|
Y Pair Dadeni Hanes Gwyddelod gwersyll y Fron-goch
Gwersyll ym Meirion arweiniodd at wrthryfel yn Iwerddon
Adolygiad Dafydd Meirion o Y Pair DadeniHanes Gwersyll y Fron-goch ganLyn Ebenezer. Gwasg Carreg Gwalch. 拢6.95.
"Y Fron-goch oedd y crochan dadeni a adfywiodd yr IRA. Fe fyddwn i'n mynd mor bell 芒 mynnu mai'r Fron-goch wnaeth epilio'r IRA."
Dyna ddywed Sean O Mahony yn ei gyfrol Frongoch, University of Revolution, sef un o ddim ond dau lyfr a ysgrifennwyd am y Gwyddelod a gymrodd ran yng Ngwrthryfel 1916 - a arweiniodd y pendraw i ryddid 26 sir - ac a garcharwyd yn y Fron-goch ger Y Bala.
R诺an mae yna drydydd.
Y syndod yw bod yna gyn lleied wedi ei ysgrifennu am y lle a'r gwersyll sydd, yn 么l pob s么n, wedi chwarae rhan hanfodol yn y frwydr i gael rhyddid i'r rhan fwyaf o Iwerddon.
Paratoi'r tir Mewn cyfnod byr ym Meirionnydd, dywedir, "y paratowyd y tir ar gyfer Rhyfel Annibyniaeth, y Rhyfel Cartref a sefydlu Talaith Rydd heb s么n am sefydlu hefyd Fianna Fail, y Cumann na nGaedheal (Cymdeithas yr Iaith Wyddeleg) ac, yn ddiweddarach, Fine Gael."
Ceir yma, nid yn unig hanes y gwersyll ond hefyd hanes y frwydr o 1916 ymlaen am ryddid i Iwerddon, ac mae'r awdur yn gyson yn cyfeirio at ran y rhai a gafodd eu carcharu yn y Fron-goch yn y frwydr.
Neb llai na Michael Collins a ddefnyddiodd ei gyfnod ger Y Bala, nid yn unig i geisio dysgu rhywfaint o Wyddeleg, ond hefyd i osod y seiliau ar gyfer y frwydr yn erbyn y Saeson.
Wedi methiant Pasg 1916, fyddai yna ddim mwy o ddynion mewn lifrau yn meddiannau adeiladau yn Nulyn.
Na , tactegau ymosod a chilio fyddai'n cael eu defnyddio, tactegau a gafodd eu defnyddio'n ddiweddarach gan wrthryfelwyr drwy'r byd, yn amrywio o Che Guevara i Mao a Menachem Begin.
Sandhurst a West Point! Dywedir i dactegau lluoedd Collins - y rhai a ddyfeidiodd yn y Fron-goch - gael eu hastudio yng ngholegau milwrol Sandhurst a West Point.
Sylweddolodd Collins yma hefyd bwysigrwydd cael gwybodaeth am y gelyn ac wedi dychwelyd i Ddulyn ffurfiodd fyddin o ysbiwyr i gael y gorau ar luoedd Prydain.
Nid Collins oedd yr unig un wnaeth ei farc wedi gadael y Fron-goch. Enwir sawl un arall a ddaeth yn amlwg ym Myddin Gweriniaethol Iwerddon ac aeth sawl un yn TD - aelod o senedd Iwerddon - heb s么n am fod yn llywyddion eu gwlad.Cysylltiadau Cymreig Er hynny, yr hyn sy'n ddiddorol i ni yw'r cysylltiadau Cymreig.
Daeth y Gwyddelod yn gyfeillgar 芒'r Cymry lleol oedd yn gweithio yn y Fron-goch - gan gynnwys Bob Tai'r Felin.
Rhyfeddai sawl un o glywed y Cymry yn siarad Cymraeg mor naturiol ac o weld arwyddion dwyieithog ar orsafoedd tr锚n.
Aeth y Gwyddelod ati i ddysgu Gwyddeleg yn y gwersyll a rhai yn mynd ati i ddysgu Cymraeg hefyd gyda chymorth Geiriadur Spurrells a chardiau dysgu'r Methodistiaid i blant.
Mewn gwlybaniaeth Roedd y bobl leol yn teimlo dros amgylchiadau'r Gwyddelod yn y gwersyll.
"Doedd o ddim yn lle i fod fel j锚l i'r carcharorion o gwbl," meddai Robert J Roberts o'r Bala a fu'n gweithio yno.
"... roedd y lle mor wlyb ac mor damp, roedd o'n bechod. Roedd o'n arw iawn gen i fod y Gwyddelod yn gorfod cysgu mewn gwlybaniaeth ... Ddim bwyd iawn oeddan nhw'n gael. Bara du a thatws fyddai'r rhan fwyaf o'u bwyd nhw."
Ac roedd y lle'n berwi o lygod mawr.
Beirniadu Ond doedd pawb yng Nghymru ddim yn cefnogi gwrhydri'r Gwyddelod.
Yn rhifyn Awst 1916 o Cymru beirniadu Syr Roger Casement a smyglodd arfau ar gyfer Gwrthryfel y Pasg mae O M Edwards, "... mae bradwriaeth yn bechod anfaddeuol pan fydd bywyd cenedl [sic] mewn perygl."
Roedd O M Edwards hefyd yn feirniadol o erthygl gan D J Williams mewn cylchgrawn myfyrwyr oedd yn cefnogi gwrthryfel y Gwyddelod.
Ac mae'r awdur hyd yn oed yn awgrymu fod Dora Herbert Jones, yr arbenigwraig ar ganu gwerin Cymreig, yn ysb茂wraig i'r Saeson yn Iwerddon ac y gallai hi fod ar restr Collins o rai oedd i gael eu dienyddio!
Streic newyn Mae pennod ddifyr iawn gan yr awdur tuag at y diwedd am gysylltiadau Cymru 芒'r gwrthryfelwyr Gwyddelig.
Mae'n nodi un o arweinwyr y glowyr fu'n hyfforddi'r Irish Citizen Army ac yn s么n am Lewis Valentine a myfyrwyr Bangor yn sefyll mewn parch ar blatfform gorsaf y ddinas wrth i gorff Terence MacSwiney - Maer Corc ac un a fu'n garcharor yn y Fron-goch - gael ei gludo adref i Iwerddon wedi iddo farw wedi 74 diwrnod ar streic newyn.
Eu rhyddhau Saith mis a hanner fu'r 1,800 yn y Fron-goch, a dywedir mai'r rheswm iddyn nhw gael eu rhyddhau oedd fod Lloyd George eisiau plesio'r Americanwyr gan obeithio y bydden nhw'n ymuno 芒'r rhyfel yn erbyn yr Almaenwyr.
Dychwelodd y Gwyddelod gan fynd ati i roi'r hyn y buon nhw'n ei drafod yn y Fron-goch ar waith a llwyddo i gael y Saeson, dan arweiniad Lloyd George, i'w gwahodd i Lundain i drafod hunanlywodraeth.
Collins oedd yn arwain y trafodaethau, ond wedi iddo ddychwelyd i Iwerddon gyda chytundeb Lloyd George oedd yn cadw chwe sir y gogledd yn rhan o Brydain datblygodd rhyfel cartref rhwng y rhai oedd o blaid y cytundeb a'r rhai oedd yn ei wrthwynebu.
Lladdwyd Collins gan hanner dwsin o filwyr oedd yn erbyn y Cytundeb, yn eu plith un oedd gydag o yn y Fron-goch, a cheir sawl enghraifft o filwyr gwrth-Gytundeb yn cael eu lladd a'u dienyddio gan rai fu gyda nhw yn y gwersyll yng Nghymru.
Criw arall Ond nid 1916 oedd yr unig dro i griw o Wyddelod ddod i wersyll ar lan yr afon Tryweryn.
Yn 1960, Gwyddelod oedd mwyafrif y rhai fu'n gweithio ar y cynllun i greu cronfa i gyflenwi dwr i Lerpwl, a'r rheiny'n codi eu cabanau ar fwy neu lai union leoliad gwersyll 1916.
Cafwyd llythyr o gefnogaeth gan Eamonn de Valera, Arlywydd Iwerddon ar y pryd - ond na fu yn y Fron-goch, i'r rhai oedd yn gwrthwynebu'r gronfa.
Ond yn eironig, fel y noda'r awdur, codwyd cofeb tairieithog ar safle'r gwersyll i gofio am y Gwyddelod yn y Fron-goch, cofeb y talwyd amdani gan gangen Lerpwl o Conrad na Gaeilge
.Mae hwn yn llyfr yr oedd gwir angen amdano. Nodir yma bwysigrwydd y gwersyll yn y Fron-goch i Iwerddon rydd.
Yma yr heuwyd y chwyldro, yma y taniwyd llawer o'r arweinyddion ac yma y ffurfiwyd yr IRA.
Os oes yna unrhyw feirniadaeth o'r llyfr, y feirniadaeth honno yw fod y bennod ar ystad y Rhiwlas - ar ble codwyd y gwersyll, er mor ddifyr yn ei hun, yn rhy hir ac efallai yn amherthnasol.
Ac mae yna ddwy neu dair tudalen wedi cael eu hailadrodd - tudalennau'n rhestru'r carcharorion.
Mae yma 么l gwaith trylwyr, gwaith sydd wedi cymryd dros ddeng mlynedd ar hugain.
Mae'r awdur wedi cyfarfod rhai fu yn garcharorion yn y gwersyll, mae wedi darllen a holi yn helaeth. Mae'n arbenigwr ar ei bwnc ac mae'r llyfr yn sicr yn un y dylai unrhyw un sydd 芒 diddordeb yn Iwerddon ei brynu.
Cysylltiadau Perthnasol
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|