Gwyneth Lewis - bardd cenedlaethol Gwyneth Lewis yw'r gyntaf i gael ei dyrchafu yn fardd cenedlaethol y Cymry.
Y mae hon yn anrhydedd newydd sy'n cyfateb, mewn ffordd, i swydd y Bardd Llawryfog - 'Poet Laureate' - yn Lloegr.
Ac un o ddyletswyddau cyntaf Gwyneth Lewis oedd cyfansoddi cerdd i Gwynfor Evans a fu farw gwta wythnos cyn i'r cyhoeddiad am ei swydd gael ei wneud.