| |
|
|
|
|
|
|
|
Gwerthiant llyfrau ar i fyny Gwerthwyd mwy nag erioed o lyfrau Cymraeg dros Nadolig 2004 - ac mae hynny wedi ennyn canmoliaeth un o weinidogion y Cynulliad Cenedlaethol.
Dywedodd Cyngor Llyfrau Cymru fod cynnydd o 20% yng ngwerthiant Tachwedd a Rhagfyr diwethaf ogymharu 芒'r gwerthiant yn 2003.
"Cafwyd gwerthiant arbennig iawn ym mis Tachwedd," meddai Gwerfyl Pierce Jones, Cyfarwyddwr Cyngor Llyfrau Cymru.
Gyda llyfrau newydd yn cyrraedd y siopau'n gynnar ar gyfer y farchnad Nadolig dywedodd mai'r her i'r Cyngor wedyn oedd cynnal y cynnydd yn y gwerthiant gydol mis Rhagfyr.
" Rydym yn hynod falch o gael nodi bod y detholiad gwych o lyfrau - a'r ymdrechion ychwanegol i hyrwyddo llyfrau yn y wasg a'r cyfryngau - wedi cyfrannu at y galw, gan sicrhau Nadolig llwyddiannus i'r diwydiant llyfrau yng Nghymru,' meddai.
Yn ystod Tachwedd a Rhagfyr gwerthwyd gwerth 拢1,057,342 drwy Ganolfan Ddosbarthu'r Cyngor Llyfrau.
Mae hon yn gamp a ddenodd ganmoliaeth Alun Pugh, y Gweinidog dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon yn y Cynulliad Cenedlaethol:
"Mae'r ffigurau hyn yn hwb sylweddol i'r fasnach lyfrau yng Nghymru. Y flwyddyn hon, fe gynyddodd Llywodraeth y Cynulliad y nawdd ar gyfer hyrwyddo a marchnata llyfrau o Gymru ac mae'n dda gweld bod y cynlluniau'n dwyn ffrwyth," meddai.
Cysylltiadau Perthnasol
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|