|
Fel Nerthol Wynt Dan ddylanwad gwynt sy'n chwythu
Adolygiad Glyn Evans o Fel Nerthol Wynt gan Elfyn Pritchard. Gomer. 192 tudalen. 拢6.99.
Y disgrifiad ar glawr Fel Nerthol Wynt ydi; "nofel gyffrous, amserol, bryfoclyd fydd yn sicr o wneud i chi feddwl".
Go brin y gallech chi ofyn am fwy na hynny.
Ar wah芒n i'r geiriau hyn ar y clawr cafodd nofel ddiweddaraf Elfyn Pritchard gryn sylw yn sgil canmlwyddiant Diwygiad '04-'05 gan mai Ifan Roberts yw enw'r prif gymeriad ac i Elfyn Pritchard ei hun fod yn dweud na ddymunai weld heddiw ddiwygiad arall tebyg i hwnnw.
Gwewyr a chyffroadau Ac ydi, mae hi yn nofel sy'n ymwneud 芒 gwewyr a chyffroadau crefyddol ac ymgais i ddiwygio neu, yn wir, wyrdroi Cristnogaeth.
Nid darllen am hyn oll a'm gyrrodd i at y nofel, fodd bynnaf, ond dyletswydd i'w hadolygu.
Doedd fy nisgwyliadau ddim yn uchel ond, yn fuan iawn yr oeddwn yn ymgolli yn y stori - rhywbeth nad yw'n digwydd ddigon aml wrth adolygu.
O fewn penodau yr hanner cyntaf mae yma ddigon o awgrymiadau ac o osod abwyd i'n bachu. Darogan rhyw wae anelwig sy'n mynd i darfu ar gyfforddusrwydd beunyddiol y cymeriadau.
Cychwyn ar wyliau Mae'r nofel yn cychwyn ar fore annifyr o Fedi yn Wrecsam pan yw Ifan Roberts a'i wraig, Bethan, yn cychwyn ar wyliau tramor sy'n argoeli'n un tyngedfennol.
Gyda'r ddyfais o ddarogan a ddefnyddia sawl tro yn ystod y nofel dywed yr awdur am Ifan: "Pan ddaeth y bws roedd ei chweched synnwyr ar waith drachefn, yn ei rybuddio ei fod yn wynebu byd bygythiol a sinistr, a bod y camu i'r bws yn symbol o gamu i'r anwybod mawr, dieithr."
Wedi prolog y bennod gyntaf mae'r nofel yn ailgychwyn yn ystod y cyfnod sy'n arwain at ddal y bws tyngedfennol hwn.
Dyma pryd y deuwn i adnabod Ifan Roberts fel cyfrifydd parchus, blaenllaw yn ei gymdeithas, amlwg yn ei gapel, triw i'w deulu ac yn Daid hyfryd i'w wyrion.
Ond gweithaholig sy'n gorfod ildio i orfodaeth ei deulu i fynd ar wyliau gyda'i briod, Bethan, i Ffrainc. Ei wyliau cyntaf ers cantoedd, os nad erioed.
Hyn sy'n arwain at ddal y bws yna yn Wrecsam ac yn ystod y gwyliau hwn gwelwn ddechrau datgelu rhywfaint ar ddarogan y prolog er na ddatgelir yn llwyr beth sydd wedi digwydd - daw hynny bob yn friwsionyn yn ystod trydedd ran y nofel.
Digwyddiad mewn eglwys Mae'r cyfan wedi ei hoelio ar ddatgeliad rhyfeddol yn eglwys La Clusaz yn Alpau Ffrainc. Datgeliad sy'n chwyldroi yn llwyr fywyd Ifan Roberts a'i agwedd tuag at y grefydd Gristnogol gonfensiynol y bu'n ei byw cyn hyn.
"Mae yna nerthoedd y tu 么l i mi, y tu hwnt i'r byd materol hyd yn oed, yn fy ngyrru i," meddai wrth geisio egluro'r grym sydd wedi'i feddiannu - grym sy'n cael ei ddisgrifio fel "rhyw wynt nerthol" a hynny'n atgof o'r ddelwedd Feiblaidd o'r Ysbryd Gl芒n.Wedi ei feddiannu Bellach, mae'r cyfrifydd ceidwadol a chymesur yn ddyn wedi ei feddiannu; yn union fel y diwygiwr o'r un enw yn '04-'05.
Y cwestiwn yw ai dyn wedi ei feddiannau gan rhyw weledigaeth newydd ydyw ynteu un a feddiannwyd gan gabledd.
Troediwn gydag ef a'i deulu y ffin denau honno rhwng argyhoeddiad dwfn a gorffwylltra sy'n bygwth nid yn unig ddryllio Ifan Roberts ond ei garennydd hefyd.
Tipyn o gors Cyrhaeddwn gyfnod yn y nofel pan yw'r prif gymeriad, a'r awdur, mewn rhywfaint o gors a honno'n gors nad yw'n ei chael yn hawdd ei thrin.
Yn sicr mae'r pryder am gyflwr meddwl Ifan Roberts a'i densiynau mewnol o ddiddordeb sy'n ganolog i'r holl nofel ond mae'r awdur mewn peryg o fod yn euog o lawer iawn gormod o droi a throsi athronyddol ac o ailbobi'r un pwyntiau argyfyngus drosodd a throsodd wrth ymdrin a gwewyr Ifan.
Mae hon yn rhan o'r nofel a fyddai wedi elwa ar naddu a chwtogi llawer llymach er mwyn cadw'n diddordeb ac er mwyn symud yn llyfnach tuag at ddiweddglo anorfod y nofel.
Er yr enghreifftiau rhagorol o greu disgwyliadau nid yw'r sylweddoliad mor effeithiol.
Y diwedd Diweddglo anorfod? Ie - a rhagdybiedig hefyd gan beri rhywfaint o siom nad yw'r diwedd yn fwy annisgwyl. Yn fwy o ergyd neu ysgytwad i'r darllenydd.
Bydd rhai yn teimlo rhywfaint o siom hefyd pan ddatgelir cyfrinach gweledigaeth Ifan yn La Clusaz gan nad yw'r 'gwirionedd' a ddaw iddo mor ysgytiol - na newydd - pan ddaw i'r golwg ac a awgrymir wrth ei ddarogan!
Gwneud y syniad canolog hwn yn ysgytiol ac yn gredadwy ar yr un pryd oedd yr her fawr wrth sgrifennu'r nofel hon ond dydw i ddim yn siwr a lwyddodd yr awdur gant y cant yn hynny o beth - er imi fynnu cadw gydag ef hyd at ddiwedd y stori - er gwaetha'r athronyddu estynedig. Nofel gyffrous, amserol, bryfoclyd fydd yn sicr o wneud i chi feddwl, felly? Er nad yw'r broliant yn gelwydd - dydi o ddim, ychwaith, yn dweud y gwir i gyd! Fel cymaint o bethau yn y byd crefyddol.
Cysylltiadau Perthnasol
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|