大象传媒

Explore the 大象传媒
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

大象传媒 Homepage
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Penillion Huw
Ei morio hi efo sgotwr o L欧n
Adolygiad Ioan Mai Evans o Penillion Huw gan Huw Erith. Cyfres Barddoniaeth Boced Din. Gwasg Carreg Gwalch. 拢3.50.

Teitl syml i lyfr Huw Erith sydd newydd ei gyhoeddi yn y gyfres, Barddoniaeth Boced Din gan Wasg Carreg Gwalch.

Ar y clawr mae llun o Huw lygatlas, bryd golau a'i beint yn ei law.

Yn Uwchmynydd yng nghantref eithaf penrhyn Ll欧n mae Huw yn ymgorfforiad o'r hen wehelyth a adnabu Cynan gynt pan ganodd :
"A'r bobl fel eu teios yn hoff ac yn hen,
"Yn araf eu gwg ac yn araf eu gw锚n."

Clawr y llyfr Ond beth welodd Huw ym Mhen draw'r byd ar draeth Aberdaron:

Yn Aberdaron ddiwedd Awst
Y cwrddais i 芒 Menna,
Yn ei bicini ar y traeth,
Ac yn ei llaw banana.

Fe ddaeth hi acw ata'i fyw
Bu acw trwy y gaeaf,
A thra bu hi, rydw i'n si诺r
Cafodd ddeg affair o leiaf.

O fewn yn agos i drigain dalen cewch benillion amrywiol fel yr uchod a nifer o englynion fel hwn i'w ferch Elen ar ddathlu ei phen-blwydd yn ddeugain oed:

Darfod wna gw锚r pob seren - i ninnau
Daw llen llwyd niwlen,
Ond ein haul wrth fynd yn hen,
Yw dy olau di Elen.

Beth yw diwrnod i chwi a minnau? I'r pysgotwr unig sydd yn adnabod swnt Enlli, a'r m么r a'i drochion neu ei lyfnder dyma a ddywed Huw:

Yn ddall, rwy'n llywio allan - daw yn llwyd,
Yn lli, a dry'n arian,
Golau a ddaw o gilan,
A daw dydd fel doe ar d芒n.

Mae ganddo adran i nifer o ddiarhebion a chwpledi yn 么l arfer hen feirdd Ll欧n. Onid gwir - mae pob un yn mofyn mwy - ond ai hyn sy'n eich sobri yn ei gwpled:

Yr ateb i bob sobri
Yw mwy o win am wn i.

O ydi, mae Huw yn deall yn iawn beth yw plwc ar y lein ond dim sgodyn. Medr yntau fod mor bryfoclyd a'r pysgod.

Sawl math o bobl sydd medda chi? Mae Huw, yn ddireidus, yn gadael i'r Ocsiwniar ateb fel hyn:
Mae tri math o bobol 'ngwas i
Meddai ocsiwniar tafod chwim,
Mae na bobol sy'n medru cyfri
Ac mae na rai na fedra nhw ddim.

Fel y gellid disgwyl mae'n bur gartrefol gyda ffurf yr hen benillion

Merch hudolus ddaeth a'm rhwydo.
Gan ei gw锚n mi ges fy swyno,
Ac fel hanes pob pysgodyn,
Wedi'm dal ni nofiais wedyn.

Pa fardd gwlad fyddai'n dewis acupuncture yn destun?

Mae yn help yn stopio smocio
Maent yn dweud fod hynny'n ffaith,
Ond nid dyna ydi'r broblem
Dwi di stopio lawer gwaith.

Am 拢3.50 cewch lyfryn gan y pysgotwr o Aberdaron y dywed y broliant amdano, "Mae'n dalyrnwr, stompiwr a pherfformiwr sy'n gallu gwneud i gynulleidfa ei morio hi hefyd."



cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy