| |
|
|
|
|
|
|
|
Idris y Cawr Blas newydd ar hen chwedl
Yn ddiweddar bum yn eistedd yng Nghanolfan Hamdden Y Bala yn gwrando a'r Catherine Aran yn diddori llond neuadd o blant gyda stori am gawr.
Stori dda oedd hi hefyd gyda digon o symudiadau a'r plant wedi gwirioni a phob un yn gwrando yn astud.
Dim rhyfedd, felly, fy mod i wrth fy modd pan ofynnwyd imi adolygu llyfr gan yr awdures a chael cyfle arall i ddianc i fywyd plentyn, a phori yn ei gwaith.
Stori wedi ei hysgrifennu'n gain yw Idris y Cawr ac yn s么n am gawr addfwyn yn byw ymhlith criw o gewri cas a milain.
Aiff pethau o ddrwg i waeth pan fo Idris yn syrthio mewn cariad!
Bwriedir y llyfr ar gyfer plant oddeutu saith oed a disgrifir y stori yn y rhagair fel un wreiddiol ond gyda naws chwedl iddi.
Taflu cerrig Yn bendant, mae Meirionnydd yn gyforiog o chwedlau ac wrth ddarllen hon cefais fy atgoffa am hanes cawr ar ei ffordd i n么l diod o dd诺r yn Llyn Tegid yn gorfod stopio ar y ffordd o Drawsfynydd i Lanuwchllyn gan fod yna garreg yn ei esgid. Mae'r garreg anferth honno i'w weld o hyd ar ochr y ffordd!
"Yhi !Ha!" sgrechiodd Idris gan neidio i fyny ac i lawr a thaflu creigiau i'r awyr fel conffeti. "Glaniodd y cerrig ar hyd ac ar led Meirionnydd ac mnaen nhw'n dal i fod yno hyd heddiw."
Mae lluniau digri a thrawiadol Eric Heyman sydd blith draphlith drwy'r llyfr yn mynd i ychwanegu'n fawr at fwynhad plant.
Cawr Cader Idris yw Idris, yn byw yng nghanol mynyddoedd Meirionnydd a phan enillodd Rhita gawres ei galon ni feiddiai adael y t欧 gan fod ganddo gymaint o ofn y cewri eraill.
Ond pan fentra un noson gwel y peth prydferthaf a welodd - y lleuad - ac o dipyn i beth, wedi cyfres o ymweliadau, mae'n syrthio dros ei ben a'i glustiau mewn cariad 芒'r Lleuad!
"Ymhen y flwyddyn roedd Idris a Lleuad mewn cariad, a phen-么l Idris wedi naddu set gyfforddus iddo'i hun ar ben y mynydd wrth iddo eistedd a sgwrsio am oriau. Cader Idris ydi'r enw ar y mynydd hyd heddiw."
Mae Idris yn dyheu am fod gyda'r lleuad ac felly dan gyfarwyddiadau'r lleuad mae'n mynd ar daith i chwilio am y Creadur Di-droed a'r Llwybr Arian - taith anturus a pheryglus y mae'r awdures yn disgrifio pob cam ohoni yn gelfydd ac yn effeithiol."Ia, bod yn ddewr ydi pan mae rhywun yn gorfod gwneud rhywbeth anodd iawn, a'r ofn yn gwneud i'w du mewn grynu fel jeli. Ond mae o'n dal i'w wneud o!" meddai.
Dawn arbennig Disgrifir golygfeydd mewn manylder a hynny'n fodd i greu darluniau trawiadol ym meddyliau plant - mae'n ddawn arbennig.
Mae'n chwedl wych hefyd, yn ymgorffori byd natur, chwedlau a dywediadau.
Felly os yw plentyn yn holi beth yw'r wyneb a welir ar y lleuad cyfeiriwch o at Idris y Cawr gan Catherine Aran.
Cysylltiadau Perthnasol
|
caryl mynydd nefyn Maer stori yn dda iawn rwyf wedi ddysgu mwy am idris y cawr nag on i o blaen.
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|