Fel Nerthol Wynt Sylwadau Elfyn Pritchard am ddiwygiad
Fel Nerthol Wynt oedd y nofel a ddewiswyd yn Nofel y Mis ar gyfer Chwefror gan Gyngor Llyfrau Cymru.
Dyma ddywedodd Elfyn Pritchard adeg ei chyhoeddi:
"Mae gen i gymeriadau yn y nofel - pobl capel, cofiwch - a'r rheiny'n dweud nad ydyn nhw ddim eisiau diwygiad," meddai.
Ap锚l diwygiad "Mi alla i weld ap锚l diwygiad, yn enwedig gan fod pethau wedi mynd yn bur wannaidd yn y capeli erbyn hyn, ac mae'r holl s么n am ganmlwyddiant Evan Roberts a 1904-05 wedi peri i bobol feddwl mwy am y peth, ond mewn gwirionedd mi rydw i o'r farn mai diwygiad fel un 1904-05 yw'r peth diwetha sydd ei angen arnon ni.
"Dw i'n credu bod yna elfen o wallgofrwydd yn gallu bod mewn diwygiad: mae'r holl brofiad yn gallu gwneud i bobol resymol ymddwyn yn hollol afresymol - dyma dw i wedi ceisio'i bortreadu gydag Ifan Roberts yn fy nofel - ac mae arna i ofn nad dyna'r ffordd orau o dynnu sylw da i Gristnogaeth.
Portreadu Ifan "Cofiwch, wrth i mi wneud ymchwil ar gyfer y nofel hon, roedd y syniad fod yn rhaid i ddiwygwyr weithredu yn amlygu ei hunan dro ar 么l tro, ac mi geisiais i bortreadu Ifan fel dyn oedd yn methu peidio 芒 gweithredu o ganlyniad i'r profiad gafodd o yn yr eglwys yn Ffrainc."