Darganfod cyfoeth ar y ffin - a thu draw
Adolygiad Grahame Davies o Cerddi Clwyd. Golygydd, Aled Lewis Evans. Gomer, 2004, 129 tt. 拢6.95.Roedd rhaid imi addasu ychydig ar rai o fy rhagfarnau daearyddol wrth ddarllen y gyfrol hon - y ddiweddaraf yng nghyfres Gwasg Gomer, Cerddi Fan Hyn.
I mi, a fagwyd ym mhentref Coedpoeth, ym mro Maelor, roedd 'y gogledd ddwyrain' yn gyfyngedig i Sir Y Fflint a'r rhannau hynny o Sir Ddinbych a orwedd i'r dwyrain o fynyddoedd y Berwyn.
'Y gorllewin' oedd pob man arall: rhyw fath o Gymru Gymraeg fondigrybwyll a dieithr yn cychwyn rhywle tua Llandegla ac yn ymestyn i Ben Ll欧n, ble bynnag oedd y lle chwedlonol hwnnw.
Rhychwant eang
Ond wrth gwrs, yn nhermau daearyddol, mae'r gogledd ddwyrain - ardal 'Clwyd' yn 么l enw'r cyngor sir a fodolodd am ryw ugain mlynedd tan ganol y nawdegau - yn ymestyn cyn belled 芒 Dyffryn Conwy, neu Glan Orllewinol Dyffryn Conwy o leiaf, ac yn cynnwys broydd Cymreigaidd iawn megis Uwchaled a Chernyw.
Dyna rychwant eang i unrhyw lyfr ei gwmpasu - o gymunedau diwydiannol am y ffin 芒 Lloegr i ganol y Gymru Gymraeg wledig.
Yn sicr, gyda'r golygydd, y toreithiog Aled Lewis Evans, wrth y llyw, nid oes peryg i'r ardaloedd i'r dwyrain i fryniau Clwyd gael eu anghofio, ac yntau wedi ymsefydlu ers dros chwarter canrif yn Wrecsam, gan ymuniaethu'n ddwfn 芒'r dref ffiniol a deuol honno a chan wneud cymwynas ddiflino ac amhrisiadwy 芒'i bywyd Cymraeg.
Angen mynegbost
'Taith gylch' a geir yn y gyfrol yn 么l cyflwyniad y golygydd, gyda cherddi am wahanol ardaloedd yn cael eu clystyru gyda'i gilydd wrth i'r daith drwy'r llyfr fynd rhagddi.
Galwch fi'n control freak ond rwy'n credu mai da o beth fuasai ambell i fynegbost ar ffurf is-bennawd neu gategori er mwyn esbonio pa dro yr oedd y daith newydd ei chymryd.
Mae'r cynnwys yn helaeth ac yn amrywiol iawn. Mewn ardal mor eang a chyda chymaint o gyfoeth o hanes llenyddol, gormod, yn hytrach na diffyg deunydd, yw problem y golygydd.
Enwau mawr
Ceir yma rai o enwau mawr llenyddiaeth Cymru, gan gynnwys: Alan Llwyd, Guto'r Glyn, Bryan Martin Davies, Ceiriog, Rhydwen Williams ac Euros Bowen.
O fwrw golwg dros y rhestr cyfranwyr, mae rhywun yn synnu gweld mor gyfoethog yw treftadaeth lenyddol yr ardal hon o'i chrynhoi ynghyd, yn ganeuon gwerin megis Yr eneth g芒dd ei gwrthod, yn benillion traddodiadol, megis Yr asyn a fu farw, ac yn gerddi cain a heriol gan rai o'n hawduron cyfoes mwyaf galluog megis Elin ap Hywel a Peredur Lynch.
Ceir cerddi gan fawrion a gysylltir yn bennaf ag ardaloedd eraill ond sydd, fel petai, yn ymweld 芒'r gogledd ddwyrain. I'r categori hynny y syrth cerddi megis un Alan Llwyd i Emlyn Williams, un Rhydwen Williams i David Lloyd, ac un Iwan Llwyd i Beddau Bodelwyddan.
Ceir wedyn gyfraniadau gan rai y mae eu gwaith yn codi o'u gwreiddiau dwfn yn y gwahanol froydd, megis I.D. Hooson yn Rhosllannerchrugog - diau y bydd balchder diarhebol trigolion y pentref hwnnw yn cael ei fodloni gan y gynrychiolaeth helaeth a roddir yma i gynnyrch ei bobl - a Ceiriog yn y dyffryn o'r un enw, ac Einion Evans yn ardal lofaol Sir Y Fflint.
Sylw teilwng
Da oedd gweld bardd mor bwysig 芒'r prifardd Einion Evans yn cael sylw teilwng yma. Er nad yr amlycaf o'n beirdd cyfredol ar hyn o bryd mohono, y mae'n gwbl sicr gen i y bydd ei awdl arobryn a'i gerdd Ennis, a gynhwysir yma, yn parhau i ysgwyd ac i gyffwrdd darllenwyr tra phery'r iaith Gymraeg.
Ond am bris ar y fath anfarwoldeb.
Cerddi yw'r rhain yn galaru plentyn y bardd, y llenor ifanc addawol Ennis Evans, wedi ei marwolaeth annhymig a thrasig.
Ac fe gyfosodir cerdd y tad gyda cherdd y ferch hithau, Y Samariad Drugarog yn diolch wrth gyfeilles a fu'n gymorth iddi yn ystod cyfnod anodd. Dirdynnol.
Ar ben arall y sbectrwm, ceir cyfoeth o gerddi ysgafn, yn adlewyrchu dawn a thueddfryd y golygydd yn y maes hwnnw.
I'r categori yma y syrth cerddi fel un Caryl Parry Jones i 'slappers' Y Rhyl. Cerdd llawn asbri a drygioni yw honno.
Bin sbwiel
Dyna wedyn gerdd y golygydd ei hun Sbwriel, sy'n rhoi hanes bin sbwriel electronaidd yn Wrecsam a ddiolchai yn ddwyieithog i'r sawl a ddodai wastraff yn ei safn: 'Ar ran y Cyngor, diolch i chi am gadw ein bwrdeistref yn daclus.'
Er ei bod mor hollol swreal, mae hon, mae'n debyg, yn stori wir. Ac wrth gwrs, mae'r bardd yn sylwi ar eironi'r ffaith mai'r unig Gymraeg a leferir ar y stryd yn Wrecsam bellach yw o enau bin bychan. Dyfynnir ymateb un o'r trigolion:
'You what? He's proper Welsh, ain't he?'
'Who?'
'The bleedin' bin.'
'Rargian fe hoffwn i fod wedi clywed hwnna! Mae fy mrawd i yn gynghorydd ardal yn Wrecsam. Bydd rhaid imi ofyn iddo a oes modd cael biniau fel 'na yn 么l. Fe allan nhw fod atyniad i dwristiaid. Yn sicr, mi fyddwn i'n fodlon teithio i weld un.
Gormod o'r ysgafn
Nawr, mae'n rhaid dod at y rhan o bob adolygiad ar unrhyw flodeugerdd lle mae'r adolygydd, nad aeth i'r drafferth o ymchwilio'r maes i'r un graddau 芒'r golygydd, serch hynny yn mynd ati i awgrymu sut y gellid gwella'r gwaith. Annheg, ond disgwyliedig, ac angenrheidiol yn enw gwrthrychedd, felly dyma ni.
I'm chwaeth i, mae ychydig gormod o ddeunydd ysgafn. Yn 么l y golygydd: 'Mae fy mhwyslais personol innau yn y gyfrol ar y cyfoes a'r dealladwy - cerddi poblogaidd sy'n cyfathrebu 芒 thrwch y boblogaeth.'
Dim byd o'i le gyda hwnna, ond credaf fod haelioni'r golygydd tuag at ddeunydd ysgafn wedi arwain at ychydig ormod o ddarnau rhy ddisylwedd yn cael eu cynnwys.
Er caredigrwydd nid af ati i enwi'r darnau mewn cwestiwn, ond barned y darllenydd drosto'i hun. I'm llygad innau maen nhw'n sefyll allan, ac nid yw eu cynnwys nhw ochr-yn-ochr 芒 cherddi'r mestri yn gwneud cymwynas 芒 deunydd nad yw mewn gwirionedd yn fwy na rhigymu arwynebol.
Efallai yr ymddengys hynny yn wrthddweud ar fy rhan i, a minnau wedi cymeradwyo C芒n y Slappers, ond mae'r gerdd honno'n ddyfeisgar, yn wreiddiol, yn grefftus, ac yn dweud rhywbeth am gymdeithas, tra bo rhai o'r cerddi eraill yn rhai ffwrdd-芒-hi iawn, ac heb fod ganddynt rinweddau cerdd Caryl.
Llawn cyfoeth
Ond, ta waeth am hynny. Mae'r gyfrol yma'n llawn cyfoeth, ac yn cyflwyno o'r newydd dreftadaeth lenyddol ddihafal yr ardal hynod hon i ddarllenwyr Cymru.
Diolch i'r golygydd am ddod 芒 chymaint o ddeunydd safonol a gogleisiol ynghyd rhwng dau glawr.