大象传媒

Explore the 大象传媒
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

大象传媒 Homepage
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Ar Blaned Arall
Profiad newydd ar blaned newydd i ddau Gofi
Adolygiad Lowri Rees o Ar Blaned Arall gan Dafydd Meirion. Gwasg Carreg Gwalch. 拢4.95.

Mae bydau eraill yn bethau sydd wedi cipio dychymyg pobl ers canrifoedd ac yn amlwg mae cwestiynau yn codi!

Clawr y llyfrOnd yn nofel ddiweddaraf Dafydd Meirion, Ar Blaned Arall, cawn eglurhad, disgrifiad a synopsis o sut mae pethau ar Delta Equinox a beth sydd yna i'w weld yn y gofod.

Fy nghamarwain
Ar y ddalen gyntaf cefais fy nghamarwain i feddwl mai nofel ffug wyddonol arferol oedd hon - a dyna golli diddordeb yn syth.

Ond gan fod yn rhaid adolygu dyma fwrw ymlaen drwy'r tudalennau dilynol beth bynnag - a diolch byth imi wneud hynny gan fod y nofel hon yn glasur o'i bath sy'n taro deuddeg ar bob cownt.

Y stori yn syml yw fod gwyddonwyr o America wedi darganfod planed newydd, bellennig, a all fod 芒 bywyd fel y ddaear arni.

Dyna benderfynu, felly, anfon dau ar long ofod i Delta Equinox.

Pan ddaw biliwnydd i ystafell pennaeth NASA a chynnig talu am eu hanfon, cyn belled bod y ddau yn dod o'i dref enedigol ef, cytunir ar hynny - a dyna sut y cafodd Bongo a Myll o Gaernarfon eu hunain yno!

Heb fronnau
Gan fod y ddau wedi byw ar fercheta a lagyr ers blynyddoedd mae'r newid a'r y blaned arall yn ddigon i wneud iddyn nhw ddrysu - a chanolbwynt y nofel yw hanes y ddau yn mynd i sb锚s ac yn cyfarfod creaduriaid digon rhyfedd, sydd heb fronnau na phenolau ond ceir digon o lysh a secs wedi iddyn nhw gyfarfod caethweision Delta Equinox!!

Ond nid lle fel Caernarfon ydi sb锚s a gorfodir Bongo a Myll i geisio cadw at reolau Niblo a'i griw neu gael eu taflu at greaduriaid creulon y bolocsiaid, neu i'r twll du.

Mae'r awdur wedi delio 芒 iaith y nofel yn glyfar gan fwrw'i fol gyda rhegfeydd a j么cs budr ar yr adegau pan fo hynny'n addas ac yna yn ymlacio yn 么l i iaith naturiol a phriodol - er bod yr achosion o hynny'n brin iawn!

Wrth chwilio tudalennau y llyfr am ddyfyniad sylweddolaf ei bod bron a bod yn amhosib dod o hyd i rywbeth sydd ddim yn s么n am fronnau, penolau neu ryw!

"Mi rydym ni gaethferched yn hoffi bridio, mae hynny yn rhoi pleser i ni, ond nid ydyn ni'n cael gwneud hynny'n ddigon aml."

"Nid oerni'r ogof oedd yn gwneud i Bongo grynu drosto. Y merched del ma i gyd yn despret am secs!"

Ceisio dyfalu
A'r nofel yn dirwyn at ei therfyn yr oeddwn innau'n ceisio dyfalu sut y byddai'r awdur yn gorffen ei gampwaith - ond er imi chwerthin ar y frawddeg olaf byddai wedi bod yn gr锚t gweld y ddau adref yn eu cynefin yng Nghaernarfon hefyd.

Efallai fod dilyniant i fod!!

Yn sicr mae'r nofel hon yn gweithio ac heb wendidau a bum innau yn chwerthin a chwerthin am y j么cs er mor aflan a di-chwaeth, oedd rhai ohonyn nhw.



cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy