大象传媒

Explore the 大象传媒
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

大象传媒 Homepage
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
John Roberts Williams - y darlledwr
Geraint Stanley Jones yn talu teyrnged
Yn y cyfarfod teyrnged i John Roberts Williams ym Mhencaenewydd , Mai 7, 2005, Geraint Stanley Jones, cyn bennaeth S4C a''r BBc yng Nghymru, fu'n s么n am ei gyfraniad ym myd darlledu.

Dyma oedd ganddo i'w ddweud:

Geraint Stanley Jones Newyddiadurwr oedd John o ran anian, uchelgais,obsesiwn, a dawn.
Ond, er mawr syndod, fe ddatblygodd y newyddiadurwr i fod yn wneuthurwr ffilm rhyfeddol o arbrofol, mentrus a llwyddiannus.

Ar 么l hyn fe dyfodd i fod yn ddarlledwr radio a theledu, clir ei amcan a sicr ei grefft, dros gyfnod maith o'r chwe degau cynnar hyd at wythnos neu ddwy cyn ei farwolaeth rhyw ddeugain mlynedd wedi hynny.

Y John hwnnw y cefais i'r fraint a'r hwyl o gydweithio ag e pan oeddem yn gyd-aelodau o'r Gorfforaeth Ddarlledu ac allan o'r cydweithio hwnnw y tyfodd y gyfathrach a'r cyfeillgarwch clos a barodd trwy gydol y blynyddoedd wedi hynny.

Un o bleserau bywyd dros y cyfnod maith hwnnw oedd clywed y cyfarchiad ar ben draw'r ffon:
"Mr Huws, chi sy'na?"
A finna'n ateb:
"Ah, Mr Parry!" fyddai'n cael ei ddilyn yn ddiffael gan rai munudau cwbl wirion, bananas, cyn dod at y neges a'r sgwrs go iawn.

trosglwyddo ei grefft
Newyddiadurwr oedd John hyd y diwedd, ond fe lwyddodd i drosglwyddo ei reddfau, ei grefft, a'i brofiad newyddiadurol o gyfrwng inc a phapur i dechnoleg mwy annelwig a chymhleth y di-wifr a'r tel-edu er 'doedd ganddo fo fawr ddim dealltwriaeth o, na diddordeb yn, natur y dechnoleg fel y cyfryw.

Yn wir 'rown i'n synhwyro atgasedd diamynedd cynhenid tuag at unrhyw beiriant, boed hwnnw yn gamera neu declyn sain yn ein byd darlledu, neu beiriant golchi neu gar- ia yn enwedig car- yn ei fywyd personol.

Cic oedd yr ateb!
O ddyn oedd, ar y cyfan yn fwyn a thawel yn ei berthynas a phobol, unwaith y byddai peiriant yn methu, cic oedd ei ymateb greddfol, a chyn gynted ag y byddai'n gafael mewn olwyn car fe'i trawsnewidiwyd i fod yn anghenfil gorffwyll- yr oedd y peiriant diymgeledd hwnnw yno i'w yrru'n ddidrugaredd.

Fe fu bron i mi ddod ag achos o gam-drin yn ei erbyn oherwydd ei agwedd dreisgar tuag at y Ford Zodiac bonheddig hwnnw gafodd ei chwipio mor ddidostur yn ystod siwrneiau gwyllt y chwedegau.

Er cymaint y byddwn yn mwynhau ei gwmni fyddwn i ddim yn teithio mewn car efo John ym mhellach na'r stryd nesa am bensiwn.

Yr oedd gan John barchedig ofn tuag at y peirianwyr di-ri oedd yn ceisio ffrwyno ein campau creadigol, ond nemor ddim diddordeb yn y peirianwaith ei hun.

Fe lwyddodd i'w anwybyddu ar y cyfan yn y modd unigryw honno y gallai John anwybyddu pwy bynnag neu be bynnag oedd ddim at ei ddant - fel y dywedodd T Glynne Davies amdano amryw dro, "drwy gario mlaen fel tai o ddim yn bod.

Syniad, beiro, darn o bapur . . .
Er bod y cyfrwng o ledaenu neges yn ei gyfnod fel darlledwr, yn bur wahanol i'r hyn yr oedd wedi arfer a hi, yr oedd y broses o lunio'r neges honno iddo ef yr un fath hyd y diwedd :
Syniad, beiro, darn o bapur, arddull a gloywder iaith, neges.

John Roberts Williams Ac yng nghorff y neges yn ddi-ffael yr oedd yna weledigaeth unigryw am y byd a'r betws, a ddaeth o'r diwylliant a brofodd yn y filltir sgw芒r o gwmpas y capel hwn ym Mhencaenewydd, yn gymysg ag addysg, profiad, ac ehangder meddwl rhyfeddol o soffistigedig oedd i mi yn un o nodweddion mwya' diddorol y John yr oeddwn i mor ffond ohono.

Heb anghofio, wrth gwrs, yr elfen honno o ddoniolwch smala, anesboniadwy bron, oedd yn nodweddu ei fywyd a'i waith - hyd y diwedd.

Cyfnod cythryblus
Pan gyfarfu^m i gynta' a John yr oedd ynghanolcyfnod digon cythryblus yn ei hanes.

Yr oedd newydd golli ei swydd fel Golygydd Newyddion Teledu Cymru wedi i'r cwmni fynd i'r wal mewn modd digon di- urddas a chyhoeddus.

Ac fel pe tae hyn ddim yn ddigon yr oedd ar yr un pryd yn ceisio ymgodymu a gofid llawer gwaeth yn dilyn y newydd difrifol am natur salwch Gwen, ei wraig.

Er clod iddo, ac er syndod i mi mae'n rhaid cyfadde, fe fu'n driw i feistri Teledu Cymru hyd y diwedd, er gwaetha popeth.

I mi, yr oedd sefydlu Teledu Cymru heb sicrhau yn gyntaf y sylfeini trosglwyddyddol ac ariannol sicr, yn weithred anghyfrifol o safbwynt y talentau a ddenwyd i weithio yno.

Ond nid dyna farn John.
Mewn sgwrs deledu 芒 mi ar ddathliad ei ben-blwydd yn 90 fe ddwedodd am y cyfnod hwnnw:
" Dyna'r cwmni gora o bobol dwi erioed wedi weld yn fy mywyd - pobol dda -roedd yn fraint cael gweithio iddyn nhw - o edrych yn 么l, nid rhwbath fethodd oedd o, ond rhwbath na fedra lwyddo."

A dyna ddweud y cyfan am y John difalais oedd yn gyfaill i gymaint ohonom ni sydd yma heddiw.

Deall cynulleidfa
Fe wahoddwyd John i ymgymryd a'r gwaith o fod yn Olygydd Newyddion i Deledu Cymru ar sail ei lwyddiant digamsyniol fel Golygydd Y Cymro.

Ymhlith cyfeillion - Dr Meredydd Evans a Dyfed EvansYr oedd John yn deall anghenion cynulleidfa eang ei diddordebau oherwydd ei fod ef ei hun yn eang ei ddiddordebau.

Yn llenor cwbl o ddifri ac yn ddadansoddwr emynyddiaeth ar y naill law, yr oedd hefyd yn fetiwr cyson ond gwamal ar geffyla, ac yn barod bob amser i rannu ei farn gignoeth craff am gampau Everton neu Cardiff City.

Dim rhyfedd felly fod Ble Mae'r B锚l yn Y Cymro, cyn bwysiced iddo mewn gwasanaeth newyddiadurol cyflawn a chyfraniadau swmpus gwleidyddol ei hen gyfaill Goronwy Roberts, ochor yn ochor a rhai difyr ddifrifol Harri Gwynn ac eraill.

Beth bynnag eu diffygion, fe sylweddolodd perchnogion y cwmni newydd y gallai antennae John am yr hyn oedd yn debyg i apelio at gynulleidfa fod yn dyngedfennol o bwysig iddynt.

Yn anffodus ni chafodd gyfle i wireddu eu gobeithion am gynulleidfa fawr, ac nid ar John a'i gydweithwyr yr oedd y bai am absenoldeb gwylwyr.

Ymuno 芒 Heddiw
Ond, fe drowyd colled Teledu Cymru yn fantais i'r 大象传媒.
Fe ymunodd y g诺r tal, salw'r olwg, a swil ei ymarweddiad ag uned Heddiw, lle 'roeddwn i'n cychwyn ar yrfa, fel cyw-gyfarwyddwr ar y pryd.

A dyna brofi o gyfaredd yr annwyl John Aelod, clir ei feddwl, ond diarhebol o fl锚r ei ddesg, am y tro cynta' wyneb yn wyneb.

O gofio ei sefyllfa 'doedd cerdded i mewn i swyddfa lawn o wynebau anghyfarwydd ddim yn beth hawdd iddo.

A mwy anodd, mi dybiaf, oedd i rywun oedd ers blynyddoedd wedi bod yn olygydd - yn fos - i orfod rhannu stafell 芒 nifer o gywion fel Wil Aaron, Rhys Lewis, Dafydd Peate, Dyfed Glyn, a minnau.

Yr oedd John, wedi'r cyfan, dros ugain mlynedd yn h欧n na ni, ond, cofiwch chi, tydwi ddim yn meddwl inni erioed ystyried hynny.

Bryd hynny, ac yn wir trwy gydol y blynyddoedd, fe barhaodd John i fod yn fytholwyrdd, ac yn fythol ddireidus hefyd.

Fe ddaeth yr arch olygydd i'n plith, i ddechrau, fel ymchwilydd ac yna'n gynhyrchydd oedd yn gorfod bod yn gyfrifol i olygydd arall, a honno ar ben popeth yn wraig - sef yr annwyl Nan Davies.

Beth bynnag oedd ei deimladau mewnol am ei sefyllfa ni chlywais i John erioed yn y cyfnod hwnnw, na byth wedyn, er gwaetha rhai o dreialon mwy caled bywyd, yn cwyno am ei fyd.

Fel y dywedodd wrthyf:
"Dwi ddim yn teimlo mod i wedi cael cam erioed, a sgin i mo'r gallu i gasau chwaith, yn anffodus."

Do fe lwyddodd i osgoi clefyd cyffredin newyddiaduraeth, sef sinigiaeth. A dyna reswm arall dwi'n meddwl, am fy hoffter mawr ohono.

Gorfod cystadlu
Yr oedd Heddiw erbyn hynny, ar 么l blynyddoedd o fod mewn sefyllfa freintiedig o fonopoli, yn gorfod profi ei hun yn ddyddiol yn erbyn Y Dydd, y rhaglen ddyddiol a gr毛wyd gan TWW, ac yn hynny o beth dwi'n credu, yr oedd John yn medru cyfrannu fwya'.

Sail llwyddiant digamsyniol Y Dydd oedd ei chryfder newyddiadurol boblogaidd.

Lluniau priodasau, chwaraeon, a digwyddiadau lleol o bob math oedd yn sicrhau trwch o wylwyr bob nos.

Yr un fformiwla a ddyfeisiwyd gan John ar gyfer Y Cymro flynyddoedd ynghynt.

Ni fwriadwyd Hrddiw i fod yn rhaglen 'newyddion' fel y cyfryw. Nid yr adran newyddion oedd yn gofalu amdani, ac 'roedd y rhai ohonom oedd yn gweithio arni yn gwarchod ein rhyddid 'creadigol' yn rhy gryf i fentro i faes newyddion cyfyngedig.

A be di 'swynog'?
Ond dan ddylanwad John fe ddaru ni fentro fwyfwy i eitemau dyddiol mwy amserol.

Fe gafodd eisteddfodau a chwaraeon lleol eu lle yn rheolaidd ac am y tro cyntaf fe gafodd y b锚l gron gydnabyddiaeth, er gwaetha'r rhai ohonom a deimlai fel ei hesgymuno.

Ac efallai fod rhai ohonoch yn cofio i ni gynnwys am gyfnod, prisiau'r farchnad anifeiliaid- er fod rhai ohonom oedd yn gweithio ar y rhaglen, hyd heddiw, heb fod yn gwbl si诺r beth yn union ydy 'swynog'!

Yr oedd y gynulleidfa deledol Gymraeg yn y dyddiau pell hynny, dipyn yn haws i'w plesio na heddiw.

'Roedd newydd-deb y cyfrwng ynddo'i hun yn denu carfan o'r gynulleidfa, ond wedi cydnabod hynny yr oedd hi hefyd, yn ddeallus, yn feirniadol, ac yn fy marn i beth bynnag, yn rhyfeddol o soffistigedig.

Yn fwy felly, hwyrach, na'r dyddiau yma.

Teledu di urddas
Fe dreuliodd John a finnau ambell i orig ddigon diflas yn y blynyddoedd diwethaf yma yn gwaredu am y teledu di urddas a drosglwyddir ac a groesewir gan y gynulleidfa heddiw - yn y Gymraeg yn ogystal 芒'r Saesneg.

Y mae technoleg fentrus a brwdfrydedd y cyflwyniad yn aml iawn yn cuddio diffyg deallusrwydd, sylwedd, gwybodaeth, a chefndir.

Poblogaidd heb siarad i lawr
A dyna i chi un o rinweddau mawr eraill cyfraniad John ar y radio ac ar y teledu dros y blynyddoedd.

Llwyddodd i fod yn boblogaidd heb golli urddas ac heb siarad lawr a'i gynulleidfa.

Yr oedd ei holl gynnyrch yn naturiol, ddiffwdan ac urddasol, am fod ganddo barch at bawb oedd yn gwylio ac yn gwrando.

Urddas yn deillio o grefft eiriol gynnil, Feiblaidd, ac o ofal am gynnwys ddiddorol, eang ond cwbl berthnasol.

Yr oedd John yn ymwybodol iawn na allai'r gynulleidfa ateb n么l - dim ond troi i ffwrdd.

Ysbrydoli'r ifanc
Wedi i Nan Davies ymddeol fe drosglwyddwyd yr ofalaeth am Heddiw i John a minnau, a phryd hynny sylweddolais yn llawn nad golygyddiaeth ar gynnwys oedd ei unig gryfder.

Yr oedd ganddo'r ddawn i gefnogi ac ysbrydoli pobol ifainc mewn modd unigryw oedd yn gymysgedd o ganmol, beirniadu miniog, tynnu coes, a bod yn hynod o annwyl - i gyd mewn un sgwrs.

Fe fyddai wrth ei ddesg yn ddyddiol yn dyfal sgwennu sgriptiau, yn smocio'n ddiddiwedd, ac yn clebran yn eithaf rhagfarnllyd am bopeth dan haul, yn enwedig am rinweddau ambell geffyl rasio, ac wrth gwrs am ei arwyr p锚l gron.

Ei arwr - John Charles Ac fel plentyn yn ymffrostio os oedd John Charles wedi ei gyfarch yn y siop bapur y bore hwnnw.

Mi fyddai Hywel Gwynfryn, Owen Edwards, Mary Middleton, Arwel Ellis Owen, Emlyn Davies, Rhys Lewis, Will Aaron, John Bevan, Deryk Williams, Dafydd Huw Williams, Marian Elias, ac eraill, dwi'n siŵr, yn cytuno a mi fod y profiad o weithio efo fo wedi cyfoethogi'n bywydau, ac fe fuodd yn hwyl.

Fe daflodd John oleuni i ni, ar anghenion y gynulleidfa Gymraeg, ac fe bwysleisiodd y cyfrifoldeb o gyfathrebu a hwy mewn iaith a phriod-ddulliau dealladwy, cywir.

Do, fe adawodd ei 么l ar genhedlaeth ohonom a aeth yn ein blaenau cyn hir i gyfrifoldebau eraill wedi elwa o'r gyfathrach glos ag un a ddaeth yn dipyn o arwr i bob un ohonom.

Ffilmiau dogfen
O dipyn i beth fe aeth John hefyd yn ei flaen i gyfrifoldebau eraill, ac yn gyntaf i gynhyrchu ei raglenni unigol ei hun, ac unwaith eto fe drodd at y ffilm ddogfen fel cyfrwng.

Fe ddangosodd O Tyn y Gorchudd, sef y ffilm a gynhyrchodd am y tri brawd dall o Ddinas Mawddwy, ei sensitifrwydd digamsyniol tuag at bobol, a'i werthfawrogiad diarhebol bellach o bynciau emynyddol.

Wedyn, cafodd gryn bleser wrth baratoi cyfres o bortreadau o'i hoff lenorion; T H Parry-Williams, Cynan a Iorwerth Peate.

Cynan Cryfder y rhain oedd llefaru'r beirdd eu hunain heb ymyrraeth.

Mae'n rhaid imi gyfaddef iddo gael tipyn mwy o lwyddiant yn ymgodymu 芒'r byd llenyddol nag a wnaeth yn rhoi cynghorion am y farchnad stoc yn Llygad y Geiniog.

Fe awgrymais i wrtho y byddai wedi bod yn well i 'w gynulleidfa pe byddai o wedi dibynnu ar y bwci dienw oedd wedi dod mor gyfarwydd i ni i gyd.

Llygad craff
Er gwaethaf ei ddiffyg diddordeb yn y dechneg, fe brofodd John unwaith eto yn y cyfnod hwn, fod ganddo gyfraniad diddan i'w wneud fel cynhyrchydd teledu am fod ganddo weledigaeth glir o'r hyn sy'n apelio at gynulleidfa.

Yr oedd gan John lygad craff tuag at ddarlun cymwys - boed lonydd neu symudol, ac yn gwybod yn union beth oedd angen ei dangos, er nad oedd efallai'n gyfarwydd a sut oedd gwneud hynny.

Yn yr un modd ag y cydweithiodd John a Geoff Charles yn Yr Etifeddiaeth fe ffurfiodd bartneriaeth greadigol lwyddiannus a Barrie Thomas, y g诺r camera o Abergwaun yn ei ffilmiau teledu ac fe gafwyd dogfennau cyfoethog i'r glust a'r llygaid.

Ysbryd Sam Jones
Ond cyn hir fe ddaeth cyfle arall i John brofi o'i ddoniau a'r tro hwn fe gafodd gyfle hefyd i droi am adre i'w hen sir.

Pan ymddeolodd W R Owen fel pennaeth y 大象传媒 ym Mangor fe'i gwahoddwyd i gymryd ei le. Fe wnaeth John fwy na hynny wrth gwrs.

Penderfynodd ei bod yn bryd i atgyfodi ysbryd Sam mewn cyfnod digon ansicr yn hanes radio yn y Gymraeg ar ddechrau'r saith degau- y cyfnod cyn cychwyn Radio Cymru.

Yr oedd Canolfan y 大象传媒 i bob pwrpas wedi peidio a bod yn Abertawe a'r ofn oedd y byddai'r un peth yn digwydd cyn hir ym Mangor ond 'roedd John yn benderfynol nad felly y byddai hi.

Mwy na hynny yr oedd hefyd yn dechrau s么n am yr angen i gael stiwdio deledu yno.

Wrth fynd ati i ddadlau ei achos fe welais i ochor newydd eto i'r John Aelod 'rown i'n meddwl mod i'n ei adnabod, sef John y gwleidydd corfforaethol, lle y defnyddiai, nid yn unig ei wybodaeth a'i benderfyniad, ia ei styfnigrwydd, ond y boneddigeiddrwydd soffistigedig cynhenid hwnnw oedd yn arf digon handi wrth ceisio dwyn persw芒d ar ambell i fawrddyn o ganolfannau darlledu'r 大象传媒 yn Llundain ar y pryd.

Wrth iddo ddal ei dir yng nghwmni Kenneth Lamb, Douglas Muggeridge, Ian Trethowan a'r gweddill yr oedd fel pe tae o dras y plas, ond heb golli argyhoeddiad ag etifeddiaeth y Tyddyn Bach.

Er mawr syndod i rai fe ail afaelodd John yng nghynulleidfa draddodiadol nos Sul a chyda chymorth ei hen gyfaill Ifor Bowen Gruffyddfe ddaeth Rhwng G诺yl a Gwaith a gobaith newydd i Fangor ac arferiad newydd i lu o wrandawyr selog.

Fe brofodd ei fod yn olynydd teilwng i Sam am ei fod unwaith eto yn gwybod ym mer ei esgyrn beth oedd yn apelio at y gynulleidfa Gymraeg.

Ac yn union fel y gwnaeth Sam hefyd, fe fu'n ysbrydoliaeth hwyliog i genhedlaeth newydd o ddarlledwyr gafodd y pleser o fod yn yr un lle ar yr un pryd.

Yn ystod ei gyfnod ym Mangor fe fraenarodd y tir yn effeithiol ar gyfer yr holl ddatblygiadau ddaeth i fod yn ddiweddarach yn sgil creu Radio Cymru, ac mae gen i ddiolch bersonol iddo am ei gefnogaeth a'i gyngor doeth wrth geisio sefydlu dau wasanaeth radio cyflawn i Gymru yn ail hanner y Saithdegau.

Cenhedlaeth newydd
Ac mi roedd yna un ffafr arall.
Wrth i'r paratoadau ar gyfer sefydlu S4C fynd rhagddynt fe ddaeth yna genhedlaeth newydd dibrofiad i mewn i adran newyddion 大象传媒 Cymru.

Ar ddechrau'r Wythdegau mi ofynnais i John, oedd bellach wedi ymddeol, a fyddai'n barod i dreulio rai misoedd yn rhannu ei brofiad newyddiadurol a ieithegol a'r newydd-ddyfodiaid hyn.

Fe gymrodd at y dasg gydag arddeliad ac roedd o'n amlwg wrth ei fodd ynghanol y criw ifainc brwd, ac yn cael blas ar fod yn olygydd newyddion unwaith eto.

Fe roddodd drefn ar bethau yn barod i Gwilym Owen gymryd yr awenau'n barhaol.

Y sbectol
Ond nid dyna'r stori ddarlledu i gyd, fel i chi i gyd yn gwybod.

Ar ei ymddeoliad fe gynigiodd Meirion Edwards gyfle iddo droi arferiad oes yn gyfres o raglenni pum munud.

Dros ei sbectol! Yn ystod y chwarter canrif a mwy nesa fe ddaeth Dros Fy Sbectol yn sefydliad radio tebyg i'r Archers, Caniadaeth y Cysegr, Gardeners' Question Time, ac wrth gwrs Letter From America.

Ac yn union fel y gwnaeth Alistair Cooke fe ddaliodd John ati i grynhoi a darlledu ei sylwadau craff, bachog, smala, cynhwysfawr, doeth, teg, a hynod ddifyr hyd y diwedd.

Dywedodd John wrthyf rywdro nad oedd omewn gwirionedd eisio cyfathrebu hefo neb, cymaint oedd ei swildod, ond meddai:
"Yn y swyddi y bum i ynddyn nhw doedd dim rhaid imi neud. Fyddwn i ddim yn gweld y darllenwyr na'r gynulleidfa radio a theledu".

Yr oedd wrth ei fodd yn gwybod faint oedd wedi ei ddarllen neu ei glywed ond dyna'i gyd. Yn sicr fe roddodd Dros fy Sbectol gyfle iddo aros yn y dirgel a bod yn hynod gyhoeddus ar yr un pryd.

Fel pob darlledwr da fe gofiai John bob amser mai siarad ag unigolyn ac nid annerch cynulleidfa yw'r gamp.

Ac yn union fel y gwnaeth arloeswyr yr ysgrif radio yn y Gymraeg o'i flaen -Ifor Williams, Wil Ifan, Tegla, fe afaelodd John yn ei gynulleidfa fawr o unigolion drwy ei swyno, eu procio, a'u difyrru.

Rhyfedd o fyd ynte o gofio mai teclynnau peirianyddol- sef ei gas bethau- a'i gwnaeth yn bosibl i John Roberts Williams, y mwyaf swil ohonom, i ddatblygu'n gyfathrebwr heb ei ail.

Wrth iddo edrych dros ei sbectol fe lwyddodd i gloriannu wythnos o'r byd a'i bethau mewn pum munud.

Ac am iddo edrych ychydig bach yn wahanol ar y byd a'i bethau na'r rhelyw ohonom, trwy ei gyfathrebu cwbl unigryw, fe gyfrannodd yn ddifyr ac amhrisiadwy i'n dealltwriaeth o'r byd a'i bethau am dros drigain mlynedd.

Geraint Stanley Jones

Cysylltiadau Perthnasol



cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy