Bodyn Blewog a Sgerbwd Cegog Hwyl - a chwrw i'r plant!
Adolygiad Lowri Rees o Bodyn Blewog a Sgerbwd Cegog gan Emily Huws. Gwasg Carreg Gwalch.
Mae plant - a phobl - wastad yn mwynhau straeon sy'n codi ofn arnyn nhw.
Yn ddiweddar mae dwy stori felly mewn un llyfr wedi eu haddasu gan Emily Huws a'u cyhoeddi gan Wasg Carreg Gwalch ar gyfer y rhai ifanc.
Mae clawr Bodyn Blewog a Sgerbwd Cegog yn apelio ac yn tynnu'r llygaid yn syth gyda darlun o hen wraig yn dawnsio yn gellweirus gyda sgerbwd.
Mae cael dwy stori o fewn un llyfr yn gyfle i blant ddechrau arfer gyda meddwl a chreu straeon byrion ar eu liwt eu hunain.
Mae'r stori gyntaf, Yr Hen Wraig a'r Bodyn Blewog, wedi ei seilio a'r gerdd draddodiadol o America ac yn s么n am hen wraig sydd yn dod o hyd i fod blewog sydd ar y ddaear ar ben ei hunan bach.
Gan iddi deimlo'n anniddig gadael Bawdyn mae'n ei wahodd i'w chartref i gadw cwmni iddi!
Ond mae gan bob bawdyn berchennog, a chyn bo hir mae'r perchennog hwnnw yn dechrau codi ofn ar yr hen wraig.
"Gorweddai'r hen wraig yn y gwely yn crynu fel deilen. Fedrai hi ddim atal ei d-d-d-dannedd rhag c-c-clecian.."
Ie, stori gyda digon o ddisgrifiadau bachog sy'n dal diddordeb darllenydd ydi hon.
Hefyd mae digon o luniau sgets ar bob tudalen, rhai yn ddoniol y cyfan yn gelfydd.
Byddai wedi bod yn braf cael ychydig o liw er tegwch 芒'r stori.
O'r Eidal Yna ymlaen at hanes Dewi Dewr, stori arswyd o'r Eidal am fachgen ifanc, dewr, nad oes dim yn ei gynhyrfu.
Un diwrnod mae'n cychwyn ar daith i weld y byd ac wedi diwrnod caled yn chwilio am le i aros.
Gyda'r dafarn leol yn llawn mae'r tafarnwr yn ei gyfeirio at d欧 cyfagos sydd ag ysbryd ynddo.
Ond dyw hynny ddim yn gofidio Dewi ddewr.
Tra'n coginio selsig ac yn yfed cwrw wrth y t芒n mae Dewi'n cyfarfod pob ysbryd fesul asgwrn ond heb gael ei gynhyrfu o gwbl gan ddim - hyd yn oed darganfod tri chawg yn llawn o aur!
"Sbonciodd y coesau dros y t芒n poeth a sefyll ar y llawr wrth ochr Dewi. Ond gynhyrfodd Dewi o gwbl? Naddo, dim ond dal ati i rostio'i sosej ac yfed ei gwrw."
Mae'r ysbryd yn cael ei wrthod gan Dewi ar ddiwedd y stori mewn ffordd ddoniol dros ben.
Straeon gwych sydd sy'n siwr o gadw diddordeb darllenydd ifanc.
Mae'r print yn fras ac yn addas ar gyfer plant sy'n dechrau darllen ar eu pen eu hunain.
Ond un peth sy'n codi cwest yw'r ffaith fod 'arwr' fel Dewi yn yfed cwrw - nid y ddelwedd y byddai rhieni am ei meithrin ymhlith plant ifanc - yn enwedig y dyddiau hyn pan yw yfed yn gymaint o broblem.