|
Troseddau Hynod 2 Trysorfa o droseddau ysgeler
Adolygiad Dafydd Meirion o Troseddau Hynod 2 gan Roy Davies, (Golygydd: Lyn Ebenezer). Gwasg Carreg Gwalch, 拢6.50
Dynion yw'r rhan helaethaf o'r llofruddion yn y llyfr hwn, er bod yna un neu ddwy o ferched wedi diweddu bywyd rhywun arall - un yn fam ddi-briod yn lladd ei babi newyddanedig.
Ac mae yna nifer o ferched yn cael eu lladd gan gariadon cenfigennus.
Mae yna hanner cant o achosion o ganol y ddeunawfed ganrif i ddiwedd yr ugeinfed ganrif, ac o bob cwr o Gymru, yn ail gyfrol Troseddau Hynod gan y cyn bennaeth ditectifs, Roy Davies.
Sawl rheswm dros ladd Mae yna sawl rheswm dros ladd yn y llyfr. Cariad a chenfigen, ond hefyd mae gan arian ran amlwg yn llawer o'r achosion.
Er enghraifft, yn un o'r achosion mywaf diweddar, 1967, mae llanc o Lanberis yn lladd rheithor er mwyn cael arian i ddianc i Lundain.
Lladdodd siopwr o'r Trallwng ddyn busnes lleol am ei fod mewn dyled iddo a lladdodd dyn ei wraig er mwyn cael yr arian yswiriant.
Darluniau byw Yn ei ragair dywed Lyn Ebenezer fod y straeon yn "ddarluniau byw o'r gymdeithas lle digwyddodd yr achosion hynny".
Mae yna achosion o'r Gymru wledig a'r Gymru ddiwydiannol. Mae yma bobl fu'n cydfyw 芒'i gilydd am flynyddoedd ac mae yma bobl dd诺ad.
Mae yma hanes yr olaf i gael ei garcharu yng Ngharchar Brynbuga, a sonnir am yr unig ddyn ym Mhrydain gafodd ei grogi ac yna ei amlosgi cyn cael ei gladdu o fewn muriau'r carchar a hynny am mai Indiad oedd o.
Y ferch olaf Caroline Williams o Lanrwst oedd y ferch olaf yng Nghymru i gael ei dedfrydu i'w chrogi - hi hefyd fyddai yr unig ferch yn Sir Ddinbych i gael y gosb eithaf ers 250 mlynedd ond mai carchar am oes gafodd hi yn y diwedd.
Ceir s么n yn achos Robert Coe a laddodd gyfaill iddo a dwyn ei gyflog yn 1865 fod y rheithgor wedi cael ei anfon "i aros dros nos mewn gwesty, rhywbeth anarferol iawn bryd hynny".
A Robert Coe oedd yr ieuengaf a'r olaf i gael ei grogi'n gyhoeddus yn Abertawe gyda rhwng 12,000 a 15,000 wedi dod i'w weld yn cael ei grogi.
Rhai wedi teithio yno o Aberpennant, Merthyr Tudful ac Aberd芒r a rhai o fasnachwyr y dref wedi gosod "eu stondinau'n agos at y crocbren".
"Llwyddodd pedair menyw i wthio'u ffordd drwy'r dorf i fyny at y crocbren i ymosod ar y carcharor 芒 chyllyll.
Sathrwyd nifer o'r dorf gan anafu 120 ohonynt. Dyma arweiniodd at ddiddymu crogi cyhoeddus".
Ond hyd yn oed pan symudwyd y crogi o fewn muriau'r carchar deuai pobl yno ar ddydd y crogi. Roedd yna ddeng mil y tu allan i garchar Caerfyrddin pan grogwyd David Evans.
Mewn gambo Mae yna s么n hefyd am William Emmanuel gafodd ei gludo mewn gambo i sefyll ei brawf yn Sesiwn Fawr Caerfyrddin gyda'r dorf yn "hisian, ei regi a'i wawdio".
Cael Wil Manny yn euog wnaeth y rheithgor a hynny yn 1751, yr achos cynharaf yn y llyfr, ac nid yn unig y cafodd ei grogi ond hefyd ei "sibedu [sef rhoi'r corff mewn cawell i'r cigfrain ei fwyta] ar y groesffordd agosaf i gartref ei ddioddefydd" a hynny fel rhybudd i eraill.
"Bu corff Wil yn hongian am bedwar diwrnod cyn iddo gael ei dorri i lawr a'i gladdu yn un o'r caeau gyda pholyn wedi'i wthio drwy ei gorff i ddynodi'r fan".
Cyllell neu forthwyl Defnyddir sawl dull o ladd, ond cyllell neu forthwyl yw'r rhai mwyaf cyffredin. Caiff gynnau eu defnyddio sawl tro ac mae yna sawl achos o wenwyno.
Yn achos y rheithor o Lanberis cafodd ei ladd drwy gael ei daro sawl gwaith 芒'i Gwpan Cymun.
Ar ddydd Nadolig Mae yma ladd yn ystod y nos a'r dydd, ac hyd yn oed ar ddydd Nadolig.
Cafodd un wraig ei lladd wrth ddrws y capel ac mae yna hyd yn oed achos o ddyn yn lladd ei fam.
Mae yna rai digwyddiadau digon digri o ystyried yr amgylchiadau: "... wrth iddo osod y llofrudd ar y drws trap, ni sylwodd y crogwr Robert Baxter fod troed ei gynorthwywr Alfred Allen hefyd ar y drws.
"Y canlyniad fu i Allen ddisgyn i'r twll ond ni chafodd unrhyw niwed."
Crogwyr Cymreig Saeson oedd y rhan fwyaf o'r crogwyr - gan gynnwys y brodyr Pierrepoint, ond mi roedd yna Gymry yn eu plith.
"Credir mai ef [Seth Ellis o Hengoed, Sir Forgannwg] oedd un o'r ychydig iawn o Gymry i ymwneud 芒'r fath waith erioed yn yr ugeinfed ganrif."
Straeon rhyw bedair tudalen yr un yw'r rhain ac yn hawdd iawn eu darllen. Does yna ddim trefn arbennig iddyn nhw - nid ydyn nhw yn 么l trefn amser, ardaloedd daearyddol na dulliau o ladd neu resymau dros wneud hynny, er tuag at y diwedd ceir nifer o lofruddiaethau na chawasant eu datrys.
Yr unig gwyn sydd gen i mai enw'r llofrudd (ar wahan i ble na chafodd y drosedd ei datrys) a geir fel pennawd i bob stori ac mae hynny'n gadael y gath allan o'r cwd yn rhy gynnar.
Ond cwyn fach yw honno ac i unrhyw un sydd gan ddiddordeb mewn cyfraith a threfn - neu ddiffyg y fath beth, llofruddiaethau a drwgweithredwyr yn ogystal 芒 hanes cymdeithasol ein cenedl, mae Troseddau Hynod 2 yn drysorfa.
Cysylltiadau Perthnasol
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|