|
Martha Jac a Sianco 'Tyndra cefn gwlad mewn nofel bwerus'. Martha Jac a Sianco gan Caryl Lewis. Y Lolfa. 拢6.95.
Enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2005
I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.
Adolygiad Lowri Rees:
"Y nofel Gymraeg orau imi ddarllen erioed," meddai John Hardy ar Pnawn Da wrth ddisgrifio'r nofel Martha, Jac a Sianco.
Ac yn wir mae'r nofel wedi cyrraedd brig y siart a chael adolygiadau gwych yn Golwg a Barn.
Pob rheswm, felly, dros ddarllen nofel ddiweddaraf yr awdures o Geredigion - fel y gwnes i un nos Sadwrn yn ddiweddar.
Anodd credu i awdur mor ifanc ysgrifennu nofel mor bwerus ac aeddfed.
Gyda chymeriadau sy'n taro deuddeg mae Caryl Lewis - merch Doreen Lewis - wedi cyffwrdd 芒 chalonnau llu o ddarllenwyr.
Nofel yw hi am deulu o frodyr a chwiorydd yn gwrthod gadael y fferm deuluol rhag iddynt golli eu si芒r o hen arian eu cyndeidiau.
Er gwaethaf cariad mae'n well gan y tri frwydro ymlaen gyda'i gilydd na thorri'r llinyn bogel 芒 chartref y teulu.
Y tro cyntaf imi gyfarfod Caryl Lewis oedd ar faes Sioe Llanelwedd. Fi yn barod am noson allan a hithau'n fwd drosti yn dilyn gornest tynnu rhaff ac yn amlwg o gefndir amaethyddol.
Mae'r cysylltiad hwnnw a'r bywyd gwledig yn amlwg drwy'r nofel a hithau'n tynnu ar ei phrofiadau a'i deialog yn frith o eirfa a ffraethineb amaethyddol.
"Ti di clywed lot, glei," meddai Jac gan eistedd yn 么l. Weden i bod ti'n gwbod y blydi cwbwl." "Na, na. Clywed nes i bod Jams lladd-dy wedi gorffod mynd a hi o'ma. Dim tethe da hi ar 么l." "Brid newydd ti'n gweld, tit-less cow. Peth od na fyset ti di clywed amdanyn nhw, ti di clywed am bopeth arall."
Mae'r nofel yn ddwys iawn wrth drafod bywydau y prif gymeriadau: Martha, er enghraifft, y gallaf o'r tri ond yr un sy'n gwrthod ildio i'w anghenion ei hunan er mwyn gwarchod ei brodyr a'i hetifeddiaeth.
Mae Jac yn ffarmwr cadarn, cryf, gyda'i fywyd yn ymdroi o amgylch y ffarm nes iddo golli ei ben ar Judy, y Saesnes grafangus sydd wedi gweld y g诺r despret o bell, ac am ei flingo.
"Jac's been so kind to me." Cododd Martha ei haeliau. "He said I could keep my horses here if I liked. He's so sweet. That's where we met you see. I was buying feed at the..." "We don't like horses," meddai Martha. "They contribute nothing to the farm." "Tebyg i chi, te, Martha," wedodd Jac. Stopiodd Martha fyta.
Ac yna Sianco, y brawd bach, sy'n cael ei faldodi gan ei chwaer a'i ddwrdio gan ei frawd am ei fod fricsen yn fyr o lwyth.
Yn y nofel mae'r awdures yn cynnal diddordeb y darllenydd o'r dechrau i'r diwedd gyda chymysgedd o chwerthin uchel ar adegau a thristwch dwys dro arall yn cydio yn ein calonnau.
Nofel o benodau byrion yw hi gyda defnydd helaeth o symbolau.
Yn sicr mae rhywun yn ei chael yn hawdd cytuno 芒'r hyn ddywedodd John Hardy.
Ac fe fyddwn i'n annog unrhyw gwmni teledu sy'n chwilio am ddeunydd fynd ati i droi'r nofel wych hon yn ffilm.
Cysylltiadau Perthnasol
Adolygiad arall
|
C, Pontsian Arbennig o dda drwyddo draw! Teimlais fy mod ar clos y ffarm efo'r cymeriadau yma. Cytunaf bod hon yn nofel Gymraeg orau imi ddarllen hefyd - gobeithio daw mwy o rhain!
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|