|
Teithiau'r Meddwl I Gymru wedi'r erlid
Adolygiad Gwyn Griffiths o Teithiau'r Meddwl: Ysgrifau Llenyddol Kate Bosse-Griffiths. Y Lolfa. 拢12.95.
Yr oedd Kate Bosse-Griffiths yn nhras a thraddodiad disglair Iddewon canol a dwyrain Ewrop. Dosbarth canol breintiedig gyda, i fenthyg dywediad Saesneg, dysg a diwylliant yn dod allan o'u clustiau.
Byr fu parhad y cyfnod breintiedig hwnnw. Daeth Hitler 芒'i erlid ac y mae'r erchylltra hwnnw wedi ei serio ar ymwybyddiaeth y mwyafrif ohonom. Neu o leiaf fe ddylasai fod er y dangosodd campau diweddar aelod o'r teulu brenhinol nad yw'r hanes yn wybyddus i bawb.
Llwyddodd rhai Iddewon - er gwaethaf difaterwch a rhwystrau llywodraeth Prydain - i ddianc i Brydain yn y tridegau. Dihangodd eraill i'r Unol Daleithiau a gwledydd eraill.
Bu cyfraniad y ffoaduriaid hynny i ddiwylliant a chelfyddyd yn Lloegr yn aruthrol. Dyna ochr o'r stori na chlywch byth amdani. Gadawsant eu h么l ar sawl agwedd o'r diwylliant Americanaidd, hefyd.
Yr unig un Daeth Iddewon i Gymru, hefyd, gan wneud marc ym myd y gyfraith, meddygaeth a masnach. Ond hyd y gwn, Kate Bosse-Griffiths - nad ydym yn perthyn o gwbl er gwaetha'r cyfenw - oedd yr unig un a ymdaflodd i'r bywyd Cymraeg, yn sgrifennu nofelau a stor茂au byrion a newyddiadura yn yr iaith.
Bu'n flaenllaw yng ngweithgareddau Plaid Cymru a Chymdeithas y Cymod yn ogystal 芒'i hysgolheictod ym maes Eifftoleg. Sefydlodd, a bu'n guradur, yr Amgueddfa Eifftaidd yng Ngholeg y Brifysgol, Abertawe.
Bu ei chyfraniad yn sefydlu'r gymdeithas lenyddol, Cylch Cadwgan, yng Nghwm Rhondda yn allweddol.
Ei hanes Mae hanes ei bywyd a'i gwaith a sgrifennwyd gan ei phriod, y diweddar Athro J. Gwyn Griffiths, hefyd yn rhan o'r gyfrol Teithiau'r Meddwl, yn ychwanegiad cyfoethog i'r gyfrol a bron mor ddiddorol 芒'r ysgrifau. Fe'i ganed yn Wittenberg yn nwyrain Yr Almaen ac er mai ei mam yn unig oedd yn Iddewes, dioddefodd y teulu yn enbyd, a ffoi oedd ei hunig ddewis.
Yn Rhydychen y cyfarfu 芒'r myfyriwr ymchwil J. Gwyn Griffiths.
Rhan fechan o'i diwydrwydd llenyddol mawr a gynrychiolir yn y gyfrol hon, erthyglau ac ysgrifau a gyfrannodd i nifer o bapurau a chylchgronau - Barn, Y Faner, Y Cymro, Seren Cymru, Western Mail, South Wales Evening Post, Y Fflam, Y Ddraig Goch ...
Cyfrannodd yn gyson, hefyd, i gyhoeddiadau ysgolheigaidd.
Gwerth eu trysori Credaf mai W. J. Gruffydd, yn ei gofiant i Owen M. Edwards, a ddywedodd y gall newyddiaduraeth dda fod yn llenyddiaeth barhaol. Yn sicr, y mae nifer o ysgrifau'r gyfrol hon yn rhai gwerth eu cadw a'u trysori.
Arbennig o werthfawr yw'r bamffled Mudiadau Heddwch Yn Yr Almaen a gyfrannodd i'r gyfres Pamffledi Heddychwyr Cymru ac a gyhoeddwyd ym 1943.
Mae'n ddiddorol iawn am ei bod yn dangos gryfed y traddodiad o heddychiaeth seciwlar yn yr Almaen.
Hoffais yn fawr ei dyfyniad o waith y bardd Jean Paul: "Anffawd rhyfel yw mai dau berson sy'n penderfynu arno a miliynau yn ei weithredu. Byddai'n well i'r miliynau benderfynu ac i'r ddau ymladd."
Ni ellir s么n am bob ysgrif yn y gyfrol, ond mae cynifer yn taro rhyw dant.
Gwybod am y Celtiaid F没m i erioed yn Hwngari, ond cofiaf y pleser o groesawu'n fisol dros gyfnod yn yr wythdegau, newyddiadurwyr a darlledwyr o Hwngari i bencadlys y 大象传媒 yng Nghaerdydd a cheisio eu darbwyllo nad Lloegr - neu Lundain - oedd Prydain oll.
Nid oedd hynny'n anodd o gwbl, oherwydd yr oedd eu diddordeb a'u gwybodaeth am y Celtiaid yn fawr.
Wedi'r cwbl, onid eu gwlad hwy oedd crud ein diwylliant? Gan yr Hwngariaid hynny y clywais am y cylch baledi gwlatgar, Beirdd Cymru, a sgrifennwyd gan ei bardd J谩nos Arany yn y bedwaredd ganrif a bymtheg.
Testun y baledi yw cyflwr Cymru ar 么l y darostyngiad gan Edward I. Gofynnodd Edward i'r beirdd ganu iddo fel y bu iddynt ganu clod eu tywysogion. Gwrthod wnaethant, a chael eu harteithio a'u dienyddio.
Cyfansoddodd Arany y cerddi mewn cyfnod pan oedd Hwngari yn ymladd - yn aflwyddiannus - am ryddid oddi wrth ymerodraeth Awstria. Er na allai annog ei gydwladwyr i ryfela yr oedd ei gerddi yn gwneud iddynt feddwl am, ac uniaethu gyda, beirdd Cymru.
Daeth arwyddoc芒d pellach i'r cerddi yn ystod Rhyfel 1939-45.
Yr oeddwn mor falch o gael fy atgoffa o'r stori hon yn y gyfrol hon a hefyd am y Celtiaid yn Stuttgart.
Yn anochel, nid yw'r ysgrifau i gyd gystal 芒'i gilydd. Ni chefais lawer o flas ar Dirgelion Ynysoedd Hawii sydd, yn anffodus, yn ysgrif gyntaf y gyfrol!
Mam-gu Yr oeddwn wedi disgwyl rhywbeth fuasai'n cysylltu Santes Anna, Llydaw, 芒'r traddodiad o chwedlau am Hannah, mamgu Iesu Grist, yn Ethiopia yn yr ysgif Y Fam-gu sanctaidd yn Llydaw.
Mae'r erthygl Yn Wyneb Haul, sy'n dod yn union wedi Y Fam-gu sanctaidd yn Llydaw yn s么n am feini hirion yn ne Ffrainc a'u cymharu 芒 maen a ddarganfuwyd yn Llanfor, Y Bala, ym 1973.
O ddarllen y ddwy yn y drefn y gosodwyd hwy yn y gyfrol gallai rhywun feddwl pam s么n am feini hirion de Ffrainc a'r rhai yn Llydaw yn llawer gwychach ac wedi eu haddurno 芒 phatrymau a gop茂wyd yng ngwisgoedd traddodiadol y bobl - pwynt fuasai'n berthnasol i'r ysgrif.
A hithau newydd fod yn Karnag, rhyfedd na fuasai wedi gweld cysylltiad mwy diddorol a chyfoethocach, meddwn wrthyf fy hun. Ond wedi craffu ar y llyfryddiaeth yng nghefn y gyfrol gwelir mai Yn Wyneb Haul a sgrifennwyd gyntaf. Rwy'n hollti blew!
Ysgrif iasol Cefais yr erthygl Brad (Saunders Lewis) yn iasol o wybod am brofiadau a gwybodaeth unigryw Kate Bosse-Griffiths.
Diddorol iawn yr ysgrif ar Euros Bowen a'r Gaeaf Caled. Yr oedd J. Gwyn a Kate Bosse-Griffiths yn byw yn Y Bala adeg eira mawr 1947 ac Euros Bowen yn Rheithor Llangywair. Hefyd, yr oedd gwersyll carcharorion rhyfel Almaenig yn Llandrillo a chyfunwyd y cyfan mewn ysgrif ddestlus a difyr iawn.
Ceir ei hymateb chwyrn, ond boneddigaidd, i adolygiad Roy Lewis o Blas y Cynfyd Islwyn Ffowc Elis yn Y Faner (1959) ...
Nid fedraf ond crafu wyneb y gyfrol gyfoethog a thoreithiog hon. Mae'n ddyletswydd ar unrhyw un sy'n proffesu rhywfaint o gariad at Gymru a'r byd ei darllen.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|