Gwobrau Tir na n-og 2005 Mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi datgelu enwau'r llyfrau fydd yn cystadlu am Wobr Tir na n-Og 2005.
Hon yw'r brif wobr i awduron llyfrau plant yng Nghymru.
"Mae'n cydnabod safon aruchel llyfrau plant a phobl ifanc yng Nghymru yn y ddwy iaith," meddai. ' meddai Menna Lloyd Williams, Pennaeth Adran Llyfrau Plant y Cyngor Llyfrau.
Mae dwy wobr Gymraeg ac un wobr Saesneg gyda'r awduron sydd ar y rhestrau byr eleni yn gymysgedd o awduron newydd a hen lawiau - rhai wedi ennill y wobr o'r blaen.
Dyma'r rhestr gyflawn:
Ffuglen Orau'r Flwyddyn Eco gan Emily Huws (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion) Graffiti gan Angharad Devonald (Dref Wen) Gwas y Stabl gan Mair Wynn Hughes (Gwasg Gomer) I'r Tir Tywyll gan Elgan Philip Davies (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion)
Llyfr Gorau'r Flwyddyn ac Eithrio Ffuglen Byd Llawn Hud (Gwasg Gomer) Chwyldro! Chwyldro? gan Robin Evans (Canolfan Astudiaethau Addysg) Dwli o Ddifri gan Ceri Wyn Jones (Gwasg Gomer) Hen Wragedd a Ffyn ac Eira Gwyn, gol. Myrddin ap Dafydd (Gwasg Carreg Gwalch)
Llyfr Saesneg Gorau'r Flwyddyn In Chatter Wood gan Jac Jones (Pont Books) Nat gan Margaret Jones (Pont Books) The Seal Children gan Jackie Morris (Frances Lincoln) Turning Points in Welsh History 1485-1914 gan Stuart Broomfield, Euryn Madoc-Jones (Gwasg Prifysgol Cymru)
Bydd enwau'r enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach yn y flwyddyn.