Grwpiau llyfrau ar i fyny Mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi llunio pecyn arbennig i helpu grwpiau darllen.
Yn 么l y Cyngor mae bri mawr ar grwpiau darllen yng Nghymru y dyddiau hyn a grwpiau newydd yn cael eu sefydlu ledled y wlad.
Maen nhw'n cyfarfod mewn lleoedd mor amrywiol 芒 llyfrgelloedd, tafarndai a chartrefi!
Er mwyn cynorthwyo arweinwyr y grwpiau hyn gofynnodd y Cyngor Llyfrau i Bethan M. Hughes o Wasanaeth Llyfrgell Sir Ddinbych baratoi pecyn adnoddau arbennig.
Bydd y pecyn, Rhannu'r Wefr, yn gymorth i unrhyw un sy'n dymuno sefydlu gr诺p newydd, yn ogystal 芒 chynnig syniadau newydd i grwpiau sydd eisoes wedi eu sefydlu.
"Mae grwpiau darllen yn cynyddu yn eu poblogrwydd unwaith eto," meddai Phil Davies ar ran y Cyngor Llyfrau, "ac rydym yn falch iawn o gael paratoi'r pecyn yma ar gyfer yr arweinwyr."
Daw'r syniadau a'r cynghorion ymarferol o brofiad uniongyrchol o ymwneud 芒 grwpiau darllen, a bydd pawb yn siŵr o fwynhau'r ymarferion gwreiddiol a hwyliog sydd yn y pecyn.
"Mae pawb sy'n aelod o gr诺p darllen yn s么n am yr hwyl a'r pleser y maent yn ei gael o ddarllen ystod eang o lyfrau. A dyma nod y pecyn - sef cyflwyno'r pleser o ddarllen," meddai Bethan M. Hughes.
"Ambell waith y mae'r aelodau yn darllen llyfr na fyddent byth wedi breuddwydio ei ddewis - ac yn ei fwynhau. Dyma gyfrinach y grwpiau darllen, mwynhau'r cyfle i arbrofi a thrafod."
Am fwy o fanylion am y pecyn grwpiau darllen cysylltwch 芒 Bethan Hughes ar 01824 708207 neubethan.hughes@sirddinbych.gov.uk.