|
Cof Cenedl XX - adolygiad Mynd a dod yng Nghymru
Cof Cenedl XX. Ysgrifau ar Hanes Cymru. Golygydd, Geraint H Jenkins. Gomer 拢8.50.
Pwy fyddai wedi meddwl fod beicio unwaith yn cael ei weld fel ffordd o "wareiddio" Cymru.
Meddai Steven Thompson yn ei ysgrif, Chwiw Feicio'r Cymru'r 1890au: "Yr oedd yr honiad hwn yn arbennig o berthnasol yng nghyd-destun y cymunedau newydd a ffurfiwyd yng nghymoedd de Cymru a'r bygythiad ymddangosiadol i foesau preswylwyr y cymoedd gan eu hamgylchiadau."
Diolch i ddiddordeb newydd mewn beicio "yr oedd yn bosibl," meddai, "i'r bobl hyn adael y cymoedd culion, llychlyd a gorlawn ac i fwynhau ardaloedd gwledig llesol a gwyrdd."
Cryfhau corff ac ysbryd Dywed mai'r disgwyl oedd y byddai glowyr yn dychwelyd i'w gwaith wedi penwythnos o feicio yn w欧r cryfach, bywioach ac iachach.
"Yn 么l cefnogwyr beicio, cyfrwng i gryfhau'r corff a'r ysbryd ydoedd. Drwy feicio gellid ymlid iselder ysbryd a datblygu cryfder corff a meddwl a fyddai'n galluogi gweithwyr i wynebu unrhyw dasg," meddai.
Ochr arall y geiniog oedd fod "ceffyl y dyn tlawd" yn gyfle hefyd drigolion y wlad, hwythau, ffoi rhag unigedd y bywyd gwledig i brysurdeb y trefi.
Creu pobl heb draed! Nid pawb, fodd bynnag, oedd yn canu clodydd y beic: "Yn 么l un gwyddonydd, Dr Jung o Geneva, byddai hil newydd o ddynion yn esblygu o ganlyniad i feicio." Ac yn un 芒 damcaniaeth Darwain " byddai traed beicwyr yn diflannu, y byddai eu breichiau yn ymestyn o ganlyniad i lywio a brecio, ac y byddent yn dod yn gefngrwm oherwydd eu tuedd i bwyso dros y cyrn."Yn 么l y bobl hyn yr oedd beicio "yn fygythiad i ddyfodol yr hil ddynol," meddai Steven Thompson sy'n ddarlithydd yn Adran Hanes Prifysgol Cymru Aberystwyth.
Hamddena a chystadlu Bid a bo hynny, tyfodd cymdeithasau beicio fel madarch ymhlith dosbarth canol deheudir Cymru.
Yr oedd ap锚l beicio i'r dosbarth gweithiol rywfaint yn wahanol gyda'r pwyslais yn eu plith hwy ar gystadlu yn hytrach na hamddena.
A bydd yn newyddion i lawer ohonom, i Gymry fod yn gystadleuwyr tra llwyddiannus.
Ymhlith y llwyddiannus yr oedd gweithiwr glo "swil a thawedog" o'r enw Arthur Linton a drechodd rai o feicwyr gorau Ewrop a dod yn bencampwr byd!
Bu Jimmy Michael o Aberaman a fedyddiwyd "the Welsh midget yn fwy llwyddiannus fyth gan ennill yn 么l y New York Times "dazzling stacks of American dollars".
Dihangfa mewn ystyr wahanol iawn i un y dosbarth canol oedd beicio i'r rhai:
"Am gyfnod ystyrid beicio, megis bocsio, yn ddull o alluogi dynion dosbarth gweithiol i ddianc rhag eu cefndir . . . o ddianc rhag tlodi a chaledi eu hamgylchiadau ac i ennill mwy o arian nag oedd bosibl yn eu gwaith beunyddiol."
Chwyldro'r haiarnfarch Dull arall o gludiant sy'n cael sylw yn y rhifyn hwn o Cof Cenedl yw'r "haiarnfarch".
Nid oes amheuaeth fod dylanwadau'r tr锚n yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn bell gyrhaeddol iawn gyda 1,429 milltir o reilffyrdd yn cael hagor yng Nghymru rhwng 1840 ac 1870!
"Rhan o ap锚l y rheilffyrdd oedd eu bod yn dwyn manteision i bob carfan gymdeithasol, o'r aelod seneddol a fyddai'n teithio'n 么l ac ymlaen i Lundain, i'r masnachwr a dderbyniai nwyddau rhatach o lawer.
"Byddai tenantiaid ffermydd yn elwa'n fwy na neb yn sgil lledaenu dulliau newydd o amaethu," meddai Hywel Gethin Rhys o sy'n fyfyriwr ymchwil yn Ardan Hanes Prifysgol Cymru, Aberystwyth.
Yr oedd manteision i hyd yn oed bregethwyr yn teithio i gadw cyhoeddiadau: "Arbedent wythnosau mewn blwyddyn . . . yr hwn a wastreffid wrth deithio."
Dim rhyfedd i ddyfodiad y tr锚n gael ei ystyried yn chwyldro a drodd y wlad ben i waered gyda phob math o gynlluniau uchelgeisiol - fel cysylltu'r Rhyl ac Aberd芒r yn cael eu gwyntyllu!
Pwyso a mesur y Diwygiad Chwyldro tra gwahanol ond un cyn hynoted ac mor ysgytwol yn ei ffordd sy'n cael sylw Yr Athro D Densil Morgan - diwygiad crefyddol 1904-05.
A diddorol yw'r sylw nad oedd, pan ddaeth, mor annisgwyl ac y byddai rhywun sy'n anghyfarwydd a'r cyfnod wedi tybio heddiw. " . . . yr oedd yn amlwg fod pobl wedi paratoi ar ei gyfer," meddai'r Athro Morgan o Adran Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol Prifysgol Bangor.
Mae o'n tynnu sylw hefyd am y rhan a chwaraewyd gan y wasg:
"Y ffaith fod y wasg wedi rhoi sylw i'w brofiadau syfrdanol a droes Evan Roberts o fod yn bregethwr ifanc dibrofiad a dinod i fod yn arweinydd, i bob golwg, y Diwygiad hwn."
Yn hyn o beth codir pwnc sy'n un dadleuol hyd y dydd heddiw, yngl欧n 芒 thuedd gwasg i fflamio digwyddiadau wrth ohebu amdanyn nhw.
Methiant hefyd Ond os llwyddodd Y Diwygiad i gyffroi'r Cymry gellid dadlau mai aflwyddiant a fu yn ddiwinyddol ac yn gymdeithasol.
"Ni chododd cenhedlaeth newydd o feddylwyr Cristnogol yng Nghymru yn sgil y Diwygiad ac ni chynhyrchwyd to newydd o ddiwinyddiaeth o'r radd flaenaf," meddai'r Athro Morgan gan ychwanegu:
"Yr un mor ddifrifol, onid mwy difrifol na'r diffyg athrawiaethol oedd methiant y Diwygiad i fynd i'r afael 芒 phroblemau cymdeithasol a gwleidyddol Cymru ar y pryd."
Si么n a Iolo Chwe chyfraniad i gyd sydd yn y gyfrol hon gyda dau o gymeriadau hynotaf ein ll锚n a'n chwedloniaeth ymhlith y rhai sy'n cael sylw.
Yn ei ysgrif ef mae M Paul Bryant-Quinn, cymrawd ymchwil yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig yn edrych ar astrusrwydd aml-ganghennog Si么n Cent ac y mae Geraint H Jenkins yn s么n am gysylltiad Iolo Morganwg a'r mudiad Undodaidd.
Ceri Davies, o Adran y Clasuron a Hen Hanes Prifysgol Abertawe yw awdur yr erthygl sy'n weddill, Polidore Vergil, Syr John Prise ac Urddas y Cymry. gan Glyn Evans
Cysylltiadau Perthnasol
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|