Esgid Wag Nofel gyntaf awdures o F么n ydi Llyfr y Mis ar gyfer Mawrth 2005.
Mae Esgid Wag yn s么n am brofiadau cwpl wrth iddyn nhw wynebu deng mlynedd diflaniad eu hunig blentyn, Mali.
"Nofel afaelgar yw hi sy'n ymdrin 芒 llawer o faterion anodd gan gynnwys realiti colli plentyn a'r pwysau sydd yn cael ei roi ar berthynas Joyce ac Ian Parry wrth iddyn nhw ymdrechu i ymdopi 芒'r golled," meddai llefarydd ar ran y cyhoeddwyr, Gwasg y Dref Wen.
Ganed Mared ym Malltraeth ac y mae hi'n byw gyda'i g诺r a'u dau blentyn yn Llanddaniel, Ynys M么n.
Hyd yn hyn, mae ei gwaith ysgrifennu wedi canolbwyntio ar sgriptio i gyfresi fel Pobol y Cwm a Rownd a Rownd.
Meddai Mared: "Dwi'n falch iawn bod Esgid Wag wedi cael ei dewis yn nofel y mis.
"Mwynheais y broses o sgwennu llyfr, oedd yn brofiad hollol newydd i mi. Cefais ryddid creadigol a'r cyfle i fynd i'r afael a phynciau yn fwy dwys nag sy'n bosib mewn sgript deledu 30 munud.
"Mae'n braf cael cydnabyddiaeth am y gwaith, yn enwedig gan mai hon yw fy nofel gyntaf."
"Ychwanegodd i bobl ymateb yn dda iawn i'r nofel.
"Un peth a'm synnodd oedd y ffaith ei bod I'w gweld wedi apelio at gylch llawer mwy o ddarllenwyr nag oeddwn i wedi ei dybio. Do'n i ddim yn meddwl am gynulleidfa benodol wrth ei sgwennu, ond ro'n i'n meddwl wedyn falla byddai hi'n taro deuddeg efo merchaid yn eu tridegau-pedwardegau.
"Ond dwi wedi cael ymateb ehangach hefyd, o sylwadau da gan ferch bymtheg oed hyd at ddyn yn ei wythdegau! Mae o wedi bod yn brofiad diddorol ofnadwy."
Esgid Wag gan Mared Lewis. Gwasg Y Dref Wen. 拢5.99