|
Ei Uffern ei Hun Sgerbydau ym mwynder Maldwyn
Adolygiad Glyn Evans o, Ei Uffern ei Hun gan Geraint V Jones. Gomer. 拢7.99
Mae'n si诺r o fod yn destun boddhad mawr i awdur pan yw'n cyrraedd y cyflwr hwnnw o gael ei brynu oherwydd ei enw.
Ac mae yna ambell un o'r rheini yn y Gymraeg y dyddiau hyn - awduron fel Bethan Gwanas a Dafydd Meirion, er enghraifft, yn nofelwyr yr ydych chi'n gwybod be da chi'n mynd i'w gael dim ond gweld yr enwau.
Un arall a ddarganfu wyth茂en iddo'i hun ydi Geraint V Jones y mae ei lyfrau ditectif/datrys yn hynod o boblogaidd ac yn awdur sydd wedi sefydlu ei bedigri trwy ennill Gwobr Goffa Daniel Owen deirgwaith.
Ac mae'n syndod na fu hynny a'i holl gyhoeddiadau eraill yn ddigon i sicrhau iddo ei le yn y Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru.
Poblogaidd iawn Mae'n un o olyniaeth ddigon teilwng gan i'r genre hwn fod yn un poblogaidd iawn yn y Gymraeg ers achau gydag awduron fel Meuryn, E Morgan Humphreys; John Ellis Williams, G E Breeze ac eraill yn braenaru'r tir.
Nofel anfuddugol, ond un a restrwyd ymhlith "y goreuon" yng nghystadleuaeth y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau yw un ddiweddaraf Geraint V Jones - ac un afaelgar a darllenadwy yw hi hefyd - er efallai i'r awdur wneud rhywfaint o gam ag ef ei hun wrth ddewis iaith dau o'i brif gymeriadau.
Yr oedd hynny'n rhywbeth a berodd ddryswch i un o feirniaid y gystadleuaeth hefyd ond yn rhywbeth y dewisodd yr awdur beidio a'i newid.
Merch o Gymru Er bod yna lofruddiaeth a ditectifs yn Ei Uffern ei Hun nid nofel ddatrys yn yr ystyr gyffredin yw hon ac y mae gan yr awdur fwy o ddiddordeb mewn gwirionedd yng nghymeriad ac amgylchiadau personol y prif blismon chwerw, Charles Mornay, ac, yn fwy fyth, yng nghefndir merch ifanc o Gymru sy'n marw mewn ysbyty ar 么l cael ei churo yn ddidrugaredd ar strydoedd un o drefi perfeddion Lloegr.
Daw y digwyddiad a Mornay, ei Di Si a phlismones Gymraeg a ddefnyddiwyd i gyfieithu geiriau olaf y ferch ifanc i gysylltiad agos a'i theulu ym mherfeddion Maldwyn.
Tynged Angharad wedi iddi ffoi o'i chartref yno wedi iddi esgor ar blentyn siawns fu dod yn gaeth i Heroin ac ennill ei bywoliaeth yn butain.
Tynnu'r sgerbwd sy'n llechu yno, o'r cwpwrdd teuluol yw prif ddiddordeb y stori ac fe welwn nad oes mwynder ym mhobman yng nghefn gwlad Maldwyn!
Er bod y plot yn eithaf syml mae'n stori afaelgar sy'n mynnu ein sylw at y diwedd.
Sgwennu da Mae Geraint V Jones yn sgrifennwr dihafal; yn cynnal ein diddordeb gydol y nofel ac y mae'r berthynas anghyfforddus rhwng y ddau blismon yn ychwanegu at y tyndra. Dyfais ddifyr yw cael meddyliau anynganadwy y Di Si am ei fos mewn italig.
Fodd bynnag gall y bydd rhywfaint o ddryswch yn meddwl y darllenydd ar y cychwyn cyn sylweddoli mai uniaith Saesneg yw y ddau hyn ond eu sgwrs yn cael ei chofnodi yn y Gymraeg.
Mae hynny, i'w gymeradwyo, wrth gwrs yn hytrach na'r arfer diog sydd ohoni y dyddiau hyn o roi talpiau o Saesneg mewn nofelau Cymraeg - ond ni ellir cysoni hynny a'r ffaith fod sgwrs cymeriad arall, seiciatrydd, yn cael ei chofnodi yn Saesneg.
Er i hyn anesmwytho un o feirniaid y Fedal Ryddiuaith hefyd, dewis peidio 芒 newid pethau wnaeth yr awdur.
Caiff yr awdur hwyl gydag anghynefeindra'r plismyn 芒 Chymru a'u methiant i ynganu enwau lleoedd Cymraeg gyda Tanpistyll yn troi'n Tin Whistle neu Tan Pistick ac yn y blaen.
Disgrifiadau gafaelgar Mae ganddo ddisgrifiadau gafaelgar hefyd yn amrywio rhwng y cain a'r garw.
Ochr yn ochr cawn ddisgrifiadau mor wahanol 芒: " . . . mam ifanc ar wely o waed, 芒'i phen yn hongian dros yr erchwyn gerfydd llinynnau o groen a chnawd, a babi deufis ger ei hymyl yn sgrecgian am fron oedd yn prysur oeri." ac ". . . safai pysgotwr unig, at ei gluniau yn y d诺r, yn cynnig ei bluen i'r llyn. A thra gwylient, gwelsant chwip yr enwair yn codi'r lein yn fflach o neidr hir ac yn ei hanfon unwaith, dwywaith, deirgwaith yn 么l ac ymlaen drwy'r awyr denau cyn ei gollwng i'w hynt ac i orffwys yn llinell unionsyth unwaith eto ar wyneb y d诺r.".
Mae'n nofel sy'n gyfuniad o ddirgelwch a sgrifennu cain. Go brin y bydd ffyddloniaid Geraint V Jones yn cael eu siomi. - a bydd pleser ychwanegol i'r rhai sy'n ymddiddori mewn pysgota!
Cysylltiadau Perthnasol
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|