| |
|
|
|
|
|
|
|
I'r Byw Llyfrau byrion i blant diamynedd
Llyfrau byrion i blant byr eu hamynedd ydi dwsin o lyfrau newydd sydd newydd eu cyhoeddi gan Wasg Gomer.
Mae'r llyfrau ar gyfer plant dros eu 11 - yr oed hwnnw, meddai'r wasg, pan fo plant yn dueddol o fod yn ddiamynedd gyda straeon hir ac o'r herwydd yn dueddol roi'r gorau i ddarllen.
"Wedi'r cyfan mae cystal adloniant ar y sgr卯n fach a gall stori ddod i'w therfyn yn ei blas. Felly stori sydyn amdani," meddai datganiad gan y wasg i gyd-fynd a chyhoeddi'r gyfres newydd I'r Byw.
Mae'r llyfrau yn gymysgedd o'r ffeithiol ac o ffuglen.
"Bydd modd diddanu'r darllenydd anfoddog 11-14 oed gydag amrywiaeth o lyfrau newydd," meddai'r datganiad.
Mae'r amrywiaeth yn cynnwys hanes digwyddiadau rhyfedd ar arfordir Sir Benfro yn haf 1983 - Wyneb Rwber gan Meleri Wyn James a oedd yn ferch ysgol yn a'r holl helyntion am smyglo cyffuriau yn dal yn fyw yn ei chof.
Peryglon gwneud ffrindiau ar y we ydi testun cyfrol arall, Y We, hefyd gan Meleri Wyn James.
Ceir, beiciau a rasio yw un o ddiddordebau mawr yr awdures Elin Meek ac yn Ennill y Ras datgelir bod mwy nag un ffordd o ennill ras.
Hanes ymdrech arwrol Parry Thomas dorri record byd mewn car sydd yn y llyfr Babs - yr enw a roddodd ar y car y'i lladdwyd ynddo ar draeth yn Sir Gaerfyrddin.
Go brin bod angen holi beth yw'r cefndir i Trychineb Medi 11 - sy'n s么n am brofiadau y dyn t芒n, Pitch Picciotto, yn Efrog Newydd, y diwrnod ysgytwol hwnnw.
Stori ryfedd am ferch yn cyrraedd gwesty anghyffredin yw Tawel Nos.
"Mae'r cyfuniad o ddeunydd ffeithiol diddorol a stor茂au sy'n ysgwyd i'r byw yn gwneud y gyfres hon yn un fachog, ac efallai y bydd mwy o awydd ar ambell un i gydio mewn llyfr," meddai datganiad Gomer.
Dyma restr gyflawn o'r llyfrau: Ennill y Ras Elin Meek Y We Meleri Wyn James Wyneb Rwber Meleri Wyn James Lladron Diemwnt y Gromen John Townsend addas. Elin Meek Nol i'r Gwyllt Keith West addas. Elin Meek Llygad Drygioni Paul Jennings addas. Elin Meek Smotiau Bill Ridgeway addas. Elin Meek Tawel Nos John Townsend addas. Elin Meek Torri'n Rhydd Bill Ridgway addas. Elin Meek Trychineb Medi 11 Chris Culshaw addas. Elin Meek Y Cynrhonyn Paul Jennings addas. Elin Meek Eu pris yw 拢4 yr un.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|