Esgid Wag Nofel gyntaf ragorol
Adolygiad Helen Lehain o Esgid Wag gan Mared Lewis
Mynna Esgid Wag gan Mared Lewis eich sylw o'r cychwyn cyntaf. Mae'r tensiwn a'r cynnwrf cyson o emosiwn yn eich cadw ar bigau'r drain.
Oherwydd y teimladau am y plentyn a lofruddiwyd a'r corff sydd yn parhau i fod ar goll, mae yna bethau sydd heb eu datrys a chwestiynau sydd heb eu hateb.
Tra bo cynefindra'r iaith yn gwneud y llyfr yma'n un sy'n hawdd ei darllen, mae cymhlethdod y cythrwfl emosiynol yn gweithio'n dda er mwyn cynnal diddordeb yn y plot.
Fel dynes, teimlais fod y berthynas rhwng y wraig a'i g诺r a'r fam a'i merch yn berthnasol iawn ac wedi ei arsylwi'n dda.
Roedd yna ddisgrifiadau godidog; er enghraifft: "yr haul mor ysgafn 芒 mwslin melyn yn taenu'n ysgafn garnaidd dros bob dim, a'r awel yn fflyrtian yn gellweirus efo pawb." (Tudalen 79)
Mae'r disgrifiadau yma sy'n edrych yn 么l dros yr amseroedd da yn ychwanegu at y teimlad o hiraeth sy'n rhedeg drwy gydol y nofel. Roedd y gadael yn ddramatig ond eto'n gredadwy fel sefyllfa 'pen tennyn', a'r disgrifiadau o'r byw o ddydd i ddydd yn Nulyn yn argyhoeddi.
Cafodd Rhian ei defnyddio'n dda i gefnogi'r stori ac i ddod 芒'r cwbl at ei gilydd. Roedd y diweddglo'n fy modloni 'Not with a bang but a whimper' fel dywedodd T.S. Eliot.
Dyma lyfr nad oeddwn yn medru ei roi i lawr - nofel gyntaf ragorol yn fy marn i.