiwn hwnnw yn gynnar yn y gyfrol: ". . . mae wedi dod yn batrwm o 'mywyd i ers deuddeg mlynedd, bellach, i ddeud wrth bobl am fy mhrofiadau tra oeddwn i'n yfed, yn y gobaith y gwnaiff un person, efallai, uniaethu 芒 mi, a thrwy hynny, arbed gorfod dioddef yr uffern fu'n gymaint rhan o'm bodolaeth i hyd 1992."
Ac, yn wir, bu seiadau profiad ar deledu a radio dros y blynyddoedd - ond mae'n cyfaddef iddi fod yn anos "o lawer" dweud y stori ar ddu a gwyn.
Arswydo Gallwn ddeall hynny, nid ar chwarae bach y byddai unrhyw un yn ymgymryd 芒 sgwennu unrhyw gyfrol 264 o dudalennau - gymaint mwy yr her a'r ymdrech pan yn dadberfeddu i'r fath raddau.
Mae darllen am y carchar o feddwdod y cafodd ei hun ynddo yn arswydo dyn.
Mwy o arswyd fyth yw sylweddoli nad gwella o gyflwr fel hyn y mae rhywun ond dysgu ei reoli ac mae llwyddo i wneud hynny yn brawf o wytnwch a nerth arbennig yng nghymeriad dyn.
"Tydw i ddim yn yfed heddiw, ond mae'r meddwl alcoholaidd gen i, ar adegau, o hyd," meddai.
Yn 么l i'r cychwyn Mae'n olrhain cychwyn y broblem i ddyddiau cynnar ei blentyndod gydag awgrym fod y salwch hefyd yn rhan o'i etifeddiaeth.
Yr oedd ei fam, meddai, yn gaeth i dabledi ac mae'n ddiddorol sut y gall yntau nodi digwyddiadau penodol a fu'n fodd i droi mantol ei fywyd - un allweddol pan oedd yn wyth oed.
Yr un mor ddiddorol 芒'r darlun o alcoholiaeth a'i dwf brawychus yw'r dulliau a ddefnyddia'r awdur i'w gynnal ei hun yn awr ei fod 'yn sych'.
Telir teyrnged i ymroddiad teulu a ffrindiau - a byddai cyfrol am frwydr y rheini yn un ddadlennol si诺r o fod yn gweld carennydd yn dadfeilio a brwydro'n 么l.
Mae cynhaliaeth ysbrydol neu grefyddol yn ganolog i'w adferiad fe ymddengys.
"Mae Duw'n rhoi arwyddion clir i mi yngl欧n 芒 sut i ymddwyn," meddai.
"Mae gwneud y pethau anghywir yn rhoi'r canlyniadau anghywir i mi - a phoen emosiynol dirdynnol . . . Drwy wneud y pethau iawn, sut bynnag, rwy'n cael y canlyniadau iawn: tawelwch meddwl, hunan-barch, parch a chariad fy nheulu a'm ffrindiau, a llwyddo'n broffesiynol - sy'n cyfrannu at fy hunan-werth," meddai gan ychwanegu ei fod yn cydnabod "cyfraniad amhrisiadwy" teulu a ffrindiau i'r broses hon.
Byw efo'r ddraig Wrth ateb cwestiwn am gyflwr ei fywyd heddiw dywed: "Wel, rwy'n berson bodlon ar fy myd ac yn ymddiried fy mywyd yn llwyr i Dduw. Rwy'n dechrau pob diwrnod newydd gyda gweddi," meddai.
Fodd bynnag, dydi byw efo "draig" alcoholiaeth ddim yn hawdd: "Mae honno yna o hyd, yn cysgu'n dawel. Ond weithiau, os bydda i'n newynog, yn flin, yn teimlo'n unig neu wedi gorflino, bydd yn troi drosodd i'm hatgoffa o'i bodolaeth.
"Bydd y ddraig yn gwmni i mi tra byddai. Dyna pam, er 'mod i wedi'n arbed o alcoholiaeth am heddiw, fedra i dim nofio'n rhy bell oddi wrth y cwch achub.
"Byddaf angen presenoldeb hwnnw a'i griw hwyliog yn gydymaith cyson i mi drwy stormydd bywyd, nes i mi gwblhau'n taith i'r ochr draw.
"Does dim gwella o alcoholiaeth - dim ond arbediad dyddiol, sy'n hollol ddibynnol ar gyflwr ysbrydol dyn."
Gardd yn y meddwl Diddorol hefyd yw'r weithred o greu gardd yn ei feddwl y gall encilio iddi i fyfyrio a chael trefn ar ei fyd yn 么l yr angen.
"Fy ngardd i ydy hi, ac mi fedra i blannu unrhyw blanhigyn rwy'n dymuno'i blannu ynddi hi . . . Yno mae fy ffrindiau i gyd - yno mae Mam a Dad . . .Ac yno mae Duw.
"Os ydw i angen datrys rhyw sefyllfa, neu ddarganfod yr ateb i ryw ddirgelwch neu'i gilydd, mi af i'r ardd yn fy nychymyg, a holi Duw yn uniongyrchol.
"Bob amser caf atebiad - un ai o enau Duw neu, cyn diwedd y dydd, o enau rhywun arall," meddai.
Yno, meddai, y cafodd ganiat芒d ei fam i sgrifennu "yn onest ac yn agored" amdani hi a'i dad.
"Bu hynny'n gymorth i mi goncro'r ofn, a mentro sgrifennu," meddai.
"Mae'n wyrthiol sut mae'n gweithio. Ond mae'n gweithio - dyna'r unig beth sy'n bwysig," meddai am feddylfryd yr ardd. Yn wir.
Cysylltiadau Perthnasol
|
Sian, Caerdydd. Mwynheais ddarllen am hanes Wynfford Ellis Owen yn fawr iawn. Nid oeddwn yn gwybod llawer amdano heblaw mai ef oedd Syr Wymff ap Concord, y Bos ac nid oeddwn ychwaith yn gwybod llawer am alcoholiaeth. Credaf ei fod yn gymeriad cryf iawn, ond yn amlwg bod ysgrifennu'r llyfr wedi bod yn anodd aruthrol iddo ond yn rhan o'i broses tuag at cadw'n sobor. Chwarae teg iddo!
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|